22/05/2013

Lleoliaeth - achubiaeth datganoli?

Datganiad i'r wasg gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Diffyg Democrataidd Sesiwn 2



Lleoliaeth - achubiaeth datganoli?



Ar adeg pan fo’r cyfryngau cenedlaethol a rhanbarthol yng Nghymru yn methu’n gyson i ymgysylltu pobl Cymru â gwaith y Cynulliad Cenedlaethol, dymuna Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, eich gwahodd i gymryd rhan mewn trafodaeth ar rôl y cyfryngau rhanbarthol a hyperleol.



Bydd y sesiwn ar ffurf trafodaeth o gwmpas y bwrdd lle gallwch fynegi eich barn ar nifer o sianelau cyfathrebu â chynulleidfaoedd yng Nghymru sy’n newydd ac yn dod i’r amlwg ynghyd â mentrau lleol mwy traddodiadol.



Defnyddir canlyniadau’r sesiwn hon i lunio adroddiad ar sut gall y Cynulliad Cenedlaethol weithio gyda phob rhan o’r cyfryngau yng Nghymru er mwyn annog rhagor o bobl i fod yn ddinasyddion gweithgar. Daw’r digwyddiad hwn ar ôl cynhadledd Prifysgol Caerdydd ar newyddiaduraeth gymunedol, a gynhaliwyd yn gynharach eleni.



Dyddiad: Dydd Mercher 12 Mehefin 2013

Amser: 17.00 – 19.00

Lleoliad: Y Pierhead

Atebwch erbyn: 7 Mehefin

Bydd te a choffi ar gael.



I sicrhau lle, anfonwch e-bost at:

Archebu@cymru.gov.uk

neu ffoniwch 0845 010 5500

#diffygnewyddion

4 comments:

  1. Efallai petaen nhw'n fodlon crwydro ymhellach na'r Pierhead i gasglu barn fe fyddai'r Cynulliad yn ei chael hi'n haws ymgysylltu pobl Cymru â'u gwaith nhw.

    ReplyDelete
  2. Cytuno'n llwyr Ifan. Mae 'na rywbeth afraid bron yn y syniad o gynnal y fath digwyddiad yn y Pierhead - lleoliad bydd yn cael ei mynychu gan griw gallasai’r llywydd ymghynghori a nhw dros banad yn ffreutur y Cynulliad yn feunyddiol

    ReplyDelete
  3. Anonymous7:42 am

    It is perfect time to make some plans for the future and it is time to be
    happy. I've read this post and if I could I want to suggest you few interesting things or suggestions. Maybe you could write next articles referring to this article. I desire to read even more things about it!

    Here is my web page - nokia 808 specification

    ReplyDelete
  4. Anonymous3:48 pm

    If you would like to take a great deal from this article then you have
    to apply these techniques to your won webpage.

    Here is my website ... nokia e5 specification

    ReplyDelete