03/10/2013

Carlo - Bardd pwysicaf Cymru?


Be oedd y stori ar raglen newyddion ITV Wales heno i nodi ddiwrnod barddoniaeth? Bod beirdd Cymru wedi cyfrannu 100 cerdd newydd i'n cyfoeth barddonol cenedlaethol neu fod Carlo 'di darllen rhyw bwt o farddoniaeth Gymreig?

Oes rhaid gofyn?

Mewn gwlad sydd mor gyfoethog ei thraddodiad barddol a oes wir angen i ddifetha ei ddiwrnod o ddathlu trwy ei ddefnyddio fel esgus arall eto byth i lyfu tin y frenhiniaeth?




3 comments:

  1. Paid â moedro dy ben gyda rhyw hen farddoniaeth a chyffelyb bethau gwastraffus, Alwyn ! Yli, os y gwnei di lyfu pen ôl y taeog mi fyddi di'n sicr o gael câch drewllyd drwg-ei-flas ar dy dafod ond, ar y llaw arall, os y gwnei di lyfu pen ôl gwhanol aelodau o'r frenhiniaeth onid yw'n bosibl y cei di ychydig o aur a gwerthfawr bethau eraill arni ? Onid yw hynny'n ddigon o esgus dros ymroi i'r fath ffwlbri ?

    ReplyDelete
  2. Twt lol botas Dafydd, os mae clod ac anrhydedd sy'n mynd a'th bryd mae gen ti gwell siawns o enill gadair Prifwyl a sy gen ti o enill OBE

    ReplyDelete
  3. Roedd llew yn llyfu'i ben ôl mewn sŵ.
    " Duwcs, dyna lew dôf ", meddai ymwelydd.
    " Dydy hwnna ddim yn llew dôf ", meddai ei geidwad. " Mae newydd lyncu Nick Clegg ! "
    " Pam mae'n llyfu'i ben ôl, ynteu ? " gofynodd yr ymwelydd.
    " Ceisio cael gwared o'r blas drwg ar ei dafod mae'r creadur ", meddai ceidwad y llew.
    Rho wên ar dy wyneb, Alwyn !

    ReplyDelete