17/11/2012

Mandad Mawr Winston

Yr wyf wedi derbyn ambell i ddatganiad i'r wasg gan fudiadau sy'n pryderu am y system ddemocrataidd oherwydd cyn lleied a bleidleisiodd yn etholiadau'r Heddlu echddoe. Nid ydwyf am eu hatgynhyrchu hwy, er y byddai gwneud hynny yn fodd o lenwi twll yn fy niffig blogio diweddar.

Yn bersonol yr wyf yn hynod, hynod falch bod cyn lleied wedi pleidleisio.

Yn wahanol i etholiadau rhanbarthol eraill, megis Rhestr Rhanbarthol y Cynulliad a rhestr Cymru gyfan Etholiad Ewrop - i'r unigolyn bu'r bleidlais Comisiynydd, ond efo dim ond 35K pleidlaisa chyn lleied a 15% o'r etholwyr mae Winston Roddick wedi derbyn teirgwaith mwy o bleidleisiau personol na enillwyd gan unrhyw AC o etholaethau tririogaeth Heddlu'r Gogledd a thua dwywaith mwy o bleidleisiau yn fwy nag unrhyw AS o'r Gogledd. Er gwaethaf cyfyngiadau ei swydd, er gwaethaf y diffyg hyder yn y bleidlais, Winston Roddick yw'r person etholedig gyda'r mandad personol mwyaf yng Ngogledd Cymru heddiw - a dyna berygl yr etholiadau hyn! Dychmygwch y grym moesol byddai gan unigolyn a etholwyd i'r swydd pe bai 70 neu 80% ohonom wedi bwrw pleidlais. Dychmygwch yr her y byddai ei farn "democrataidd" ef yn rhoi ar unrhyw bwnc boed tu mewn neu du allan i gyfyngiadau ei swydd.

Bydd y canfyddiad bod gan ambell i Gomisiynydd Heddlu Ceidwadol rhagor o fandad na'r holl ASau Ceidwadol mewn ambell i ranbarth yn creu anghydfod, a bydd yr anghydfod yn arwain at ddiddymu’r drefn yn o fuan, bydd y diffyg pleidleisiau yn cael ei ddefnyddio fel esgus am U dro ac yn rhoi ochenaid o ryddhad i ambell i AS Dorïaidd sy'n ofni gweld Comisiynydd poblogaidd yn anelu am ei sedd!

Nid ydwyf yn rhagweld ail etholiad ar gyfer yr uchel arswydus swydd hon!

3 comments:

  1. Bill Chapman5:37 pm

    "Mandad Mawr"? Dw i ddim yn meddwl.

    ReplyDelete
  2. Anodd dilyn dy ddadl di; mandad gwan iawn sydd gan holl Gomisiynnwyr yr Heddlu gyda'r ganran sydd yn pleidleisio mort isel... cytuno hefo Bill Chapman!

    ReplyDelete
  3. Mae yna elfen o eironi yn y pennawd - sef mae Winston ydy'r unigolyn etholedig gyda'r bleidlais uchaf o holl unigolion etholedig y Gogledd er gwaethaf diffyg hyder amlwg y cyhoedd ym mhroses etholiadol y comisiynydd. Yr eironi yw bod gan Winston mwy o bleidleisiau na Dafydd Elis Thomas, Guto Bebb, Ian Lucas ac ati hyd yn oed ar turnout mor isel.

    Yn amlwg, gyda dim ond 15% o bobl yn trafferthu pleidleisio does dim modd i Winston a'i debyg defnyddio'r ffaith bod ganddynt fwy o bleidleisiau nag aelodau etholedig eraill ar hyn o bryd.

    Ond beth petai Comisiynydd yn cael ei ethol gyda 60, 70, 80% - 150-200 mil o bleidleisiau oni byddai hynny yn rhoi iddynt ddylanwad tu hwnt i'r swydd, yn yr un modd ag y mae gan Faer Llundain llawer mwy o ddylanwad na sydd yn gynwysedig ym manion ei swydd?

    Mae 'na eironi chwerthinllyd yn y ffaith bod gan gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru pedair gwaith mwy o bleidleisiau na gweinidog yn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar bleidlais o dim on 15%. Mi fyddai'n drasig pe bai gan gomisiynydd deg neu ugain gwaith mwy o bleidleisiau na'r Prif Weinidog Cymreig ac yn defnyddio rhif ei bleidlais i ymosod ar Brif Weinidog Cymru yn yr un modd ag y mae Maer Llundain yn ceisio tanseilio Prif Weinidog Prydain ar sail faint ei fandad personol. Gan fod etholiad nesaf y PCC am gyd daro ag Etholiad Cynulliad – mae hynny'n berygl mawr.

    Ceisio mynegi "perygl" bodolaeth y swydd mae'r post – nid clodfori llwyddiant etholiadol y deiliad cyntaf!

    ReplyDelete