Showing posts with label Daily Post. Show all posts
Showing posts with label Daily Post. Show all posts

06/02/2013

Golwg360 a'r Diffyg Democrataidd


Mae safon adrodd y Western Mail am wleidyddiaeth Cymru wedi bod yn wael ers degawdau. Gan hynny rwy'n ansicr am gryfder y ddadl bod tranc posib y rhecsyn am gael gymaint o hynny o ddylanwad ar ddemocratiaeth Cymru gan mae prin bu ei chyfraniad hyd yn hyn.

Ond prin ar y naw y byddai hyd yn oed y Western Mail gwantan wedi gwneud sylw mor amaturaidd o anghywir a chyfeirio at Dafydd Elis Thomas fel Llywydd y Cynulliad mewn rhifyn cyfredol fel y gwnaeth Golwg360.

Mae safon olygyddol a chynnwys Golwg360 yn gymaint, os nad yn fwy, o fygythiad i drafod gwleidyddol Cymreig a'r proses democrataidd a thranc y Mule a Dail y Post. Daw'r Byd na'i debyg dim yn ôl, ond mae gwir angen gwell arnom na Golwg 360!

10/12/2010

A Oes Angen Galw'r Glas?

Yr wyf wrthi yn gwrando ar ddadl hynod ddiddorol ar gostau plismona ar raglen Y Dydd yn y Cynulliad. Rwy'n ansicr pa bwyllgor sy'n trafod gan nad yw S4C yn rhoi'r wybodaeth yna yn y modd mae BBC Parliament yn gwneud, ysywaeth.

Un o'r cwestiynau sydd ddim yn cael ei drafod, yw un sydd wedi fy mhoeni fi yn gynyddol dros y blynyddoedd, sef pam bod gymdeithas yn mynd yn fwyfwy ddibynnol ar yr heddlu a'r system droseddol i dorri dadl neu i ymdrin ag ymddygiad sy' ddim ond yn ddrwg yn ystyr ehangaf y gair?

Roedd enghraifft yn y Daily Post ddoe, cafodd Keith Edwards, gwirfoddolwr efo Clwb Pêl droed Glan Conwy ei dwyn o flaen Ynadon Llandudno a'i ddirwyo am adael neges ar ffôn Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Pêl Droed Arfordir Gogledd Cymru yn ei alw, yn ôl y Post, yn “f****** t***” ar ôl anghytundeb parthed dyfodol y Gymdeithas.

Yn ddi-os roedd ymddygiad Mr Edwards yn anghwrtais ac yn annerbyniol, ond oedd o'n droseddol? Oedd angen i'r Heddlu a'r llysoedd ymyrryd? Onid mater i'r deuddyn sortio allan eu hunain ydoedd neu, ar ei waethaf, i glwb y pentref neu'r Gymdeithas Pêl-droed ei sortio?

Faint gostiodd ymyrraeth yr Heddlu a'r llysoedd? Llawer mwy na'r £75 o gostau bydd Mr Edwards yn gorfod eu talu mae'n debyg, ac onid ydy'r ffaith ei fod wedi dwyn yr achos i sylw'r heddlu a'r llysoedd yn profi bod y swyddog yn “f****** t***”?

Os oes angen torri lawr ar gost plismona, onid un o'r ffyrdd gorau i wneud hynny yw trwy beidio a disgwyl i'r heddlu ar system gyfreithiol i fod yn rhan o bob anghydfod a phob achos o ymddygiad "anghymdeithasol"?

27/08/2008

Dail Cymraeg

Croeso cynnes i wefan Cymraeg newydd Dail y Post. Yn ogystal â'r newyddion a chwaraeon diweddaraf o'r Gogledd yn y Gymraeg, mae'r gwefan yn cynnwys tair blog Gwleidyddol Cymraeg gan Ieuan Wyn Jones, Dafydd Wigley a Tom Bodden.

21/03/2008

Atgyfodi Cymru Annibynol?

Wrth fynd trwy hen bapurau cyn eu rhoi i'r bin ailgylchu does ar draws llythyr yn y Daily Post dyddiedig Dydd Llun Mawrth 17 2008. Llythyr a methais ei ddarllen ar y diwrnod.

Mae'r llythyr yn un gan W Jones, Nantperis yn gofyn am bobl i gynnig eu henwau fel ymgeiswyr i Blaid Cymru Annibynnol / WIP i sefyll yn wardiau Tremadog, Bethel, Aberdaron, Morfa Nefyn, Nant Llanystumdwy a Llanrug.

Roeddwn yn credu bod CA/IWP wedi hen farw bellach - ydy'r llythyrwr yma o ddifri bod y blaid wedi ei hatgyfodi ac yn chwilio am ymgeiswyr go iawn? Ynteu jôc neu dric dan din sydd yma er mwyn corddi dipyn mewn wardiau lle mae Llais Pobl Gwynedd yn bwriadu sefyll?