17/11/2013

Cymraeg gan Swinton? Dim diolch!

Ar wefan (a chylchgrawn) Golwg 360 mae 'na stori am Gwmni Siwrin Swinton yn gwahardd y Gymraeg.

Hen stori ffiaidd yr ydym yn hen gyfarwydd â hi gan gwmniau o'r fath, ysywaeth.

Bendith fwyaf yr hanes yw'r sylwadau o dan yr erthygl lle mae pobl yn nodi nifer o gwmnïau siwrin sydd yn cynnig gwasanaeth Gymraeg yn naturiol heb ofyn na phrotest nac ymgyrch. Sydd yn codi cwestiwn am brotest yn erbyn y rhai sy'n sarhau'r iaith:

Pam ceisio cael cwmni mawr fel Swinton i newid ei pholisi iaith yn hytrach nag annog pobl i siwrio trwy gwmnïau fel yr NFU, Tarian, HLW Caerfyrddin ac ati, sydd yn ddiofyn, di-ymgyrch di-brotest eu cefnogaeth i'r Gymraeg?

Pe bai Swinton yn Cymreigio, oni fyddai hynny yn esgus inni beidio a chefnogi'r cwmnïau bach lleol?

Yn ôl yn y 70au rwy'n cofio fy hen gyfaill Neil Siencyn yn gofidio bod rhai o ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith yn arwain at gael arwyddion a ffurflenni Cymraeg mewn Swyddfeydd Post tra fo mwyfwy o Saeson yn dyfod yn Bostfeistri gan arwain at fwy o arwyddion Cymraeg ond llai o wasanaeth Cymraeg! Dyna berygl brwydro yn erbyn gwrth Cymreictod Swinton. Mae na berygl byddid ennill y frwydr yn niweidio cwmniau llai, naturiol eu Cymreictod. sy'n cynnig gwasanaeth bersonol trwy'r Gymraeg.

Tra fo gwasanaeth Cymraeg / Cymreig / lleol ar gael pam pwyso ar gwmni rhyngwladol i ddarparu'r Gymraeg? Onid gwell cefnogi ac adeiladu'r cwmniau lleol Cymraeg a Chymreig ac anwybyddu'r estroniaid a'u hagweddau hurt tuag at ein hiath?

3 comments:

  1. Cytuno 100%. Roedd y 'fuddugoliaeth' o gael Amazon i werthu e-Lyfrau i ni'n Gymraeg yn wyrdroedig dros ben - hwythau wedi ein sarhau'r iaith i'r eithaf fwy na heb (heb son am eu hanes diweddar am beidio talu threthi), ond yn lle sdicio dau fys atynt, mae'r Cymry Cymraeg yn mynnu bod ganddynt hawl i stwffio arian ym mhocedi'r cwmniau amlwladol hyn.

    Fel mae'n digwydd, ro'n i wedi bod gyda ysririant car drwy NFU ers i mi gael car yn 1996 (fy nhad yn ffarmwr a fo sortiodd popeth i mi). Roedd hi'n braf iawn ffonio'r swyddf ayn Rhuthun a chael trafo dyn Gymraeg, ond roedd y pris wedi cynyddu cryn dipyn y ddwy flynedd diwetha a dyma fi'n newid cwmni llynedd am y tro cyntaf, i'r AA (Royal Sun Allaince) wedi defnyddio moneysupermarket.com. Ac mi ges i ddamwain car.... Bu rhaid galw sawl tro a siarad gyda cymaint o wahanol bobl (yn Saesneg), tra d i'n swir byddai un galwad i swyddfa lleol NFU Rhuthun wedi sortio'r cyfan. Do arbedais arain ar y premwin, ond roedd llawer o sdrach wedyn.

    ReplyDelete
  2. Anonymous8:20 am

    Fi'n cytuno hefyd. Mae union run peth gyda Undeb Rygbi Cymru - nes fod Cymry Cymraeg yn protestio drwy beidio mynd I'r gemau, fydd ambell I tweet bob yn hyn a hyn yn poeni dim arnyn nhw.

    Ydi hyn yn golygu mai arno ni y bobl mae'r bai, yn hytrac nag ar y cwmnioedd ma?

    ReplyDelete
  3. Dafydd T6:42 pm

    Wel, er bod gennych bwynt dilys, mae na bwynt pwysig sydd wedi cael ei golli - sef hawliau staff y cwmniau hyn i siarad Cymraeg yn eu gwaith. Hynny yw, cytunaf fod angen cefnogi cwmniau yswiriant lleol sy'n cefnogi'r Gymraeg, ond cofia hefyd bod nifer o Gymry Cymraeg yn gweithio i'r cwmniau hyn, oni ddylai fod ganddyn nhw hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith hefyd? Felly, er bod symud at gwmniau lleol yn gallu gwneud cyfraniad, mae'n rhaid brwydro dros hawliau staff y cwmniau hyn i siarad Cymraeg yn eu gwaith ymysg ei gilydd a chyda chwsmeriaid hefyd.

    ReplyDelete