12/02/2014

Chwip Din i'r Cynulliad

Roedd gwrando ar ddadl ar ddisgyblu plant ar Y Dydd yn y Cynulliad yn werth aros fynnu yn hwyr y nos ar ei gyfer. Roedd nifer o ddadleuon call yn cael eu gwneud o'r ddwy ochor. Rwy'n credu bod y Cynulliad wedi gwneud y penderfyniad cywir i beidio a chynnwys deddfwriaeth ar ddisgyblu plant fel cynffon i'r Mesur ar Wasanaeth Cymdeithasol. Ond yn wir obeithio bydd cynnig unigol ar y pwnc yn cael ei gyflwyno yn fuan.

Roeddwn yn cytuno, i raddau, efo rai o sylwadau Darren Millar a Byron Davies. Mae rhieni sydd yn curo eu plant mewn modd disgybledig yn rhieni cariadus sydd yn dymuno'r gorau ar gyfer eu plant. Ond heb fy mherswadio mae caniatáu iddynt i barhau i guro eu plant yw'r ffordd gorau iddynt barhau i fynegi'r gorau ar eu cyfer.

Rwy'n cofio adeg, yn ôl yn y chwedegau, pan ddaeth Taid a Nain acw jest ar ôl i mi cael chwip din gan Dad am ryw ddrwg weithrediad, a Taid yn ceisio fy nghysuro trwy ddisgrifio'r gosb y bydda fo di cael am yr un drosedd ar droad y ganrif cyn ddiwethaf - ei ddinoethi o flaen y teulu cyfan a chael ei guro â wialen bedw hyd fod gwaed yn llifo - roeddwn yn lwcus bod y byd wedi ei wareiddio i'r fath raddau mae llaw draws trowsus ym mhreifatrwydd stafell gwely cefais i!

Doedd fy Nhad ddim yn fwystfil anhrugarog am chwipio fy nhin yn y ffordd wnaeth, doedd fy Hen Daid ddim yn byrfert rhywiol am ddisgyblu ei fab mewn modd byddai'n sicr o'i roi ar y gofrestr troseddwyr rhywiol pe bai'n digwydd heddiw. Roedd y ddau yn dadau cariadus a oedd yn gwneud yr hyn yr oeddynt yn credu oedd y gorau ar gyfer eu plant o fewn safonau eu hoes. Ond mae'r oes wedi newid. Dwi ddim yn bradychu Dad na'i amharchu trwy beidio chwipio tinau fy mhlant yn y modd cafodd fy nhin i'w chwipio ganddo ef - jest yn derbyn bod pethau'n wahanol a derbyn bod modd amgenach i ni ddangos ein cariad at blant.

Roedd un agwedd o'r ddadl yn peri pryder imi, cyfeiriodd sawl gyfrannydd i'r drafodaeth am greu troseddwyr o rieni - dadl gwan; yr hyn sydd yn peri gofid imi yw creu troseddwyr o blant!

Rwy'n ddigon hen i gofio dyddiau'r gansen yn cael ei ddefnyddio mewn ysgol (ar "blant" digon hen i bleidleisio - gan fod ambell AC wedi gofyn am oedran rhoi gorau i guro!) Rwy'n falch bod y gansen wedi ei wahardd, byddwn byth am weld ei ail gyflwyno - OND un o'r pryderon i mi pan oedd fy mhlant yn mynd trwy'r ysgol oedd clywed son am yr heddlu yn cael eu galw i'r ysgol ac achosion llys yn deillio, o ddigwyddiadau lle byddwn i wedi derbyn y gansen. Ar y cyfan rwy'n falch fy mod wedi cael cansen oedd yn brifo am wythnos yn hytrach na record droseddol bydda'n brifo am oes!

Rwy'n lled gytuno a'r bwriad i wahardd disgyblaeth gorfforol ar blant, cyn belled a chaf y sicrwydd mae'r rhiant, nid y wladwriaeth, bydd yn pennu’r gosb pan fo plentyn, wir yr, yn haeddu'r amgen i chwip din!

No comments:

Post a Comment