Showing posts with label Comisiwn etholiadol. Show all posts
Showing posts with label Comisiwn etholiadol. Show all posts

20/07/2011

Gwendid adroddiad Y Comisiwn Etholiadol

Er gwaethaf addewid y byddwn yn cael copi o'r adroddiad cyn gynted iddo gael ei gyhoeddi, yr wyf yn dal i ddisgwyl am adroddiad y Comisiwn Etholiadol i'w canfyddiadau parthed y gwersi a ddysgwyd ar gynnal refferendwm o brofiad Refferendwm Cynulliad Cymru eleni.

Er gwaethaf nifer o sylwadau a wnaed gennyf parthed fy mhrofiad fel un a ymgeisiodd am hawl i gofrestru fel prif ymgyrchydd, rwy’n teimlo yn siomedig iawn bod pob un o fy sylwadau wedi eu hanwybyddu.

Un o’r sylwadau a wnaed oedd bod safle'r Comisiwn bron yn amhosibl ei lywio yn y Gymraeg, mi lenwais ffurflen gais Saesneg gan nad oedd modd imi gael hyd i fersiwn Cymraeg ohono - er gwaethaf sicrwydd bod y ffurflen ar gael rhywle ym mol y safle yn y Gymraeg. Er gwaethaf addewid o gael copi o adroddiad y Comisiwn, bu'n rhaid imi chwilota amdani ar y wefan, wythnos ar ôl ei gyhoeddi; hyd yn hyn, dim ond y fersiwn Saesneg yr wyf wedi cael hyd iddo. Mae'n debyg bod fersiwn Gymraeg ar gael rhywle yn y crombil, ond dyn a ŵyr sut mae cael hyd iddo.

Y sylw pwysicaf a wnaed gennyf oedd yr un parthed y gallu i gytuno neu wrthwynebu cwestiwn am resymau gwbl wahanol, a'r amhosibilrwydd o uno'r wahanol garfanau o dan un achos, rhywbeth a anwybyddwyd yn llwyr gan y Comisiwn.

Rwy'n fodlon derbyn bod rhywfaint o ogan yn perthyn i fy ymgais i fod yn brif ymgeisydd, ond roedd pwrpas difrifol i'r dychan hefyd. Y mae gan Llywodraeth Cymru hawl i ddeddfu mewn dim ond 20 maes, mae'r llywodraeth bresennol am ddeddfu mewn 10 o'r meysydd hyn o fewn y flwyddyn nesaf! Efo hawl ddeddfu mor gyfyng bydd y temtasiwn i gor ddeddfu yn y meysydd hynny yn fawr.

Fel ceidwadwr c fach rwy'n cefnogi llai o reolaeth wladwriaethol ar bobl, ac mi fyddwn yn hapusach pe bai gan Llywodraeth Cymru'r hawl i ddeddfu ar fil o feysydd na chael ei gyfyngu i or ddeddfu ar ddim ond ugain! Roedd gan fy ymgyrch Na! Dim Digon Da!, pwynt difrifol yn ogystal ag un ddychanol.

Rwy’n hynod siomedig bod y Comisiwn etholiadol wedi llwyr anwybyddu'r pwynt difrifol, a heb ddysgu gwers bwysig o Refferendwm Cymru 2011!

29/06/2011

Breakfast Time in The Bay

Gan fy mod yn un o'r rhai a gofrestrwyd i ymgyrchu yn y refferendwm yr wyf wedi cael gwahoddiad (uniaith Saesneg) i gyfarfod i drafod hynt a helynt y refferendwm ac i drafod pa mor lwyddiannus (neu beidio) bu'r Comisiwn Etholiadol yn ei weithredu.

Mae'n amlwg o fy mlogiau a fy ymgyrch yn ystod y refferendwm, fy mod yn "anfodlon" a'r ffordd y trefnwyd y refferendwm. Byddwn wrth fy modd cael cyfarfod yn y cnawd gyda'r Comisiynwyr i drafod fy mhryderon am y drefniadaeth! Yn wir, chware teg, yr wyf wedi cael gwahoddiad i wneud hynny:

The Electoral Commission will be launching its statutory report on the referendum on the law-making powers of the National Assembly for Wales at 8:00am on Wednesday 13 July 2011 in Conference Room 24 in Tŷ Hywel, the National Assembly for Wales.

Gwych! Diolch am y gwahoddiad!

Mae'r problemau ymarferol o gyrraedd Caerdydd o Landudno ar gyfer cwrdd brecwast am wyth y gloch y bore, efo pob parch, yn gwbl hurt! Mor hurt ag i wneud y fath gyfarfod yn rhan o'r cwyn am ddiffyg ystyriaeth y Comisiwn i anghenion holl ymgyrchwyr mewn Refferendwm.

A fyddwyf ar gael ar gyfer bacwn ac wy a bara lawr yn oriau man y bora yng Nghaerdydd? - Na fyddwyf!

A threfnwyd y fath gyfarfod er mwyn cau allan lleisiau annibynnol ansefydliadol sy'n lladd y consensws bach hyfryd sydd yn y Bae? - Do mwn!

Mae pawb sydd wedi ceisio trefnu cyfarfod Cenedlaethol Gymreig yn gwybod mae 15:00 yng Nghaerdydd a 15:00 yng Nghaernarfon yw'r tynnaf o amseroedd. Mae 13:00 ym Machynlleth neu Aberystwyth yn gyfaddawd!

Mae 8 y bore yng Nghaerdydd yn waeth na Cardiff Centric! O sefyll efo fy chwaer sy'n byw yn Llaneirwg (tua 5 milltir o'r Bae) mi fyddai'n anodd os nad amhosibl imi gyrraedd y brecwast efo trafnidiaeth gyhoeddus!

Mae'r fath drefniadaeth i drin Refferendwm Cymru gyfan, yn sarhaus, yn warthus, a phe na bai yn fater o bwys yn un gellir ei alw yn gwbl chwerthinllyd!

Rwy'n gofyn i'r Comisiwn Etholiadol i ail feddwl ei threfniadau am lansio'r adroddiad i'r Refferendwm er mwyn ystyried anghenion pob deiliad diddordeb, yn hytrach na rhai'r "bybl" un unig!

28/06/2011

Costau'r Refferendwm

Mae’r Comisiwn Etholiadol, wedi cyhoeddi ffigyrau ar wariant gan ymgyrchwyr cofrestredig yn ystod ymgyrch y refferendwm ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dyma'r ffigyrau:

Aberafan Ie dros Gymru £58
Arfon Ie dros Gymru (Arfon Yes For Wales) £706
Ymgyrch Ie Pen-y-bont ar Ogwr £206
Cardiff Says Yes (Caerdydd yn dweud Ie) £1,065
Cymru Yfory £9,871
Ie dros Gymru Cyfyngedig (Yes for Wales Ltd) £81,452
Ie Ynys Môn £1,154
Plaid Lafur £10,022
Democratiaid Rhyddfrydol £7,199
March 3 is "Vote No Day" £195
Sir Fynwy yn dweud Ie £555
Mr David Alwyn ap Huw Humphreys £0
Mr Mark William Beech £15
Mr Richard Wayne Jenkins £0
Castell-nedd yn dweud Ie £0
Plaid Cymru - Party of Wales [The] £9,357
Rhondda Says Yes (Rhondda yn dweud Ie) £170
Torfaen yn dweud Ie £0
Cymru Wir True Wales £3,785
UNISON £8,626
Wales TUC Cymru £4,919
Yes for Wales Swansea (Ie Dros Gymru Abertawe) £890
Ymgyrch Ie yng Ngheredigion (Yes Campaign in Ceredigion) £4,711

Cyfanswm £145,003

Ychydig o bytiau difyr:
Gwariodd yr ochr Ie ychydig dros £140,000, tra bod y rheiny a oedd yn ymgyrchu am bleidlais ‘Na’ a gwariant o lai na £4,000, hy bod Ie wedi gwario 35 gwaith ffigwr Na!

Fe wariodd y Blaid Lafur mwy ar yr ymgyrch Ie na wariodd Plaid Cymru. Er gwaethaf cwynion am eu diffyg ymroddiad roedd cyfraniad £7K y Rhyddfrydwyr Democratiaid yn cymharu yn ddigon parchus a £10K Llafur a £9K Plaid Cymru, ond bod y tair plaid wedi bod yn hynod o grintachlyd o gymharu â'r hyn sy'n cael eu gwario ganddynt ar ymgyrchoedd eraill.

Gan fy mod yn gybydd mi wariais i £0, ond o gymharu'r cyhoeddusrwydd a gefais am fy nghostau a'r hyn cafodd y gweddill am eu £145K rwy'n credu imi gael bargen!