Showing posts with label Blogio. Show all posts
Showing posts with label Blogio. Show all posts

26/04/2010

Mae Guto Bebb yn Gachgi!

Mae croeso i unrhyw un gwneud sylwadau ar flog Yr Hen Rech Flin. Oni bai eu bod yn enllibus neu yn groes i gyfraith bydd y sylwadau yn sefyll. Os ydynt yn dangos fy mod wedi gwneud camgymeriad yn fy sylwadau, os ydynt yn fy nghyhuddo o fod yn wirion yn fy asesiad o sefyllfa wleidyddol, os ydynt yn honni y dylwn wedi rhoi mwy o ddŵr yn y chwisgi cyn dweud fy nweud, mae'r sylwadau yn cael eu cyhoeddi.

I mi dyma sylwedd blog, lle i ddweud fy nweud a lle i eraill gwneud sylwadau i wrthddweud yr hyn a ddwedwn. Yn anffodus, er gwaethaf imi wneud sylwadau ar y saith post diweddaraf ar flog Guto nid oes un ohonynt wedi eu cyhoeddi yno.

Os oes gan Guto ofn sylw beirniadol, ofn anghytundeb ac ofn dadl a oes ganddo'r sylwedd i fod yn AS dros holl aelodau ei etholaeth?

06/12/2009

Ydy'r HRF o blaid Lladd yr wrth Gymraeg?

Gan fy mod wedi penderfynu cael hoe fach o'r pwysau uffernol sydd yn dod o ysgrifennu blog Saesneg, mi benderfynais roi peiriant Google Translate ar y safle hwn rhag ofn bod rhai o fy nghyn darllenwyr Saesneg am gael cip o'r farn yr wyf yn parhau i'w fynegi yn y Gymraeg.

Mae'r teclyn i'w gweld ar ochor chwith y sgrin rhwng bathodyn Maes-e a bathodyn Rwy'n Cefnogi Annibyniaeth.

Yr wyf yn ansicr o gallineb osod y teclyn, gan fod ambell i gyfieithiad yn awgrymu bod fy marn yn fwy hurt na'r hurtiaf y mae Cai wedi eu gwobrwyo am idiotrwydd.

Er enghraifft mae cyfieithiad o'r post yma yn awgrymu fy mod o blaid llofruddiaeth dorfol o'r gwrthbleidiau er mwyn amddiffyn y Gymraeg:

What is great is that the buoyancy, the fire in the belly, and the fall out has pasiwn raised when members of the party killed four of their opponents for compromise on the future of the language.

Ond wedi fy nghyhuddo o gefnogi llofruddio pedwar cyfaddawdwr er mwyn addiffyn yr iaith mae'r peiriant cyfieithu yn amau fy niffuantrwydd. Dyma'i gyfieithiad o benawd y post gyfredol:

Slaughter - is the HRF in favour of the Gymraeg?

Gwell imi gael gwared â'r peiriant cyfieithu cyn iddi fy arwain i ddyfroedd dyfnion iawn, mi dybiaf !!!!!!!!!!

19/09/2009

Annhegwch Sylwadau Enllibus

Y mae'n amlwg nad oes gan ddim un o'r sylwadau i fy mhost diwethaf flewj o ddim i wneud efo'r post gwreiddiol. Maent i gyd yn ymwneud a sylw enllibus a wnaed yn erbyn Cai.

Y mae Cai a fi yn hoff o anghytuno a'n gilydd. Trwy anghytuno yr ydym yn cadarnhau ein cyd amddiffyniad o'r egwyddor bod Rhydd i Bob un ei Farn ac i Bob Barn ei Llafar

Dyma'r un a'r unig blog gwleidyddol Cymraeg sydd ddim yn cymedroli sylwadau. Y rheswm "da" am beidio cymedroli yw bod cymedroli yn tarddu ar drafodaeth rydd. Y rheswm ymarferol yw fy mod yn methu bod ynghlwm i gyfrifiadur 24 awr y dydd ac yr wyf, am resymau personol, yn fwyaf tebygol o fod ar lein yn ystod oriau man y bore. Sef yr adeg pan na fydd llawer o drafodaeth "byw" yn digwydd.

Dwi ddim yn postio pob dydd yn y naill iaith na'r llall gan nad ydwyf adref 7 diwrnod yr wythnos. Yr wyf newydd ddychwelyd o gyflwyno achos Llys yng Nghaerdydd. Tra yn y Brifddinas cefais alwad ffôn yn dweud wrthyf fod cwyn am sylw enllibus yn bodoli ar fy mlog. Fe gostiodd £4 imi gael mynediad i'r we i ddileu'r sylw salw!

Dwi ddim am gymedroli pob sylw. Rwy'n postio er mwyn ymateb!

Ond mae sylwadau enllibus gan eraill yn fy ngosod i mewn sefyllfa annheg. Sef fy mod i yn cael y bai ac yn cymryd y baich cyfreithiol am bob dim mae unrhyw gôc oen gwirion am ei ddweud yn y parth sylwadau.

Yr wyf am erfyn ar y cociau wŷn i beidio a defnyddio fy mlog bach i ar gyfer sarhau eraill. Os ydych yn teimlo bod eich sarhad yn gyfiawn creuwch eich blog eich hunain a chymerwch y baich cyfreithiol ar eich ysgwyddau eich hunain.

Cachwr yw un sydd yn taflu sarhad o dan faich cyfreithiol un arall. Cachwr dan din sydd yn anharddu'r traddodiad Cymreig o ryddid mynegiant cyfrifol.

17/07/2009

Pleidleisia i FI (a naw sy’ ddim cystal)

Nid ydwyf yn hoffi gwobrau i bobl sy’n mynegi barn, boed gwobr Pulitzer neu wobrwyon 10 uchaf Iain Dale.

Y drwg yw bod anelu am y fath wobrau yn gallu ffrwyno barn.

Y mae’n ffaith hysbys bod y mwyafrif llethol o’r pyst ar flogiau gwleidyddol Gymreig yn cefnogi Plaid Cymru. Yr wyf i wedi danfon ambell i bost sy’n feirniadol o’r Blaid. Dyna fi wedi piso yn y nyth, parthed ennill pleidleisiau fel y blog Cymreig gorau yn y byd.

Pe bawn wedi brathu fy nhafod ....

Pe bawn wedi cymedroli fy meirniadaeth jyst ychydig bach ....

Pe bawn wedi ceisio deall ochr arall y ddadl yn hytrach na’i feirniadu’n hallt ....

.... A fyddai obaith mae fy mlog i fyddai’r ceffyl blaen i ennill gwobr prif blogiwr Cymru, Prydain, y Byd a thu hwnt?

Os mae’r ateb yw ie, yna mae’r gwobrau yn ffurf ar sensoriaeth!

Dyna paham nad ydwyf yn gôr hoff ohonynt.

Ta waeth, rhaid byw mewn byd lle mae’r fath gwobrau’n bod ac mi fyddai’n braf gweld un neu ddau o flogiau Cymraeg / Dwyieithog yn y 100 uchaf yn chwifio’r faner dros yr henwlad a’r heniaith.

Mae’r manylion ar sut i bleidleisio yma

15/07/2009

Blog y Gath

Newydd ddeall bod y Gath Du, neu Guto Bebb ymgeisydd Ceidwadol Aberconwy, bellach yn rhan o fyd y blogiau.

Gellir darllen ei berlau o ddoethineb yma.

10/06/2009

Y Blogosffêr Gwleidyddol Cymraeg.

Mae'r Blogiau'n ddylanwadol yn ôl Cylchgrawn Golwg.

Mae rhai yn honni bod blogio wedi newid Gwleidyddiaeth yr UDA,

Ond eto byth dim ond pedwar blog Gwleidyddol Cymraeg sy'n bodoli.

Fy Hen Rech Flin

Blog Menai

Y Blog Answyddogol

A Blog Vaughan Roderick.

(O rain, dim ond fy mlog i sydd yn derbyn sylwadau heb eu gwirio, er mwyn annog drafodaeth byw!)

Mae blogiau Pendroni Gwilym Euros a Phlaid Bontnewydd yn rhoi pyst Gymraeg rheolaidd lan ac mae Penri James, Plaid Wrecsam a Pholitics Cymru yn cynnig pyst Cymraeg achlysurol.

Mae Gwenu Dan Fysiau, Yr Hogyn o Rachub a Rhys Llwyd yn trafod y byd wleidyddol yn achlysurol.

Os yw blogio i fod yn rhan hanfodol o wleidyddiaeth y dyfodol, mae di ganu ar wleidydda trwy gyfrwn y Gymraeg yn ôl pob tystiolaeth.

22/05/2009

Golwg a Byd y Blogiau

Ers rhifyn yr wythnos diwethaf mae fersiwn lladd coed Golwg wedi cynnwys colofn o'r enw Byd y Blogiau. Y rheswm pam bod Golwg yn cynnwys y golofn newydd, yn ôl yr is pennawd, yw oherwydd bod Y Blogiau'n Ddylanwadol.

Mae dylanwad y blogiau yn fater o farn, hwyrach, ond y farn sy'n cael ei gyhoeddi yn y cylchgrawn yw bod y blogiau'n ddylanwadol. Mor ddylanwadol bod angen i Golwg cyhoeddi yr hyn maen nhw'n ei ddweud.

Rwy'n ddiolchgar i awdur y golofn am roi sylw i ddylanwad blog yr Hen Rech Flin yr wythnos diwethaf (er mae at bost ar Miserable Old Fart roedd yr erthygl yn cyfeirio).

Nodwyd post gan Cynical Welshman yr wythnos diwethaf hefyd, er mae post gan y Cynical Dragon ydoedd. Yn y rhifyn cyfredol ceir cyfeiriad at bost gan Welsh Mam, sy'n wir gyfeirio at bost gan Valleys Mam.

Nid hollti blew yw nodi camgymeriadau y golofn. Nid camgymeriadau dibwys mohonynt.

Os ydy Golwg yn credu bod y blogiau'n ddylanwadol, ac yn teimlo bod angen i'w darllenwyr cael gwybod yr hyn y maent yn eu dweud, mae'n rhaid wrth gywirdeb i alluogi darllenwyr y cylchgrawn cael gafael ar y pyst gwreiddiol. Does dim modd dod o hyd i bost Mam trwy roi Welsh Mam i mewn i beiriant chwilio.

Peth hawdd ar y we yw rhoi ddolen i wefan arall. Does dim modd gwneud hynny mewn print. Ond bydda nodyn bach ar waelod y golofn yn nodi cyfeiriadau'r blogiau a gyfeiriwyd atynt yn gymorth.

e.e. Cyfeiriwyd at y blogiau yma yn y golofn:
http://miserableoldfart.blogspot.com
http://henrechflin.blogspot.com/
http://www.cynicaldragon.com/
http://merchmerthyr.blogspot.com/

08/04/2009

Neges Uniaith

Mae Dyfrig wedi ysgrifennu post dwyieithog ar ei flog answyddogol am ei brofiad yn y drafodaeth am flogio yng Nghynhadledd y Blaid. Y rheswm pam ei fod yn ddwyieithog yn hytrach nag yn y Gymraeg yn unig yn ôl ei arfer yw oherwydd

fe ddywedodd Iain Dale ei fod wedi mynd i edrych ar flogiau ei gyd-banelwyr i gyd cyn dydd gwener, ac ei fod yn siomedig nad oedd wedi gallu deall fy negeseuon i. Felly, yn arbennig ar gyfer Iain, dyma neges ddwyieithog."


Yn gyntaf, Dyfrig, be di'r ots os ydy Iain Dale yn ddeall dy gyfraniadau neu ddim? Hyd yn oed pe bai ti wedi ysgrifennu dy holl byst yn Saesneg rwy'n amau na fyddai Mr Dale a'i debyg yn rhan o dy gynulleidfa targed ta waeth.

Pan ddechreues i flogio mi drïais ysgrifennu pyst dwyieithog mewn un lle, ond roedd o'n edrych yn flêr ac yn drwsgl. A dim ond pobl Cymraeg eu hiaith oedd yn eu darllen - roedd y di Gymraeg ddim yn hoffi sgrolio i lawr at y post Saesneg!

Rwy'n cael anhawster efo blogiau dwyieithog fel un Gwilym Euros. Rwy'n ansicr os dylid ymateb yn y Gymraeg, yn y Saesneg neu yn ddwyieithog. Mae'n anodd cael unrhyw fath o drafodaeth ystwyth ar bost dwyieithog.

Mi ymgeisiais am gyfnod i gadw dwy flog lle'r oedd yr un post ar y ddwy flog yn gyfieithiadau o'i gilydd. Ond fuan y rhois i'r gorau i'r arferiad yna hefyd. Rwy’n brin o sgiliau'r cyfieithydd proffesiynol ac yr oeddwn yn teimlo bod fy nghyfieithiadau o'r naill iaith neu'r llall yn brennaidd. Bellach rwy'n cadw dwy flog lled annibynnol o'i gilydd. Er fy mod yn dal i ysgrifennu ar yr un pwnc ar y ddwy yn achlysurol bydd y pyst yn gyfansoddiadau unigol. Y drwg efo'r arferiad yma (yn fy achos i, o leiaf) yw fy mod bellach wedi ysgrifennu llawer mwy o byst yn y Saesneg nag ydwyf yn y Gymraeg. Yn bennaf gan mae'r Saesneg yw fy iaith gyntaf a fy mod yn ei chael hi'n haws i ysgrifennu yn yr iaith honno. Ond mae'n rhannol oherwydd y temtasiwn, yn arbennig pan fo amser yn brin, i ddarparu ar gyfer y gynulleidfa fwyaf yn unig. (Ac mae fy nghynulleidfa Saesneg bron i 2000% yn uwch na'r un Gymraeg. Mae deud hynny yn gwneud imi deimlo fel aelod o'r CBI yn gwneud esgusodion!)

Ar ddiwedd y dydd rhaid derbyn mae rhywbeth unigol, egotistaidd, hyd yn oed yw blogio. A'r polisi gorau yw gwneud yr hyn yr wyt ti yn bersonol hapus yn ei wneud ar dy flog dy hun a naw wfft i bawb arall!

08/11/2008

Hen Rech Ryngwladol!

Mae'r mwyafrif (86%) o'r bobl alluog a deallus sydd yn picio draw i'r blog 'ma i ddarllen fy mherlau o ddoethineb yn dod o'r DU. Ond o wirio fy ystadegau cefais fy syfrdanu o weld bod pobl o bob parth o'r byd yn pigo draw yn achlysurol.

Yn ystod y mis diwethaf daeth ymwelwyr o'r UDA, Sbaen, Canada (diolch Linda), Ffrainc, Macedonia, Sweden, Yr India, Colombia, Yr Almaen, Mecsico, Brasil, Awstralia, Seland Newydd, Twrci, Yr Iwerddon, Gwlad Belg, Yr Ariannin, Gwlad Thai, Saudi Arabia, De'r Affrig, Malasia, Gwlad Pwyl, Latfia, Portiwgal, Yr Eidal, Gwlad Groeg, Hwngari, Awstria, Cyprys, Norwy, Yr Aifft, Japan, Israel, Rwsia a'r Swistir.

Gorau Cymro, Cymro oddi cartref. Diwcs, mae'n ymddangos bod blog yr Hen Rech yn gwneud mwy i hybu cytgord rhyngwladol na'r Cenhedloedd Unedig!

09/09/2008

Blogio Cynhadledd y Blaid

Rwyf wedi cael gwahoddiad i flogio'n fyw o Gynhadledd Plaid Cymru.

Rwy'n hynod ddiolchgar i'r Blaid am y gwahoddiad. Rwy’n credu bod y Blaid y flaengar am gynnig y fath wasanaeth. Ac, o ystyried rhai o'r pethau cas yr wyf wedi dweud yn erbyn y Blaid ar y blog 'ma, mae'n gynnig dewr a rhyddfrydig hefyd.

Yn anffodus, oherwydd dyletswyddau teuluol, mae'n rhaid imi ymwrthod y cynnig eleni.

Gobeithio bydd rhai o'r blogwyr eraill sydd wedi cael yr un cynnig yn gallu ei dderbyn. Edrychaf ymlaen at ddarllen eu cyfraniadau.

Mae blogio'r gynhadledd wedi bod yn rhan allweddol o ymgyrchoedd ymgeiswyr Arlywyddol yr UDA eleni. Mae'n annhebyg bydd blogio Cynhadledd Aberystwyth mor ddylanwadol - ond mae'r hyn sy'n bwysig ochor arall i'r Iwerydd heddiw fel arfer yn magu pwysigrwydd yma ym mhen y rhawd. Pwy a ŵyr?

Rwy'n cicio fy hunan fy mod yn methu derbyn y gwahoddiad eleni, ac yn gobeithio mae nid camgymeriad gweinyddol oedd fy ngwadd!

Gobeithiwn y caf wahoddiad tebyg eto gan y Blaid. Ac os caf fod mor hy, gan TUC Cymru, Plaid Lafur Cymru, Ceidwadwyr Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Llais ac ati, hefyd!