24/07/2012

Siôn Ffenest - y Dyn Mwyaf Llygredig ym Mhrydain!

Mae'n ymddangos nad yw'r broblem osgoi treth yn cael ei achosi gan yr hynod gyfoethog yn ffidlan eu cyfrifon - mae'n cael ei achosi gan bobl fel fi yn rhoi ffeifar neu debyg i gyfaill am fy helpu allan pan nad yw fy modur yn gweithio - yn ôl un o weinidogion San Steffan David Gauke

Yr wyf hefyd yn chware fy rhan yng nghreu pwll o lygredd drwy dalu fy nglanhawr ffenestri £4:00 mewn arian parod bob mis, heb feddwl am ofyn am dderbynneb TAW, nac hyd yn oed yn gwirio bod y ffenestri wedi cael eu glanhau yn iawn. Gallasai fy nihiryn o lanhawr ffenestri bod wrthi yn casglu miloedd o bedair punnoedd i mewn i gyfrif banc dirgel yn ynysoedd y Cayman pob mis, a thrwy hynny yn cael effaith andwyol iawn ar hynt a helynt economi'r Deyrnas Gyfunol - oherwydd ffyliaid fel fi!

Och a Gwae!

Yr wyf yn erfyn ar y rhai sydd wedi ymrwymo i brotestio yn erbyn osgoi treth i rhoi'r gorau i brotestio yn erbyn pobl di nod fel Syr Phillip Green ar unwaith - dyn bach diniwed ar ymyl y broblem ydyw ef!

Mae'n amlwg mae'r gwir ddrwg yn y caws yw'r cabál llawer mwy llygredig a ffiaidd a arweinir gan neb llai na'r anfaddaeol Siôn Ffenest o Sir Conwy!

2 comments:

  1. Anonymous3:28 pm

    Be sy'n anfoesol yw bod llywodraeth yn defnyddio cyfraith gwlad i hel trethi, ei roi i'r bancwyr yn ddi-amod a chychwyn rhyfeloedd anghyfreithlon.

    ReplyDelete