11/06/2014

It's the Drains Stupid!


Rwy’n hynod hoff o fy AS gyfredol Guto Bebb, roeddwn yn meddwl y byd o'i ragflaenydd Beti Williams, ei rhagflaenydd hi Syr Wyn a'i ragflaenydd ef Ednyfed Hudson Davies - anghytuno'n llwyr a gwleidyddiaeth pob un ohonynt, ond yn gwybod, yn ddiamheuaeth ers imi symud i arfordir y Gogledd o Feirion pe bai gen i broblem eu bod yno i wrando a gweithredu ar fy rhan, dwi ddim yn sicr sut mae'r system gwleidyddol yn gweithio yn Lloegr, ond yn ddiamheuaeth mae'r lleol yn gweithio yng Nghymru!

Gwendid Plaid Cymru dros y blynyddoedd ers cychwyn datganoli bu rhoi gormod o bwyslais ar ennill etholiadau Cynulliad, San Steffan ac Ewrop yn lle brwydro i ennill cefnogaeth ar lawr gwlad, cael cenedlaetholwyr i ennill sedd ar y cyngor cymuned ac wedyn y Cyngor Sir!

Yn di os does dim modd i Blaid Cymru ennill y Brwydr Prydeinig, ei unig obaith yw ennill y brwydr lleol. Cafodd 80% o gynghorwyr cymuned eu hethol yn diwrthwynebiad yn 2012. Pam na wrthwynebwyd y rhan fwyaf ohonynt gan ymgeiswyr y Blaid?

Roedd gan y BNP mwy o ymgeiswyr na Phlaid Cymru mewn ambell i Gyngor Sir yn 2012! Pam?

Os yw Plaid Cymru am lwyddo yn etholiadau Cynulliad, San Steffan ac Ewrop, mae'n rhaid iddi lwyddo yn gyntaf ar raddfa Cymuned a Sir.

Cefais i ddim cyfle i bleidleisio Plaid Cymru yn yr etholiadau Cyngor Sir diwethaf, mae hynny'n wendid, os oes "toriad" yn fy arfer o bleidleisio i'r Blaid ar y Cyngor, bydd torri'r arfer yn haws mewn etholiadau eraill.

Yn aml mae pobl yn gofyn pam bod yr ymgyrch cenedlaethol wedi llwyddo yn yr Alban yn well nag yng Nghymru, mae nifer o ffug atebion yn cael eu cynnig. Y gwir yw bod yr SNP wedi ymladd 90% o etholiadau lleol, a Phlaid Cymru wedi ymladd llai na 20%!

Yr unig ateb i ddyfodol Plaid Cymru yw sicrhau bod PAWB yng Nghymru yn gallu pleidleisio i'r Blaid yn etholiadau lleol 2017, a bod y rhai sy'n cael eu hethol yn ymgyrchu mewn etholiadau "uwch"! A phan ddaw cwyn am y Drains bod Cynghorydd PC yno i'w hateb!

1 comment:

  1. Anonymous10:09 pm

    Pwynt digon dilys - ond fel un sy'n byw yng Ngheredigion, rhaid cyfaddef i mi gael sioc pan gafodd Penri James ( a fu ar y cyngor am flynyddoedd) fwy o gweir na Simon Thomas ( a oedd yn sicr yn fwy o ddyn syniadau na dyn 'trwsio pafin' ) Beth aeth o'i le ?

    ReplyDelete