07/08/2013

Y Berygl o Ffocysu ar y Ceidwadwyr


Dyma sylw diddorol ar Drydar:



Ar yr olwg gyntaf mae'r sylw yn gwbl chwerthinllyd. Mae'r polisïau sydd wedi eu ffocysu gan y Ceidwadwyr yn rhai bydd yn gwbl wrthyn i'r rhan fwyaf o Bobl Cymru.

Un o'r polisïau, er enghraifft yw'r bwriad i ail gyflwyno Addysg Ramadeg yng Nghymru. Yn ddi-os roedd Ysgolion Ramadeg yn llwyddo, i raddau. Ewch trwy'r Bywgraffiadur ar-lein a chwlied hanes unrhyw Gymro neu Gymraes lwyddiannus a addysgwyd rhwng 1900 a 1960; canfyddwch fod y mwyafrif wedi eu haddysgu yn Ysgol Ramadeg Llanbethma.

Methiant yr Ysgol Ramadeg oedd bod pob un a lwyddodd wedi gadael degau ar ôl ar y domen dail o ddiffyg cyfle'r Secondary Moderns bondigrybwyll.

Er gwaethaf pob tystiolaeth i'r gwrthwyneb, mae polisi ffocysu'r Ceidwadwyr yn dal i bedlera'r celwydd bod Parasetamol am ddim ar y GIC yn amddifadu pobl rhag cyffuriau iachau cancr, sydd yn gelwydd llwyr, ond yn troelli da.

OND hwyrach bod gan Darren pwynt teg. Trwy ffocysu ar bynciau bydd Llafur, Plaid Cymru a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn eu gwrthwynebu wrth reddf maent yn creu dau begwn yng ngwleidyddiaeth Cymru "Ni a Nhw", yn cadarnhau eu safle nhw wrth wanhau'r ddadl "go iawn" - y ddadl dylid bod ymysg y pleidiau eraill.

Mae 'na berygl mawr i Blaid Cymru a'r Rhyddfrydwyr i lyncu abwyd y Torïaid a ffocysu ar wrthwynebu polisïau Torïaidd, lle na fydd mawr o fydd etholiadol iddynt, yn hytrach na rhoi eu ffocws ar fethiant, brad a siomedigaeth y Blaid Lafur i werin Cymru.

Yn ddi-os y gelyn i Blaid Cymru yw'r Blaid Lafur, nid y Torïaid - nid UKIP. Yr unig ffordd i Blaid Cymru llwyddo yw trwy anwybyddu'r sioeau ymylol a chanolbwyntio ar gipio cefnogaeth oddiwrth Llafur, trwy wrthwynebu Llafur yn hytrach na gwrthwynebu gelynion Llafur.

Gwendid mwyaf Plaid Cymru yw'r temtasiwn i anelu at y cocyn hawdd i'w hitio yn hytrach nag anelu pob ergyd at y Goliath Mawr

5 comments:

  1. Strategaeth y Blaid ar hyn o bryd dwi'n meddwl ydi ffocysu ar ei pholisiau ei hun a pheidio poeni llawer am y pleidiau eraill.

    ReplyDelete
  2. Pe bai hynny'n wir Cai, mi fyddai'n strategaeth ôd ar y diawl mae bron yn amhosib i blaid wleidyddol bodoli mewn gwactod.

    ReplyDelete
  3. Dyna ddigwyddodd yn Ynys Mon. Prin y soniodd y Blaid am y pleidiau eraill - ond roedden nhw yn siarad amdanon ni yn ddi baid.

    ReplyDelete
  4. Anonymous12:55 am

    Mae Mr Hill yn ceisio gwthio naratif sy'n ffocysu ar ddadleuon Tori v Llafur Prydeinig gan ei fod yn siwtio ei wleidyddiaeth.

    ReplyDelete
  5. Cai, mae yna wahaniaeth rhwng y "poeni dim" am bleidiau eraill yn dy sylw gyntaf a'r "roedden nhw yn siarad amdanom ni yn di baid" yn dy ail ymateb. Yn dy ymateb gyntaf yr wyt yn awgrymu bod modd i'r Blaid Cymru bodoli mewn gwagle; yn yr ail yr wyt yn gwneud y pwynt llawer pwysicach bod raid i'r Blaid achub ar bob cyfle i osod yr agenda y mae'r pleidiau eraill yn ymateb iddi. Y pwynt rwy'n gwneud yn yr erthygl yw ei fod yn bwysig bod Plaid Cymru ddim yn llyncu abwyd y Torïaid pan y font hwy yn ceisio gosod yr agenda. Fel mae Dienw 12:55 AM yn nodi bydd swcro cenedlaetholwyr i mewn i ddadl Llafur v Tori yn siwtio gwleidyddiaeth yr unoliaethwyr. A does dim ddwywaith mae'r Blaid wedi cael ei swcro yn y fath modd yn y gorffennol; wedi bod yn rhan o'r pac gwrth Torïaidd yn hytrach na sefyll yn erbyn yr holl unoliaethwyr.

    ReplyDelete