Showing posts with label Dolgellau. Show all posts
Showing posts with label Dolgellau. Show all posts

10/06/2010

Sesiwn Fach Dolgellau - 17+18/7/10

Neges gan pwyllgor Apel y Sesiwn Fawr:

Ar benwythnos y 17 a 18 o Orffennaf bydd y Sesiwn Fach yn cael ei gynnal yn Nolgellau.

Cymysgedd o gigiau a sesiynnau jamio o amgylch tafarndai y dref - beth gwell?!

Bwriad yr wyl fydd ceisio codi'r Sesiwn Fawr yn ol i'w thraed er mwyn denu cerddoriaeth y byd unwaith eto i Ddolgellau yn 2011!

Mae'r lein-yp wrthi'n cael ei drefnu a gobeithio bydd y trefniadau terfynol yn cael ei gyhoeddi ymhen wythnos.

Gofynnwn i chi basio'r neges ymlaen i'ch ffrindiau a denu hwyl a bwrlwm y Sesiwn yn ol i Ddolgellau a Meirionnydd unwaith eto.

Diolch,

Pwyllgor Apel SFD

15/07/2008

Sesiwn neu Olympiad?

Pan oeddwn yn noldrwms glaslencyndod; y dyddiau pan oedd creadur rhwng bod yn hogyn ac yn ddyn, ac yn dechrau lladd ar bawb a phopeth yn ei fro a dweud does dim byd imi yma, mae bywyd yn boring mi gefais fy rhwydo gan ddyn ifanc (nad oedd llawer yn hyn na fi) Ywain Myfyr, i wneud fy rhan wrth drefnu Gŵyl Werin Geltaidd Dolgellau.

Dwi ddim am frolio a dweud fy mod yn geffyl blaen yn yr achos, ond roeddwn yn rhan ohoni. Roedd bod yn rhan yn wefreiddiol. Pan oedd hogiau cyfoed trwy Gymru benbaladr yn cwyno nad oedd dim yma i ni, yr oeddwn yn rhan o greu y rhywbeth i ni yma yn Nolgellau. Profiad celfyddydol a gwleidyddol arbennig.

Daeth yr Ŵyl Werin Geltaidd i ben ac yn ei lle daeth y Sesiwn Fawr. Yr un byrdwn fu i'r Sesiwn: gallwn, gallwn gael y gorau i ganu yn Nolgellau. Afraid cwyno ar eraill am ddim byd yn digwydd, trwy ein gwaith ein hunain gallwn greu rhywbeth sy'n digwydd.

Teg yw nodi fy mod wedi cwyno yn groch am ambell i artist sydd wedi ymddangos yn y Sesiwn. Roedd Goldy Looking Chain yn ddim byd ond ffieidd-dra wedi ei lapio yn barchus mewn Ddraig Goch. Roedd clywed darpar brifardd yn malu efo'r band Genod Droog yn gwneud i ddyn i boeni am ddyfodol cerdd dafod. Er fy nghwyn roedd y Marian yn llawn ar gyfer yr erthyl grwpiau yma, a chefais lond ceg ar faes yr ŵyl ac ar Faes-e am fy nghwynion!

Er cwyno, cefais wledd llynedd. Yn nyddiau'r Ŵyl Werin bydda rywun, pob blwyddyn, yn sicr o grybwyll y Dubliners fel grŵp i'w gwahodd, a'r trysorydd yn dweud Na! Rhy Ddrud. Roedd bod ym mlaen y dorf yn clapio, dawnsio a chyd ganu a'r Dubliners yn Nolgellau llynedd yn gwireddu breuddwyd oes imi.

Mae'n bosib mae Sesiwn Fawr eleni, bydd y Sesiwn olaf un. Mae'r nawdd a'r grant a arferid rhoi i wyliau, fel y Sesiwn, bellach wedi ei glustnodi ar gyfer gemau Olympaidd Llundain. Mae'n debyg bod Wakestock, Y Faenol, Gwyl y Gelli a Pharti Ponti, hefyd o dan fygythiad, yn ogystal â channoedd o wyliau llai.

Dwi ddim yn wrthwynebus i Gemau Olympaidd Llundain fel y cyfryw. Os byddwyf fyw cyhyd, trwy ras Dduw, dyma fydd yr unig achlysur caf i fynychu gemau o'r fath. Ond a ydy lladd, am byth, nifer mawr o wyliau Cymru, megis y Sesiwn, yn bris teg i'w dalu am fis o chware yn Llundain?

28/11/2007

Pleidleisiau y Loteri

Yr wyf wedi pleidleisio dwywaith heddiw. Yn gyntaf mi fwriais bleidlais i brosiect sy'n ceisio adfer parc cyhoeddus Dolgellau, i ennill nawdd o Gronfa'r Loteri Fawr; yn ail mi roddais gefnogaeth i brosiect Sustrans Connect2 i dderbyn arian o Gronfa £50 Miliwn y Bobl.

Rhaid cyfaddef fy mod i heb bleidleisio mewn modd gwrthrychol, trwy edrych ar yr holl brosiectau dan sylw a chefnogi'r un mwyaf haeddiannol. Mi fwriais fy mhleidlais am resymau plwyfol a hunanol. Bydd aelodau o fy nheulu sy'n byw yn y dre yn cael bendith o barc Dolgellau, a phrosiect Sustrans yw'r unig un o'r pedwar dan sylw sydd yn cael effaith uniongyrchol ar Gymru. Mae'n siŵr bod mwyafrif o'r rai sydd wedi bwrw pleidlais wedi gwneud hynny am resymau unigoliaeth yn hytrach na rhai gwrthrychol.

Os nad yw'r arian yn cael ei rannu ar sail wrthrychol mae'n rhaid amau cyfiawnder rhannu grantiau'r Loteri trwy bleidlais boblogaidd. Mae Dolgellau yn cystadlu am grant yn erbyn prosiect yn Nhreffynnon. Poblogaeth y naill dref yw 2,700 tra bod y llall a phoblogaeth o 8,700, mae'r rhifyddeg yn rhoi mantais glir ac annheg i Dreffynnon. Nos yfory bydd pentref bach Penarlâg yn cystadlu yn erbyn dinas fawr Abertawe am arian!

Mae yna ambell i achos da sydd ag apêl fwy poblogaidd nag eraill. Bydda brosiect i helpu plant bach sâl yn sicr o ddenu llawer mwy o gefnogaeth na phrosiect i helpu oedolion sy'n gaeth i gyffuriau er enghraifft. Mae'n haws i brosiectau poblogaidd denu arian o ffynonellau eraill nag ydyw i'r achosion llai poblogaidd. Gan hynny yr achosion llai poblogaidd sydd a'r angen fwyaf am grant.

Mae yna rywbeth ffiaidd yn y syniad o drin achosion da fel cystadleuwyr mewn sioe cwis câs, lle mae'r enillydd yn ennill popeth a'r collwr yn cael ei drin fel y ddolen gwanaf, sy'n cerdded i ffwrdd efo dim.

Rwy'n credu'n gryf dylid rhoi'r gorau i ddosbarthu arian elusennol mewn ffordd mor annheg a chael hyd i ffordd sydd yn ymdrin â phob cais mewn modd cytbwys a gwrthrychol.