Showing posts with label Dadleuon Teledu. Show all posts
Showing posts with label Dadleuon Teledu. Show all posts

03/05/2010

Yr Arweinwyr Cymreig ar y BBC

Mae'n rhaid dweud fy mod i wedi fy siomi ar yr ochr orau efo dadl yr Arweinwyr Cymreig ar y BBC heno. Yn wahanol i'r rhai Prydeinig roedd y drafodaeth yn ddiddorol ac roedd gan bob un o'r cynrychiolwyr rhywbeth werth ei gyfrannu i'r drafodaeth.

Yn hytrach na theimlo bod un cynrychiolydd o un o'r pleidiau wedi ennill, fy nheimlad i oedd un o falchder bod pobl Cymru yn cael eu sbwylio o ran ddewis mor wych o ran pob un o'r pedwar prif blaid ac ambell un o'r pleidiau llai.

Pan fo'r cyfryngau Llundeinig yn llawn o hanesion o golli ffydd mewn gwleidyddiaeth, a chynrychiolwyr yno i gael eu cael yn hytrach na chynrychioli'r bobl, roedd gweld y prif arweinwyr Cymreig yn dadlau am yr hyn sydd orau i Gymru ac yn gwneud hynny o'r galon, fel chwa o awyr iach trwy'r ymgyrch etholiadol cyfredol.

Roedd gan Peter Hain mynydd i ddringo, mae'n anodd i gynrychiolydd plaid sydd wrth y llyw i ofyn am ragor o amser i wneud yr hyn nad ydoedd wedi ei wneud yn y gorffennol, yn arbennig o anodd pan fo'r etholiad yn cael ei gynnal mewn amgylchiadau pan fo llawer yn credu bod y wladwriaeth yn y cac. Fe lwyddodd Peter yn anhygoel i amddiffyn Llafur, o dan y fath amgylchiadau.

Os mae anawsterau teithio neu beidio oedd yn gyfrifol am Nick Bourn yn cael gwahoddiad i gynrychioli'r Ceidwadwyr, neu'r ffaith bod Cheryl Gillian wedi bomio yn y ddwy ddadl flaenorol, rwy'n sicr bydd y Torïaid yn falch bod Nick wedi cymryd ei lle. Fe lwyddodd i gyflwyno safbwynt y Ceidwadwyr mewn modd Unoliaethol, Cymreig a lleol yn benigamp.

Yn y ddwy ddadl Gymreig flaenorol yr oeddwn yn teimlo bod Kirsty Williams wedi or ecseitio weithiau, yn gwillyd ac yn cael anhawster i gyflwyno pwyntiau digon sylfaenol mewn modd didwyll a rhesymegol. Roedd ei chyfraniadau yn brennaidd ac wedi eu hymarfer o flaen llaw. Ond heno roedd hi ar ben ei gêm, wedi taflu'r sgript ac yn dweud ei ddweud gydag argyhoeddiad.

Ac Ieuan Wyn! Wow! Er nad ydyw ddim ond yn Ddirprwy Brif Weinidog roedd o'n ymateb fel Arlywydd! Roedd ei wybodaeth o'r ffeithiau, ei gallu i gyfaddawdu lle'r oedd cyfaddawd yn ddoeth ac i sefyll ar wahân i'r tri arall lle'r oedd angen barn annibynnol yn wefreiddiol wych.

Os oes angen rhoi marciau byddwn yn dweud mai Ieuan wnaeth ennill, Nick yn ail, Kirsty yn drydedd, a Peter yn olaf, ond mae dim ond trwch blewyn gwybedyn oedd y gwahaniaeth rhwng Ieuan a Peter.

Rhaglen arbennig - y gwir enillwyr oedd BBC Cymru a Betsan Powys - am greu raglen werth ei wylio - Llongyfarchiadau i'r ddau.

15/04/2010

Y Ddadl Mawr - Minlliw ar Foch

Wel dyna awr a hanner o fy mywyd na chaf i fyth yn ôl, am wastraff llwyr o amser. Roedd y rhaglen yn fy atgoffa o'r darllediadau gwleidyddol a oedd yn cael eu dangos yn y 70au gydag arweinydd plaid yn grwnian yn ddiflas i mewn i gamera.

Os oes rhaid dewis fuddugwr allan o'r tri mi fuaswn yn dewis Nick Clegg. Nid oherwydd bod o wedi siarad yn well na'r ddau arall, ond oherwydd nad oedd o'n gwisgo gymaint o golur a'r ddau arall - roedd o'n anodd gwylio Brown a Chameron yn siarad heb i'w minlliw amlwg tynnu sylw i ffwrdd o'r hyn yr oeddynt yn dweud. Be ddwedodd Obama am roi minlliw ar fochyn?

Dyma farn Alex Salmond am y sioe:

12/04/2010

Dim lle yn y gynulleidfa

Ar ôl gwahardd arweinwyr Plaid Cymru, yr SNP, y Gwyrddion ac ati rhag cymryd rhan yn dadleuon yr arweinwyr ar gyfer Etholiad San Steffan, mae'n debyg bod y corfforaethau darlledu a'r tair plaid hunan pwysig wedi penderfynu gwahardd cefnogwyr cyffredin o bleidiau eraill rhag bod yn rhan o'r gynulleidfa hefyd.

Bydd y sawl sy'n gwneud cais am docyn i fod yn rhan o'r gynulleidfa yn cael eu gofyn i bwy y maent yn debygol o bleidleisio. Bydd nifer penodedig o'r rhai sydd yn nodi eu bod am bleidleisio i Lafur, y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr yn cael tocynnau, ynghyd ag 20% o bobl sydd yn nodi nad ydynt wedi penderfynu eto. Ond os ydych yn nodi eich cefnogaeth i'r Blaid, MK, y Gwyrddion UKIP neu unrhyw blaid arall bydd eich cais am docyn yn cael ei wrthod yn ddisymwth.

Yr esgus, mae'n debyg, yw er mwyn sicrhau nad yw eithafwyr o'r BNP yn herwgipio'r rhaglenni. Mae'r syniad y byddai aelod o'r SNP neu'r Blaid werdd yn herwgipio rhaglen ar ran y BNP yn enllibus o hurt. Mae'r syniad na all aelod o blaid eithafol cogio ei fod yn gefnogol i un o'r tair plaid fydd yno yn naïf o wyrion.

Unwaith eto mae tri hen blaid fethedig a'u cyfeillion yn y byd newyddiadurol yn dangos nad oes ganddynt gydsyniad o ddemocratiaeth yn perthyn iddynt.

09/04/2010

Gofyn Y Cwestiwn i'r Darpar Prif Weinidogion

Bydd Gordon Brown, David Cameron a Nick Clegg yn ymddangos benben mewn dadleuon teledu ar Ebrill 15fed, Ebrill 22ain ac Ebrill 29ain.

Cynhelir y ddadl gyntaf ar ITV o dan arolygaeth Alastair Stewart, bydd yn ymwneud a materion domestig a chaiff ei recordio yng ngogledd orllewin Lloegr.

Sky bydd yn gyfrifol am yr ail ddarllediad, Adam Boulton bydd y cyflwynydd. Materion rhyngwladol bydd y maes llafur a chaiff ei recordio yn ne orllewin Lloegr

Daw'r darllediad olaf o ddwyrain canolbarth Lloegr, David Dimbleby bydd yn y gadair a materion economaidd bydd y pwnc dan sylw.

Mae modd i'r cyhoedd danfon cwestiynau i'w hystyried ar gyfer y dadleuon.

Yr honiad yw y bydd cwestiynau mwyaf poblogaidd yn cael eu gofyn, ond mae'n rhaid danfon cwestiynau ar y pynciau perthnasol i'r rhaglenni perthnasol.

Os hoffech gofyn cwestiwn i'w hystyried gellir gwneud hynny trwy gysylltu â'r dolenni canlynol:

http://www.itv.com/electiondebate/
http://news.sky.com/skynews/Election/debatequestion
http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk_politics/election_2010/8589502.stm

Rwy'n amau'n fawr os caiff ei ofyn hyd yn oed pe bai ymysg y cwestiynau mwyaf poblogaidd ond cwestiwn gwerth ei ofyn i ITV yw Pam bod yr arweinwyr yn ofni dadlau materion domestig efo cynrychiolwyr Plaid Cymru a'r SNP?

I sky: Pam bod yr arweinwyr yn ofni dadlau materion rhyngwladol efo cynrychiolwyr Plaid Cymru a'r SNP?

I'r BBC: Pam bod yr arweinwyr yn ofni dadlau materion economaidd efo cynrychiolwyr Plaid Cymru a'r SNP?

Rwyf am awgrymu bod pob cenedlaetholwr Cymreig ac Albanaidd yn gwneud hynny, ac wedi gwneud yn nodi hynny ar eu blogiau, eu cyfrifon Twitter, Facebook ac ati.

Protest bydd dim ond yn cymryd ychydig o funudau, ond a all fod yn effeithiol os oes digon ohonom yn cymryd rhan.