08/04/2014

Cymraeg "Ar y Gweill"

Bron i flwyddyn yn ôl cafodd y Cyngor Cymuned Lleol dipyn o anghydfod, pan benderfynodd y cyngor i beidio a dilyn traddodiad canrif oed o beidio ac ethol yr is-gadeirydd yn awtomatig i'r Cadeiryddiaeth. Wedi i bwyllgor safonau Sir Conwy edrych ar yr anghydfod cafwyd bod ein cyfansoddiad (a grëwyd yn wreiddiol tua 1974, mi dybiaf) yn annerbyniol a chawsom wŷs i'w diweddaru er mwyn adlewyrch newidiadau a fu yn neddfwriaeth yn ystod y 40 mlynedd diwethaf ac ati.

Cawsom gyngor i ddilyn drafft cyfansoddiad Un Llais Cymru, a dyna a wnaed. Ar y cyfan bu ddrafft Un Llais Cymru yn ddefnyddiol tu hwnt, bu angen tocio man hyn ychwanegu man draw er mwyn ddibenion lleol ond daeth y Cyngor i gytgord o ddefnyddio'r drafft, wedi ei addasu.

O dan Cynllun Iaith y Cyngor mae'n rhaid i ddogfennau, megis cyfansoddiad, bod yn ddwyieithog. Yn hytrach na thalu am gyfieithiad o'r cyfan o'r cyfansoddiad, gofynnodd y Cyngor i Un Llais Cymru am fersiwn Cymraeg y drafft, er mwyn i'r cynghorwyr Cymraeg rhugl rhoi llinell goch trwy'r darnau amherthnasol a chyfeirio'r darnau a addaswyd i'n cyfieithydd. Yr ymateb cawsom oedd bod y fersiwn drafft o dan hawlfraint National Association of Local Councils Lloegr, ac na fyddai hawl gennym i gyfieithu unrhyw ran ohono i'r Gymraeg a bod hawl cyfieithu wedi ei wrthod, hyd yn hyn, gan NALC, sydd yn creu cyfyng gyngor i mi.

Gallem ymofyn cyfreithiwr i greu cyfansoddiad, annibynnol o'r drafft, ar ein cyfer ni yn unigol - costio ffortiwn! Gallwn gogio bod ein cyfansoddiad wedi ei greu yn annibynnol a thalu am gyfieithu pob gair - ffortiwn arall; neu gallwn basio'r cyfansoddiad Saesneg efo addewid bod fersiwn Cymraeg ar y gweill. Mi fyddwn yn pleidleisio yn erbyn, ond mi dybiaf mai ar y gweill bydd yn ennill y dydd, ac mae "ar y gweill" bydd ein cyfansoddiad Cymraeg am byth bythoedd.

Wrth ddilyn cyfeiriadau Un Llais, fy nheimlad oedd bod Glan Conwy yn hwyr i'r sioe. Sy'n codi'r cwestiwn - Sawl Cyngor bach Cymreig sydd au cyfansoddidau Cymraeg  ar y gweill o dan yr un rwystredigeth?

No comments:

Post a Comment