16/04/2016

Cwestiwn Dyrys am Ymarfer Corff

Mae 'na Gampfa yng Nghyffordd Llandudno a gyflenwyd fel rhan o'r cytundeb i adeiladu safle Tesco; mi fyddai'n groes i'r gyfraith imi awgrymu bod elfen o lygredigaeth perthnasol rhwng y deupeth, gan hynny nid ydwyf am wneud y fath sylw, ond rwyf am holi a byddai cerdded o Lan Conwy i Tesco yn well i'r galon na thalu am awr yn y jim?


Cwestiwn Dyrys

1 comment:

  1. Fel rhywun sy'n ymddiddori ym maes gwyddor chwaraeon ac yn cymryd rhan yn ddyddiol, buaswn yn dweud bod y ddau yn wahanol.

    Dylai pawb bod yn cerdded er lles cyffredinol i'r corff - symud y gwaed, awyr iach, a hyn oll heb roi straen ar y corff (codi hormonau straen etc.).

    Mae codi pwysau, neu redeg am amser yn rhoi straen gwahanol ar y corff o'i gymharu a cherdded. Dylai pawb wneud tipyn bach o bopeth.

    ReplyDelete