Showing posts with label Cymdeithas yr Iaith. Show all posts
Showing posts with label Cymdeithas yr Iaith. Show all posts

15/08/2012

Plus ça change, plus c'est la même chose

Mi fûm yn chwilota drwy ysgrifau'r diweddar Parch O. M. Lloyd yn gynharach heno a dod ar draws y cofnod canlynol:
Hydref 7, 1966

GWARTH — Cymdeithas yr Iaith

Credaf ei bod yn warth y modd y trinnir rhai o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Nid af ati’n awr i restru’r cosbau a ddodwyd ar bawb ohonynt, ond yr enghraifft ddiweddaraf yw gwaith ynadon Pontypridd yn dedfrydu i ddau fis o garchar Neil Jenkins, athro ysgol ym Merthyr Tudful. Mae’n wir fod swm y dirwyon y gwrthyd ef eu talu wedi codi i £22 /10/0. Ond dealler nad gwrthod talu fel y cyfryw y mae ef, canys talai (megis y gwnâi eraill) pe câi ffurflen treth modur yn Gymraeg, a’i wysio yn yr un iaith. Y mae’r gosb yn ffyrnig ac anghyfiawn. Dan yr amgylchiadau ffars yw uniaethu cyfiawnder a chyfraith gwlad. Cofier nad yn erbyn y gyfraith y mae protest y rhai ifainc hyn ond yn erbyn y modd y gweinyddir hi. Aeth heibio bron ganrif ers pan ymgyndynnodd bachgen o Lanuwchllyn rhag y "Welsh Not" yn yr ysgol. Meddai Syr O. M. Edwards: "Na, nid aeth y tocyn erioed oddi am fy ngwddf, dioddefais wialenodiad bob dydd fel y dôi diwedd yr ysgol." Bellach aeth cansen y Welsh Not o’r ysgolion i’r llysoedd, a dyma’r driniaeth ffyrnig, ffiaidd, ffôl, a roddir i Gymro yn ei wlad ei hun am geisio mynnu parch i’w famiaith. Mae hyn o anghyfiawnder yn ormod i’w oddef, ac mae’r awdurdodau yn gwahodd terfysg a thrwbl.
Dau Ddeddf Iaith, Mesur Iaith, statws swyddogol, Cynulliad Cenedlaethol, Bwrdd Iaith, Comisiynydd Iaith a 46 o flynyddoedd yn niweddarach, dim ond enw'r ddiffynnydd ac un neu ddau o eiriau eraill sydd rhaid ei newid er mwyn troi erthygl 1966 O. M. i erthygl sy'n ymdrin a charchariad Jamie Bevan Dydd Llun diwethaf. Er gwaethaf yr holl hawliau y mae'r Gymraeg wedi ei hennill dros y blynyddoedd mae'n warthus bod rhai pethau yn ymddangos yr un fath o hyd.

19/02/2012

Sianel 62 yn cychwyn heno

Sianel 62
Sianel deledu newydd yn cychwyn heno Bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio sianel deledu Cymraeg newydd – Sianel 62 – nos Sul yma (19eg Chwefror) am 8pm fel rhan o’n dathliadau hanner canmlwyddiant. Y bwriad yw dangos rhaglenni heriol, gwleidyddol, doniol, dychanol, dwys ac ysgafn bob nos Sul rhwng 8-10yh ar sianel62.com.

Mae hwn yn brosiect nid yn unig i ddathlu hanner canmlwyddiant y Gymdeithas, ond hefyd yn brotest yn erbyn diffyg rhaglenni heriol am y Gymru gyfoes ar hyn o bryd. Mi fydd y sianel yn cynnig llwyfan newydd i leisiau amgen ac unigryw sydd yn tueddu cael eu hanwybyddu gan y darlledwyr traddodiadol.

Sianel ‘ifanc ei naws’ fydd hi, a phobol gyffredin yn y gymuned fydd yn datblygu’r syniadau a chynhyrchu’r rhaglenni o dan arweinyddiaeth tîm proffesiynol. Mae llwyddiant y fenter yn ddibynnol ar bobl yn cyfrannu, felly cysylltwch gyda ni trwy ebostio Greg Bevan – greg@cymdeithas.org – os gallwch fod o gymorth o ran cynnig syniadau, cyfarwyddo, cynhyrchu, ffilmio neu gyflwyno.

Bydd y darllediad cyntaf yn cynnwys hanes teulu Caerdegog yn Ynys Môn, clipiau comedi, Tynged yr Iaith 2, cerddoriaeth gan fandiau sy’n perfformio yng ngŵyl Hanner Cant ym Mhontrhydfendigaid ym mis Gorffennaf, a llawer mwy.

Cofiwch: Heno, 8pm, sianel62.com

04/11/2011

Rali Datganoli Darlledu i Gymru

Neges gan CyIG:

Am 12.30 prynhawn dydd Mawrth Tachwedd 8fed dewch draw i alw am DDATGANOLI DARLLEDU I GYMRU ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd. Fe gynhelir trafodaeth ar y pwnc hwn yn y Cynulliad Cenedlaethol y diwrnod hwnnw ac mae’n rhaid mynnu fod ein gwleidyddion yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif ac nid yn osgoi eu dyletswydd. Bydd gêm rygbi sumbolaidd yn cael ei chwarae ar risiau’r Senedd ar drothwy’r drafodaeth i ddangos fel mae ein gwleidyddion wedi methu â chymryd cyfrifoldeb yn y maes hwn hyd yn hyn, drwy fodloni yn hytrach ar basio’r bêl. Ond pobl Cymru ddylai fod â’r cyfrifoldeb dros bob agwedd ar ddarlledu yng Nghymru, ac mae’n hen bryd i ni wneud hynny yn gwbl glir.

Diolch eto am eich cefnogaeth, a gobeithio y byddwch yn parhau i fod yn rhan o’n hymgyrch.

Yn gywir,

Bethan Williams
Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

09/09/2011

Dyfodol S4C - munud o'ch amser! - Neges gan CyIG

Annwyl gyfaill,

Mae pwyllgor yn craffu ar y Mesur Cyrff Cyhoeddus yn San Steffan ar hyn o bryd, sef y mesur a fydd yn torri deddf S4C.

Os llenwch y ffurflen sydd ar y dudalen hon -

http://cymdeithas.org/lobi.php - bydd neges ebost ddwyieithog yn mynd at yr aelodau seneddol sy'n craffu ar y mesur. Dim ond cynnwys eich enw, ebost a'ch cyfeiriad a gwasgu'r botwm 'Anfon' sydd angen gwneud, ond rhydd i chi addasu'r llythyr os dymunwch.

Galwa'r llythyr ar aelodau'r pwyllgor i gefnogi gwelliant sy'n tynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus, fel y gwelliant mae Hywel Williams AS, Susan Elan Jones AS a Mark Williams AS wedi ei gyflwyno.

Bydd y llythyr yn help i bwyso am y dyfodol gorau posib i'r sianel Gymraeg.

http://cymdeithas.org/lobi.php

Byddem yn ddiolchgar pe baech yn medru annog eraill i anfon y neges hefyd.

Diolch am eich amser,

Menna

14/04/2011

Hysbys - Rali Achub S4C Bangor

Rali Achub S4C a Chefnogi safiad Heledd a Jamie, Bangor

Dydd Sadwrn, Ebrill 16 · 11:00yb - 12:00yh
Y Cloc, Bangor

Dafydd Iwan
Ieu Wyn (Bethesda)
Mair Rowlands UMCB
Bethan Williams
Adloniant - Tom ap Dan

Rali sy'n rhan o'r ymgyrch i atal cynlluniau'r Llywodraeth yn Llundain
parthed S4C. Mae Cymdeithas yr Iaith yn poeni am annibyniaeth a
chyllid S4C ar ôl i Lywodraeth San Steffan benderfynu ceisio torri ei
grant i S4C o 94% ac uno'r sianel a'r BBC.

Mae'r Rali hefyd yn gyfle i ddangos ein cefnogaeth i safiad dewr
Heledd Melangell a Jamie Bevan, a fydd yn ymddangos gerbron y llys yng
Nghaerdydd yn dilyn gweithred yn erbyn swyddfeydd y Ceidwadwyr - y
blaid sydd yn llywodraethu yn Llundain - yng Nghaerdydd dechrau mis
Mawrth.

swyddfa@cymdeithas.org - 01286 622908 01970 624

06/11/2009

Yr Ugain Orchymyn - Yr Unig Ateb?

Pe bai Moses yn Gymro yn hytrach nag yn Iddew, mi fyddai wedi dod i lawr o'r mynyddoedd efo'r deg orchymyn i gŵyn o Be! Dim ond DEG orchymyn - dim hanner digon a chyn pen dim bydda brotestiadau yn cael eu cynnal i fynnu ragor, a'r geiriau Ugain Orchymyn yr Unig Ateb wedi eu chwistrellu mewn paent gwyrdd ar draws Arch y Cyfamod

Mae unrhyw un sydd wedi darllen rhagor nag un post ar y blog hon yn gwybod fy mod yn weddol gyndyn o roi clod i Blaid Cymru. Ond pan fo clod yn haeddiannol mae'n haeddiannol.

Roedd y ddadl eLCO Iaith yn gam aruthrol ymlaen i achos yr iaith. Ac o bob parch i'r Blaid, dydy hi heb honni bod yr eLCO bresennol yn ddim byd namyn cam bach i'r cyfeiriad cywir.

Mae'n wir ddweud bod y cynnig a wnaed i Sansteffan wedi ei glastwreiddio wrth ei ddychwelyd i'r Cynulliad - ond dyna ydy natur y system hurt yr ydym yn cael ein deddfau trwyddi. Mae disgwyl i Sansteffan i beidio a glastwreiddio, ar unrhyw gais iddi, fel disgwyl gafr i beidio rhechan!

O dan y gyfundrefn byddid modd i'r Cynulliad dweud Na! Dydy'r eLCO ddim yn ddigon da a'i ddanfon yn ôl i Sansteffan am ei hail hystyried. Pe bai'r Cynulliad wedi cymeryd y cam yna bydda'r eLCO wedi syrthio gyda diddymiad Senedd Sansteffan ar gyfer yr etholiad Prydeinig nesaf, ac yna byddai'n rhaid dechrau'r broses o'r cychwyn gyntaf eto - gyda'r perygl i'r eLCO cael ei hamseru allan, eilwaith, oherwydd etholiad Cynulliad.

Mae achos yr iaith wedi symud y cam fwyaf bosib iddi allu ei gymeryd o dan yr amgylchiadau presennol, diolch i Blaid Cymru ac arweiniad Alun Ffred. Yn sicr mae angen camau eraill cyn cyrraedd at Lefiticws iaith, ond hyd y gwyddwn, dydy'r Blaid heb ddweud Na i bwyso am gymeryd camau pellach a mwy uwchgyrhaeddol parthed yr iaith yn y dyfodol - chware teg!

05/01/2009

Rhyddid 2009

Ym 1963 ffurfiwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fel mudiad annibynnol o Blaid Cymru, gan ei fod yn amlwg nad oedd modd i'r Blaid ymgyrchu dros yr iaith yn effeithlon wrth ymgyrchu yn etholiadol hefyd.

Yn 2009 onid oes angen mudiad i ymgyrchu dros annibyniaeth sy'n rhydd o Blaid Cymru, gan ei fod yn amlwg nad oes modd i Blaid Cymru ymgyrch dros annibyniaeth yn effeithiol wrth gyfaddawdu yn etholiadol hefyd?

27/09/2008

Diolch Rhodri!

Pan oeddwn tua 17 oed roedd fy rhieni yn ofidus iawn o fy nghefnogaeth i Gymdeithas yr Iaith. Roeddynt yn teimlo bod cefnogi'r iaith yn hwb i bobl fel Dafydd Iwan a'i griw, ond rhywbeth oedd am wneud niwed i blentyn tŷ cyngor di niwed fel fi.

Offrwm aberth bydda restio hogyn bach Mr a Mrs Wmffras yn hytrach na weithred wladgarol arwrol. O herwydd eu pryder cefais siars gan Mam a Dad i beidio â mynychu protest arbennig yn erbyn tai haf yn Harlech. Er gwaethaf eu siars mi fynychais y brotest. Fel rhan o'r brotest fe dorrodd y protestwyr twll yng nghefn sied gweithwyr y safle.

Tra bod Cadeirydd y Gymdeithas wrthi'n gwneud araith, mi sylwais fod camerâu'r BBC yn cael eu hanelu ataf i. Doeddwn i ddim am i Mam a Dad fy ngweld ar newyddion Cymreig y BBC yn gwneud yr hyn cefais siars i'w beidio â'i gwneud, felly dyma fi'n rhedeg trwy'r sied, a thrwy'r twll yn ei chefn er mwyn ffoi y camerâu. Ond och a gwae cefais fy ffilmio yn dod allan o'r twll gan HTV mewn modd oedd yn awgrymu mae fi oedd y fandal creodd y twll! Dangoswyd y ffilm ar raglenni newyddion Cymraeg a Saesneg HTV, ac yr oeddwn mewn dŵr poeth efo'r rhieni am ddyddiau wedi'r darllediadau.

Rwy'n hynod o ddiolchgar i Rhodri Williams, un o fawrion y Gymdeithas ar y pryd, am sicrhau nad oes raid i brotestiwr arall dioddef y fath embaras! Diolch iddo bydd camerau HTV, byth eto, yn ffilmio ochor arall stori newyddion y BBC!