28/11/2015

Rhugl?

Fel Blog Menai mae gennyf bryderon mawr am y ffordd mae Golwg yn adrodd arolwg am rugledd yn y Gymraeg.

Be di rhugl? Sut mae'n cael ei werthuso?

Cefais fy magu trwy'r Saesneg, dechreuais ddefnyddio'r Gymraeg yn fy arddegau hwyr / ugeiniau ifanc (amser maith yn ôl bellach, ysywaeth) rwy'n Gymro Ail Iaith yn ôl ambell i ddiffyniad, yn cael fy nghyfrif fel Sais, o hyd, gan ambell i gyn cyd ddisgybl ysgol.

Nid oes gennyf glem am reolau'r treigliadau mae 'na siawns 75% yn erbyn 25% o blaid i mi cael y treigliad yn gywir heb wirio, a hynny o arferiad yn hytrach na dealltwriaeth o'r rheolau. Er fy mod yn Hen Rech Flin sy'n negyddol am bopeth, rwy'n cael anhawster enfawr efo ysgrifennu brawddegau negyddol yn y Gymraeg. Rwy'n hynod ansicr o rediadau berf, yn arbennig, felly, yn yr amserau amherffaith a'r rhediadau o bod! Mae fy Nghymraeg yn gachu, ond yn gachu dealladwy, a gan hynny yn gachu rhugl, am wn i.

Problem unigryw'r unigolyn dwyieithog!

Pe bawn yn uniaith Saesneg, efo Saesneg baw isa’ domen, byddwn yn dweud fy mod yn rhugl yn y fain. Y broblem efo Cymry dwyieithog yw eu bod yn cymharu eu gallu i Siarad Saesneg wael dderbyniol, nid efo Cymraeg wael dderbyniol, ond efo'r gallu i siarad Cymraeg perffaith ac yn penderfynu nad yw eu Cymraeg yn ddigon da.

Rwyf wedi bod yn sôn am hyn am dros 30 mlynedd bellach, ond heb gael cefnogaeth gan Gymdeithas yr Iaith, Plaid Cymru na'r Comisiwn Iaith: mae angen cymhwyster sy'n dweud wrth bobl bod eu Cymraeg yn "ddigon da" boed Lefel un- Dealltwriaeth Sylfaenol, Lefel Tri - Cymraeg at Iws Gwlad, Lefel Pump - Arbenigwr.

Rhaid wrth gymhwyster Cymraeg sy'n profi bod y Gymraeg yn ddigon da yn hytrach nag hunan asesiad sy'n dweud y gwrthwyneb mewn anwybodaeth barhaus.

1 comment:

  1. Mae cymhwysterau ar gael gan yr CBAC, am wn i. Gw: http://www.wjec.co.uk/qualifications/welsh-for-adults/ Maent yn dilyn graddfa'r fframwaith Ewropeaidd cyffredin: https://en.wikipedia.org/wiki/Common_European_Framework_of_Reference_for_Languages ond ddim yn mynd yn uwch na B2 am ryw reswm.

    ReplyDelete