Showing posts with label Deddf Iaith. Show all posts
Showing posts with label Deddf Iaith. Show all posts

29/04/2009

Mae Mamau a Milwyr angen Ddeddf Iaith

Dydd Llun cafwyd trafodaeth ym Mhwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig San Steffan parthed yr LCO iaith.

Ymysg y tystion o flaen y pwyllgor roedd Wayne David AS, gweinidog yn Swyddfa Cymru ac un o gymwynaswyr mwyaf yr iaith (yn ôl ei dystiolaeth ei hun). Mae Mr David yn lled gefnogol i roi hawliau ddeddfu ar yr iaith i'r Cynulliad ond mae o'n gweld peryglon!

Un o'r peryglon y mae y gweinidog yn poeni yn ei gylch yw y bydd yr LCO fel y mae'n sefyll yn rhoi'r hawl i'r Cynulliad deddfu parthed sefydliadau sydd yn bodoli o dan Siarter Brenhinol, megis y Lleng Prydeinig ac Undeb y Mamau.

Rhaid cydnabod nad ydwyf yn gwybod llawer am Undeb y Mamau. Tybiwn ei fod yn sefydliad sydd yn cynnig cymorth a chymdeithasu i rieni benywaidd. A oes yna unrhyw beth pwysicach na Mam yn trosglwyddo'r iaith i'w plentyn i amddiffyn yr iaith? Os nad oes gan Undeb y Mamau polisi iaith gynhwysfawr wirfoddol yn barod, mae angen gorfodi un arni trwy ddeddf.

Mae gan y Lleng Prydeinig cangen ym mron pob un dref yng Nghymru. Mae'n gwneud gwaith cyhoeddus megis trefnu gwasanaethau cadoediad. Mae'n ffynhonnell cymorth a gwybodaeth i'r miloedd o Gymry Cymraeg sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog dros y degawdau. Mae gan y Lleng clybiau cymdeithasol poblogaidd mewn cannoedd o drefi Cymreig. Mae awgrym Mr David bod corff mor amlwg yn cael ei hepgor o ddyletswyddau i barchu'r Gymraeg yn fy ffieiddio.

Mae'r ffaith nad oes gan sefydliad mor amlwg â'r Lleng Prydeinig polisi iaith yn brawf diamheuaeth o'r angen am ddeddfwriaeth gynhwysfawr yn hytrach nag esgus am gulhau'r LCO iaith, Mr David annwyl!

26/04/2009

Anabl i ddefnyddio'r Gymraeg #2

Wrth drafod y posibilrwydd bod deddf iaith newydd ar y gorwel mae ambell i awdurdod, sydd eisoes yn cynnig gwasanaeth Cymraeg, wedi nodi mae ychydig ar y naw sydd yn dewis yr opsiwn Cymraeg.

Pwynt digon teg. Ond mae yna adegau pan fo ddewis y Gymraeg yn gwbl anymarferol.

Yn aml bydd angen i ffurflen cael ei gymeradwyo gan unigolyn arall. Os nad yw'r cymeradwy yn gallu darllen y ffurflen Gymraeg does dim modd iddo ei gymeradwyo. Rhaid llenwi'r ffurflen yn iaith yr un sydd yn cymeradwyo yn hytrach nag iaith yr ymgeisydd!

Weithiau bydd cyrff yn cynnig dewis iaith ar ffurflenni yn hytrach na ffurflen ddwyieithog. Mae ffurflen Cymorth Dŵr Cymru yn enghraifft dda o hyn.

Mae modd i bobl sydd ar lwfansau incwm isel sydd a 3 neu mwy o blant, a phobl sydd ar lwfansau anabledd sydd â chyflyrau sydd yn golygu eu bod yn galw am ddefnydd dŵr ychwanegol i'r arfer, cael gostyngiad hyd at £250 oddi ar eu biliau dŵr.

Yr wyf wedi bod yn annog pobl i wneud cais am Gymorth Dŵr Cymru, ac wedi bod yn eu hannog i lenwi ochr Gymraeg y ffurflen.

Mae'r ffurflen yn un dewis iaith. Hynny yw mai modd ei lenwi yn y Gymraeg neu ei droi drosodd i'w llenwi yn y Saesneg.

Ond mae'n rhaid i'r ffurflen gais cael ei gymeradwyo gyda stamp a llofnod meddyg teulu neu nyrs bractis. Mae naw allan o'r un ar ddeg o bobl yr wyf wedi eu hanog i lenwi'r ffurflen yn y Gymraeg wedi ddweud bod y meddyg yn methu rhoi ei stamp ar y ffurflen gan nad ydyw yn ddeall y Gymraeg, a bod rhaid iddynt llenwi'r ochr Saesneg er mwyn y meddyg!

Mae'n siŵr bydd y Bwrdd Dŵr yn fesur y naw hyn fel 90% o Gymry Cymraeg sy'n ddewis yr opsiwn Saesneg!

08/04/2009

Anabl i ddefnyddio'r Gymraeg

Yn yr 80au cynnar mi fûm yn dilyn cwrs hyfforddi i ddyfod yn nyrs cofrestredig.

Fel rhan o'r hyfforddiant bu rhaid i'r efrydwyr gwneud prosiect ar argaeledd mynediad i bobl a oedd yn byw ag anabledd i ddefnyddio siopau trefi glan mor y gogledd. Roedd hyn cyn dyddiau deddfau hawliau i'r anabl.

Fel rhan o'r prosiect mi fûm yn holi perchennog siop fferyllydd (o bob man) nad oedd modd mynd iddi ond trwy ddringo set o bum gris. Ymateb y fferyllydd oedd ei fod o ddim yn gweld pwynt cael mynediad i'r anabl gan nad oedd wedi gweld cwsmer mewn cadair olwyn yn ei siop erioed.

Yh! Tybed pam?

Roedd gwrando ar raglen Taro Naw nos Fawrth yn rhoi teimlad o Deja Vu imi.

Roedd cynghorydd o Aberdaugleddau yn dalau gyda Aran Jones bod neb yn gofyn am wasanaethau Cymraeg gan y cyngor felly afraid yw eu cynnig.

Ond onid dyna'r pwynt?

Os oes raid gwneud ffỳs, mynd allan o'ch ffordd, mynd i drafferth di angen, bydd pobl ddim yn mynnu gwasanaeth!

Yr hyn dylid digwydd mewn gwlad ddwyieithog yw bod y gwasanaeth dwyieithog ar gael yn hollol naturiol a di-ffwdan fel bod pobl yn gallu eu defnyddio heb mynnu yn flin.

Yn siopau Tescos mae'r gwasanaethau hunan sganio a'r dewis arnynt i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae'n rhaid mynd i'r ffwdan o ddethol yr iaith eich hunain - dydy'r dewis ddim yn cael ei gynnig yn awtomatig.

Yn Nhesco y Gyffordd yr wythnos diwethaf yr oeddwn am brynu botel o win. Defnyddiais y ddewis Gymraeg wrth sganio a daeth y neges angen cymeradwyaeth oedran i fynu. Bu'n rhaid disgwyl, a disgwyl a disgwyl i'r cymeradwy-ydd dod i wirio fy oedran. A'i ymateb sur oedd I didn't hear the message authorisation needed because you chose Welsh - I can't understand that rubbish. Look at the queue you have caused now!

Gan fy mod yn Hen Rech Flin mi wnes gŵyn swyddogol i'r rheolwyr am yr agwedd!

Bydd sylwadau'r côc oen yn gwneud fi'n fwy penderfynol byth o ddefnyddio'r gwasanaeth Cymraeg eto.

Ond ow!

Rwy'n ddeall pam bydda ambell i un arall (gan gynnwys rhai oedd yn y ciw tu nol imi), yn penderfynu mae haws o lawer byddid osgoi'r Gymraeg ar bob cyfrif.