Showing posts with label Cofio. Show all posts
Showing posts with label Cofio. Show all posts

31/08/2014

Atgof am Ryfel

Roedd Hedd Wyn yn perthyn o bell i mi. Wrth gofio'r rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, "perthnasau o bell" bydd pob perthynas i'r mwyafrif ohonom mi dybiaf. Perthynas o bell oedd y bardd Wilfred Owen hefyd. Ac mewn sefyllfa o gynghanedd od bron ym Mhrifwyl Penbedw 1917 roedd Prifardd y Gadair (Hedd Wyn) yn perthyn i Dad a Phrifardd y Goron (Wil Ifan) yn perthyn, drwy briodas, i Mam.

Mae perthyn i Hedd Wyn bron iawn yn "obsesiwn" ar edeifion safleoedd Hel Achau, a does dim rhyfedd am hynny. Roedd Hedd Wyn yn perthyn i deulu mawr, ac fe ddefnyddiwyd ei hen, hen daid Hugh Humphrey, Tafarn yr Helyg, Maentwrog gan yr achydd Cymreig academaidd gyntaf ers dyddiau Hywel Vaughan, Bob Owen, fel "enghraifft" o ddiwylliant enwi Cymreig. Rhywbeth sydd yn gwneud Hedd yn berthynas hawdd ei ganfod mewn cyfnod lle mae enwau cyffredin yn creu dryswch i'r hanesydd teuluol.

Ond nid enw enwog ar achres yw Hedd Wyn i mi ond person yr wyf yn cofio Taid yn sôn amdano o'i nabod. Ar sôn, ymysg y teulu, oedd bod Lloyd George a JMJ wedi trefnu ei gadeirio a'i lofruddio ar faes y gad er mwyn sicrhau Cadair Ddu er les achos y rhyfel! Conspiracy theory di-sail, o bosib, ond yn sicr un gyffredin ym Meirion sydd heb ei wirio na'i wrthod na'i drafod gan ymchwilwyr ysywaeth.

Wrth edrych ar fy ngardd achau rwy'n gweld enwau degau o berthnasau mwy agos na Hedd Wyn / Wilf Owen yn flodau sydd ynddi, ac yn teimlo'n drist braidd bod eu marwolaethau hwy yn cael eu hystyried yn llai pwysig gan y cyfryngau. Colled oedd colled i bawb o bob gradd. Roedd colli Wncl Huw cymaint o loes a cholli Elsyn!

Fy hoff gerdd gan fy nghyfyrder Wilfred Owen yw Dulce et Decorum, sydd yn gwrthgyferbynnu'r gwahaniaeth rhwng y propaganda a'r gwirionedd. Dydy fy hoff gerdd gan fy nghyfyrder Hedd Wyn ddim yn gerdd Rhyfel go iawn gan nas ysgrifennwyd yng ngwres y gad; ond mae ei glywed yn dod a dagrau pob tro: Cerdd syml, ddibwys bron, ond dyhead pob milwr am fod adref unwaith eto, cyn mynd dros y clawdd!

Atgof
Dim ond lleuad borffor
Ar fin y mynydd llwm;
A sŵn hen afon Prysor
Yn canu yn y cwm.