Showing posts with label Blog Menai. Show all posts
Showing posts with label Blog Menai. Show all posts

25/07/2014

Pwy laddodd Iesu Grist?


Fel anghydffurfiwr fy ateb yw mai FI lladdodd yr Iesu, gan iddo farw er mwyn maddau FY mhechodau.

Mae'r Beibl yn awgrymu bod yna ryw fath o gynllwyn rhwng yr Iddewon a'r Rhufeiniad i'w dienyddio heb osod bai penodol ar y naill ochr na'r llall ond gan ddatgan yn weddol glir ei fod wedi marw dros bechodau ei ddilynwyr.

Mae'r Eglwys Gatholig Rufeinig yn credu ei fod yn etifedd i'r Ymerodraeth Rufeinig, a gan hynny wedi mynd dros ben llestri i brofi mae'r Iddewon nid yr Ymerodraeth Rufeinig bu'n gyfrifol am ladd yr Iesu (er gwaetha'r ffaith mae'r Rhufeinwyr oedd yr awdurdod dros achosion y gosb eithaf ar y pryd). Yr angen yma i ddargyfeirio'r bai o Rufain i'r Iddewon sydd wedi bod yn gyfrifol am erledigaeth yr Iddewon fel Grist Laddwyr am ganrifoedd.

Mae'r Beibl yn dweud bod yr Iesu wedi ei ddienyddio yn ei ddillad ei hun - dillad Iddew. Mae Josephus yn awgrymu bod y condemniedig yn cael eu dienyddio'n noethlymun; byddai Crist noethlymun hefyd yn dangos ei fod yn Iddew. Mae'r traddodiad darluniol o ddangos Crist ar y groes yn gwisgo dim ond rhecsyn lwynau yn ymgais i guddio ei Iddewiaeth er lles achos Rhufain.

Rwy'n cael anhawster derbyn honiad Cai bod yr Iwerddon Rufeinig yn barth lle fu llai o erledigaeth ar yr Iddewon nag unrhyw ran arall o Ewrop, tra fu Eglwys Rufain yn bennaf gyfrifol am yr erlid!

Mae Cai yn llygad ei le wrth ddweud bod y Black Shirts wedi dwyn cefnogaeth o Lafur Prydain a Thorïaid Prydain, ond cawsant eu diarddel o'r naill blaid a'r llall. Eu cyffelyb yn yr Iwerddon oedd y Blue Shirts ffasgwyr nas ddiarddelwyd o Fine Gael, un o brif bleidiau'r Iwerddon hyd heddiw.

Dwi ddim yn cytuno a chefnogaeth unllygeidiog Guto Bebb i orthrwm Israel ar Balestina, ond yn ei gefnogi parthed hanes wrth Iddewiaeth yn yr Iwerddon!

10/12/2012

Piso ar fedd Syr Patrick Moore?

Mae gan BlogMenai post od, ar un olwg, sy'n cwyno am y ffaith bod marwolaeth y diweddar Syr Patrick Moore yn cael ei grybwyll gan raglenni newyddion y BBC!

Mi fyddai'n anfaddeuol pe na bai'r BBC, a chyfryngau lu byd-eang, heb gyhoeddi marwolaeth Sir Patrick Moore a thalu teyrnged iddo. Roedd cyfraniad Syr Patrick i seryddiaeth a darlledu yn amhrisiadwy.

Awdur dros fil o gyhoeddiadau ar seryddiaeth, newyddiadurwr a holodd bron pawb a gododd oddi ar y ddaear o'r brodyr Wright i ddyfeiswyr @MarsCuriosity, y darlledwr a chyflwynodd y gyfres teledu hiraf di-dor yn hanes darlledu'r byd.

Ar lefel bersonol mi wyliais The Sky at Night am y tro cyntaf ychydig ar ôl i fy rhieni prynu teledu am y tro cyntaf tua 1963, ac yr wyf wedi dilyn y rhaglen yn rheolaidd ers hynny. Ychydig ddyddiau yn ôl mi wyliais y diweddaraf yn y gyfres pan oedd Syr Patrick yn addo rhoi cyngor ar sut i osod a defnyddio telesgopau siop a ddaw fel anrhegion Nadolig yn y rhaglen nesaf. Gan fy mod wedi cael telesgop ac wedi methu gweithio allan sut i'w ddefnyddio i weld y sêr llynedd, yr oeddwn yn edrych ymlaen at ei gyngor.

Ond rwy’n cytuno a byrdwn sylwadau Cai. Mae pob teyrnged yr wyf fi wedi ei weld ar y BBC ac mewn llefydd eraill yn cyflwyno ochr arall bywyd y gwrthrych trwy nodi ei gyfraniad i gerddoriaeth. Efo pob parch i'r ymadawedig, 'doedd o ddim yn gerddor arbennig. Mae yna ugain cerddor gwell ym mhob pentref cefn gwlad yn Ewrop. Byddai Syr Patrick ddim yn cael llwyfan mewn eisteddfod leol am ei ddawn ar y clychau taro na'r piano.

Ochr arall go iawn Syr Patrick Moore oedd ei gwleidyddiaeth, roedd gwleidyddiaeth yn bwysig iddo ac yr oedd yn hynod weithgar yn y byd gwleidyddol - ond roedd ei wleidyddiaeth yn drewi!

Ymateb Syr Patrick i'r ymgyrch am Sianel Gymraeg oedd mai gwell pe byddid Sianel ymylol i fenywod, er mwyn rhyddhau'r sianeli go iawn ar gyfer dynion!

Yr oedd Syr Patrick yn hilgi balch, yn gwrthwynebu unrhyw mewnfudo i Brydain am unrhyw reswm.

Yr oedd o'n genedlaetholwr Saesnig a wrthododd llenwi Cyfrifiad 2001 gan nad oedd modd iddo ddatgan mae Sais yn hytrach na Phrydeiniwr ydoedd ar y ffurflen (chware teg iddo). Ond fel ambell i genedlaetholwr o Sais yr oedd o'n casáu cenedlaetholdeb Albanig, Cymreig a Gwyddelig, ac roedd ei gasineb tuag at y Gymraeg yn ddiarhebol!

Doedd Syr Patrick dim yn un am guddio ei farn wleidyddol dan lestr! Sefydlodd, a bu'n arweinydd plaid wleidyddol Neo-Natsiaidd. Hyd at bythefnos cyn ei farwolaeth yr oedd yn ganiatau i'w enw cael ei ddefnyddio i gefnogi UKIP mewn is etholiadau.

Roedd gwleidyddiaeth, annerbyniol i'r mwyafrif, Syr Patrick yn rhan annatod o'i fywyd. Mae nodi ei wleidyddiaeth anoddefgar yn tynnu'r goron o drysor cenedlaethol oddi ar ei ben, ond mae hefyd yn amharchu'r gwron -doedd gan Patrick dim cywilydd o'i wleidydda piser. Mae'r cyfryngau sy'n cuddio'r agwedd yna o'i fywyd yn fethu creu gwir coffa amdano!

Heddwch i dy lwch y Serydd Patrick Moore – gorffwys mewn hedd – ond mi bisaf ar dy fedd y Sais anoddefgar o Gymreictod!

06/04/2011

Disunited Anti-Welsh Llafur

Pan waelais i'r poster United and Welsh ar FlogMenai am y tro cyntaf, fy nheimlad oedd un o ddicter a chenfigen.

Dyma boster gan grŵp all-bleidiol yn awgrymu sut i bleidleisio yn dactegol er mwyn sicrhau nad yw Llafur yn cael goruchafiaeth ar wleidyddiaeth Cymru eto eleni. Pam fod copi (dienw) wedi ei ddanfon i FlogMenai ond nid i mi ffor ff... sec?

Pe bawn wedi cael yr e-bost di enw a dderbyniwyd gan FlogMenai, mi fyddwn wedi llyncu'r abwyd ac wedi ei gyhoeddi fel ymgyrch go iawn a oedd yn llawn haeddu ei gefnogi.

Y mae'n gwbl amlwg, bellach, mae bwriad danfon y post at FlogMenai, yn unig, o flogwyr Cymru oedd er mwyn i Cai llyncu'r abwyd a chyhoeddi ei gefnogaeth llwyraf i'r ymgyrch o bleidleisio i'r Ceidwadwyr mewn sawl etholaeth. Diolch byth, fe welodd Cai gwendidau'r ddadl, a'i chondemnio.

Pe bai Cai wedi llyncu'r abwyd mi fyddai'r Blaid Lafur wedi cynhaeafu'r ffaith bod prif blogiwr y Blaid wedi cefnogi'r fath gachu - heb ots dyna oedd y bwriad; hwyrach bod y bwriad yn fwy eithafol byth sef ceisio gorfodi'r Blaid i ddiarddel Cai o'u restr o gefnogwyr blogiawl - neu wneud prif blogiwr Plaid Cymru yn embaras i'r Blaid!

Diolch byth eu bod wedi methu!

Caru neu gasáu BlogMenai, mae ei gyfraniad i fyd blogio yn y Gymraeg yn un enfawr. Mae ymgais y Blaid Lafur i'w danseilio mewn ffordd dan din, yn hytrach na chreu blog Llafur Cymraeg o safon i ddadlau yn ei erbyn yn adrodd cyfrolau am eu hagwedd tuag at yr Iaith Gymraeg!

Ond os ydy adran triciau budron y Blaid Lafur am hysbysu nad oes ganddynt obaith yng Ngorllewin Caerdydd, Gorllewin Caerfyrddin, Caerffili, Glyn Nedd, Gogledd Caerdydd, De Clwyd, Gorllewin Clwyd, Bro Morgannwg, Gwyr, Brycheiniog a Maesyfed, Canol Caerdydd, Gorllewin Casnewydd a Dwyrain Abertawe - pa hawl sydd gyda fi i anghytuno a'u hasesiad?

17/11/2010

Yn ail i Cai eto byth!

Rwy'n ddiolchgar i Gylchgrawn Golwg am ddyfarnu fy myfyrdodau fel ail flog Cymraeg gorau'r bydysawd.

Fel yr wyf wedi dweud bron pob tro yr wyf wedi derbyn "gwobr" am flogio, rwy'n casáu’r syniad bod mynegi barn yn beth gystadleuol i'w gwneud; mae yna wastad berygl bod dyn yn newid ei farn er mwyn cipio'r wobr - neu yn wir yn newid ei arfer. Rwy'n cynnal dau flog - yr un yma yn iaith y Nefoedd ac yr un acw yn y fain, bai (sef arfer i'w newid) yn ôl beirniaid Golwg:
"un o brif ffaeleddau’r blog wleidyddol yma yw bod gan yr awdur flog Saesneg"
Am sylw hurt! Mae fy myfyrdodau Cymraeg yn ffaelu oherwydd fy mod hefyd yn myfyrio yn fy iaith gyntaf! Gwir yr?

Pe na bawn yn blogio yn Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg a fyddwn wedi cael siawns o gipio'r brif wobr?

Oni bai am y llall, ai'r blog hon, yn hytrach na blog dwrdio plant ddrwg Cymru am boeri gwm ar fuarth y Blaid gan yr Hen Sgŵl byddai ar y brig?

I ddweud y gwir rwy'n poeni braidd bod Macsen yn hen snich sydd yn dymuno imi gael y gansen gan y prifathro o herwydd imi gael fy nal ar ddiwedd fy mhost diwethaf gyda'r English Not ar fy mrest.

12/07/2010

GT a rhagrith Maes-e!

Nos Sadwrn am 9 o'r gloch yr hwyr fe bostiodd Blog Menai post yn annog pobl i ail afael ar ddefnydd o fwrdd trafod Maes-e

Mae'r ffaith bod maes e wedi bod mor ddistaw yn ddiweddar yn golled i'r graddau bod yna gymuned fach Gymraeg wedi peidio a bodoli i bob pwrpas. Yn wir mi fyddwn yn meddwl bod y maes yn gyfle prin i bobl sy'n byw mewn ardaloedd llai Cymreig i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a chael bod yn rhan o gymuned Gymreig. Felly beth am fynd ati i gofrestru? - byddai'n braf adfywio'r fro fach Gymraeg yma.

Rwy'n cytuno 100%.

Mae Blog Menai yn awgrymu mae un o'r rhesymau am ddistawrwydd y parth o'r maes yr oedd ef a fi a Guto Bebb AS yn mynychu mwyaf yw efallai bod yr arfer o flogio yn un o'r rhesymau hynny.

Rwy'n anghytuno. Pan ddechreuais i flogio rhyw dair blynedd yn ôl roedd negeseuon ar barth Materion Cyfoes y Maes yn sbardun i nifer o bostiadau ar fy mlogiau. Diffyg ysbrydoliaeth o'r Maes yw rhan o'r rheswm paham bod cyn lleied o byst yn cael eu postio yma ac acw bellach.

GT yw ffug enw Blog Menai ar Maes-e. Er iddo ofyn i ddarllenwyr ei flog i ail afael ar ddefnydd o'r Maes 36 awr yn ôl, nid ydyw wedi defnyddio'r Maes ei hun ers yr wythfed o Ragfyr llynedd!

Rhagrithiwr!

Lle mae barn GT ar ymgeisyddiaeth Ron Davies ar ran y Blaid yng Nghaerffili?

Lle mae'r cwestiwn Cwis Bach Hanesyddol nesaf ar y parth y mae o'n ei gymedroli?

Be di pwynt o greu post blog yn gofyn i eraill i ail afael a'u defnydd o'r Maes heb wneud esiampl cyn postio?!

ON Rwy’n Mawr obeithio nad yw'r Gath yn teimlo ei fod ef yn oruwch trafodaethau'r Maes yn ei uchel arswydus swydd newydd!

31/05/2010

Dim Sylw!

Yr wyf am fynd am dro bach i wlad bellennig am yr ychydig ddyddiau nesaf.



Y tro diwethaf imi fod i ffwrdd o gartref ac o'r cyfrifiadur, gadawyd sylw enllibus cas am Cai Larson ar un o fy mhyst. Diolch byth mai am Cai ydoedd ac nid am unigolyn efo bwyell i'w hogi, a bod Cai wedi deall fy arafwch i gael gwared â'r sylw . Rhag bod yr un peth yn digwydd eto yr wyf wedi gosod cymedroli ar bob sylw, a ni chaiff yr un sylw ei gyhoeddi cyn imi gyrraedd Cymru'n ôl nos Wener nesaf.

Rwy'n ymddiheuro am yr anghyfleustra bydd hyn yn achosi i'r miloedd bydd am adael sylw yn ystod y pum niwrnod nesaf, ond gwell hynny na chael llythyr twrne i'm croesawu adref!

20/01/2010

Clwb Bulington Gwynedd




Yn ôl y cyfaill BlogMenai, Llais Gwynedd yw ffrindiau gorau newydd Dafydd Cameron yng Ngogledd Orllewin Cymru. Dyw'r llun ddim yn gweithio imi rywsut!

Y feirniadaeth a glywir yn erbyn y Torïaid fel arfer yw eu bod yn blaid sydd yn ymosod ar wasanaethau cyhoeddus trwy dorri ar wario a chau adnoddau. Rhyfedd fod blaid sydd am amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyhuddo o fod yn Dorïaid gan y blaid sydd am ymosod ar wasanaethau cyhoeddus trwy dorri ar wario a chau adnoddau yng Ngwynedd!


10/10/2009

Yr orthrymedig rai

Mae fy nghyfeillion blogawl Cai a Rhydian yn aml yn fy nghyhuddo o chware'r cerdyn ormes yn ormodol yn fy amddiffyniad o genedlaetholdeb diwylliannol. Y maent yn honni bod hyn yn fy ngosod ar yr ymylon yn hytrach nag ym mhrif ffrwd cenedlaetholdeb.

Twt lol botas medda fi. Os yw gwladweinydd amlwg a barwn y cyfryngau yn teimlo ei fod ef hefyd yn perthyn i'r orthrymedig rai, yr wyf fi yn y brif ffrwd ac mae fy ngormeswyr (sef Cai a Rhydian yn benodol) yn amlwg yn y lleiafrif ymylol :-)

19/09/2009

Annhegwch Sylwadau Enllibus

Y mae'n amlwg nad oes gan ddim un o'r sylwadau i fy mhost diwethaf flewj o ddim i wneud efo'r post gwreiddiol. Maent i gyd yn ymwneud a sylw enllibus a wnaed yn erbyn Cai.

Y mae Cai a fi yn hoff o anghytuno a'n gilydd. Trwy anghytuno yr ydym yn cadarnhau ein cyd amddiffyniad o'r egwyddor bod Rhydd i Bob un ei Farn ac i Bob Barn ei Llafar

Dyma'r un a'r unig blog gwleidyddol Cymraeg sydd ddim yn cymedroli sylwadau. Y rheswm "da" am beidio cymedroli yw bod cymedroli yn tarddu ar drafodaeth rydd. Y rheswm ymarferol yw fy mod yn methu bod ynghlwm i gyfrifiadur 24 awr y dydd ac yr wyf, am resymau personol, yn fwyaf tebygol o fod ar lein yn ystod oriau man y bore. Sef yr adeg pan na fydd llawer o drafodaeth "byw" yn digwydd.

Dwi ddim yn postio pob dydd yn y naill iaith na'r llall gan nad ydwyf adref 7 diwrnod yr wythnos. Yr wyf newydd ddychwelyd o gyflwyno achos Llys yng Nghaerdydd. Tra yn y Brifddinas cefais alwad ffôn yn dweud wrthyf fod cwyn am sylw enllibus yn bodoli ar fy mlog. Fe gostiodd £4 imi gael mynediad i'r we i ddileu'r sylw salw!

Dwi ddim am gymedroli pob sylw. Rwy'n postio er mwyn ymateb!

Ond mae sylwadau enllibus gan eraill yn fy ngosod i mewn sefyllfa annheg. Sef fy mod i yn cael y bai ac yn cymryd y baich cyfreithiol am bob dim mae unrhyw gôc oen gwirion am ei ddweud yn y parth sylwadau.

Yr wyf am erfyn ar y cociau wŷn i beidio a defnyddio fy mlog bach i ar gyfer sarhau eraill. Os ydych yn teimlo bod eich sarhad yn gyfiawn creuwch eich blog eich hunain a chymerwch y baich cyfreithiol ar eich ysgwyddau eich hunain.

Cachwr yw un sydd yn taflu sarhad o dan faich cyfreithiol un arall. Cachwr dan din sydd yn anharddu'r traddodiad Cymreig o ryddid mynegiant cyfrifol.

16/09/2009

Cysur i Cai.

Mae Cai druan yn poeni am ei safle yn y blogosffer mawr. Ar hyn o bryd ef yw'r blogiwr gwleidyddol Cymraeg fwyaf poblogaidd yn y Byd i gyd a'r trydydd yng Nghymru fach ddwyieithog. Mae o'n poeni bod Simon am ei guro'r flwyddyn nesaf i'r ail safle o ran blogwyr mwyaf poblogaidd Cangen Caernarfon o Blaid Cymru.

Cafodd y rhestrau lleol eu tynnu allan o restr Prydeinig cynhwysfawr. Mae Guerilla Welsh Fare prif blogiwr Cymru ym mhell ar y blaen yn y rhestr Prydeinig ar rif 36. Mae Blog Menai yn rhif 53 o gymharu a rhif 251 salw Simon. Ond Mae'r ail yn y rhestr Gymreig (blog Saesneg fi) yn rhif 50 sydd yn awgrymu bod fy mwyafrif i dros Cai cyn deneued a mwyafrif Gwynoro dros Gwynfor yn Chwefror '74!

Rhif 146 yw fy mlog Cymraeg. Erbyn ertholiadau blogawl 2010 byddwyf wedi agor cannoedd o gyfrifon e-bost i sicrhau mae fy mlogiau i bydd y gydradd gyntaf trwy'r bydysawd i gyd.

Mae hynt a helynt y blogiau Cymreig eraill i'w gweld yma 1-100; 101 i 200, 201 i 300.

04/04/2009

Sâl Tibars Cai

Wrth glodfori'r cyfraniad enfawr mae Blog yr Hen Rech Flin yn gwneud i ddealltwriaeth o wleidyddiaeth Gwynedd mae fy nghyfaill Blog Menai yn drysu ei gyfraniad, yn ei modd arferol, trwy son am gawl. Y mae'n debyg bod fy mlog i yn debyg i Gawl Cennin! Nid ydyw'n bolisi yma i siomi neb! Os oes ymwelydd wedi pigo draw ar gyngor fy nghyfaill i chwilio am reseit ar gyfer cawl gorau Cymru dyma ddolen i reseit gan Delia Smith.

Mae Mrs Smith yn un o dras Gymreig, mae ei gwreiddiau yn ardal yr Arthog Sir Feirionnydd. Mae'n siŵr y bydd hi wrth ei fodd o gael gwybod bod ardal ei hynafiaid bellach yn cael ei gynrychioli mor glodwiw ar y Cyngor Sir gan gynrychiolydd Llais Gwynedd.

Gan fod Cai yn credu mai Cawl Cennin (hynod flasus) yw fy mlog innau ac mae cawl rwdins yw blog y Cynghorydd Gwilym Euros, teg yw gofyn sut fath o gawl sydd yn cael ei gynnig gan Flog Menai? Yn rhyfedd iawn mae yna gawl o Lithwania sydd, fel petai, wedi ei enwi ar gyfer Blog Menai Sal Tibarsciai: Mae'n oer, yn ddiflas, yn sur ac yn cynnwys dim maeth o gwbl :-)

27/12/2008

Cwestiwn o egwyddorion

Cwestiwn:
Aelod o ba Blaid Wleidyddol sydd yn dweud ar ei flog:

Bod y rhai sydd yn credu mewn annibyniaeth i Gymru yn snobiaid
Bod y sawl sydd am amddiffyn yr iaith yn ideolegol naïf
Bod y rhai sydd am gefnogi cymunedau Cymreig yn bobl sydd heb unrhyw ddealltwriaeth wleidyddol

A) Aelod eithafol gwrth Gymreig o'r Blaid Geidwadol?
B) Un o ddinosoriaid Plaid Lafur y Cymoedd?
C) Un o gefnogwyr mwyaf triw Plaid Cymru?

Y syndod yw mai C yw'r ateb cywir.

31/10/2008

Gwobr Hen Rech Flin

Pe bai'r Hen Rech Flin am wobrwyo, idiotrwydd llwyr a chyfan gwbl, fel y mae Blog Menai yn awgrymu dylwn wneud byddwn yn enwebu'r post yma gan Flog Menai am urdd uchaf yr anrhydedd.

Oes yna unrhyw beth mwy idiotaidd nag aralleirio barn yr wyt yn anghytuno ag hi er mwyn ei bardduo, yn hytrach nag ymateb i'r ddadl graidd? A wnes i roi'r bai ar y cyfryngau am achosi ffliw'r adar neu am greu'r pwysau ariannol, fel mae Cai yn awgrymu? Naddo, yr hyn a ddywedais oedd bod y BBC ac eraill yn gyfrifol am greu panig gormodol parthed y pynciau. Mae nifer o arweinwyr busnes ac eglwysig wedi gwneud yr un sylw. Ond mae'n siŵr mae idiotiaid yw'r rhain hefyd gan nad ydynt yn cytuno a barn unllygeidiog Cai a'i blaid.

A ydy Madrwyddygryf yn idiot am wneud y sylw bod rhai o Gymry Cymraeg Ceredigion yn gyfrifol am anfon Mark Williams AS i San Steffan, fel mae Cai yn honni? Wrth gwrs nad ydyw, mae o'n ddweud y gwir. Fe arhosodd rhai o Gymry Cymraeg Ceredigion adref yn hytrach na phleidleisio i Blaid Cymru oherwydd ffrae'r maer, fe bleidleisiodd nifer o Gymry Cymraeg Ceredigion i bleidiau eraill yn hytrach na chefnogi'r Blaid, ac mae yna graig o draddodiad o gefnogi rhyddfrydiaeth ymysg rhai o ffermwyr Cymraeg Ceredigion. Idiot bydda'r dyn sydd yn credu bod modd adennill y sedd i'r Blaid heb geisio cael y Cymry Cymraeg hyn i bleidleisio i Blaid Cymru eto neu am y tro cyntaf.

Mae ceisio cysylltu barn Still a Liberal a fy marn i yn gwbl chwerthinllyd o idiotaidd. Mae hyn mor hurt â phe bawn i yn ceisio cysylltu barn Cai a sylwadau diweddaraf David Davies AS.

Ond y prif reswm am gynnig gwobr am idiotrwydd i Flog Menai yw oherwydd ei fod yn rhy idiotaidd i sylweddoli pa mor idiotaidd yw ei ddiffiniad o idiotrwydd, sef barn nad yw'n cytuno a hi, ond nad yw'r gallu ganddo i gynnig ateb rhesymol iddi.