Showing posts with label Etholiad Ewrop. Show all posts
Showing posts with label Etholiad Ewrop. Show all posts

21/05/2014

Pleidleisiwch TEIRGWAITH i'r Blaid

Dim ond chwinc dros 30% o bobl Cymru aeth i'r drafferth o fwrw pleidlais yn etholiad Ewrop 2009.

Gyda darogan bydd y niferoedd yn is o dipyn eleni, bydd pob pleidlais unigol yn hynod werthfawr; bydd POB UN bleidlais a bwrir dros Blaid Cymru dydd Iau nesaf cyfwerth a ddwy bleidlais i'r Blaid yn etholiad Cynulliad 2011 a gwerth bron i deirgwaith pleidlais i'r Blaid a rhoddwyd yn etholiad San Steffan 2010.

I'r gwrthwyneb, wrth gwrs, bydd meddwl mai etholiad dibwys yw'r etholiad yma a pheidio a thrafferthu pleidleisio, megis amddifadu tair pleidlais rhag y Blaid; a gallasai hynny bod y gwahaniaeth tyngedfennol mewn etholiad sy'n edrych yn dyn ar y diawl am y 3ydd safle, y 4ydd safle a'r collwr o drwch y blewyn yn y 5ed safle.

Pe bai bawb a roddodd bleidlais i Blaid Cymru yn etholiad Cynulliad 2011 yn troi allan i bleidleisio dydd Iau nesaf gallasai'r Blaid ennill ddwy sedd a chael gwared â IWCIP a'r Torïaid o Gymru yn Ewrop.

Os nad yw gefnogwyr y Blaid yn trafferthu pleidleisio, gallasai'r Blaid colli ei ASE.

Bydd pleidlais pob cefnogwr y Blaid yn cyfrif deirgwaith Dydd Iau, a gan hynny mae'n hynod bwysig bod pleidlais POB cefnogwr yn cael ei bwrw dros y Blaid.

Defnyddiwch eich pleidlais a defnyddiwch hi dros Gymru dda chwi!

10/06/2009

Ethol Anghenfil

Wrth ymateb i fy sylwadau am lwyddiant UKIP yn etholiad Ewrop Cymru mae nifer o sylwebyddion wedi awgrymu mae dibwys yw targedu plaid mor fychan, wedi nodi bod Plaid Cymru ymhell ar y blaen iddynt yn y rhan fwyaf o etholaethau ac wedi nodi mae lleiafrif o bobl wrth Gymreig yw craidd ei chefnogaeth.

Rwy'n ddeall synnwyr y fath ddadleuon, ond heb fy mherswadio o bell ffordd.

Wrth ethol cynghorydd plwy, dyn neu ddynes yn unig sy'n cael ei ethol. Wrth ethol ASE mae cyfundrefn ddrudfawr yn cael ei hethol.

Bydd gan y blaid ffiaidd wrth Gymreig hon bellach swyddfeydd, ymchwilwyr, ac ysgrifenyddion wedi eu talu ar bwrs y wlad. Bydd ganddi fynediad i'r cyfryngau, i'r papurau, y radio a'r teledu. Nid unigolyn ond anghenfil a etholwyd nos Iau.

Gan mae un o brif bolisïau IWCIP yw diddymu'r Cynulliad, rhaid derbyn bod peirianwaith cyflogedig bellach ar gael i hyrwyddo'r achos yma. Mae'n rhaid i ddatganolwyr a chenedlaetholwyr bod yn barod i wrthsefyll y peirianwaith. Tal hi ddim i gael agwedd o anwybydda nhw ac fe ant o 'ma’, sef yr agwedd pen mewn tyfod mae y rhan fwyaf o sylwebyddion y Blaid i'w gweld yn eu dilyn.

09/06/2009

Y rheswm pam bod Etholiad Ewrop yn Drychinebus i'r Blaid

Rwyf wedi fy synnu at faint o sylwadau cas yr wyf wedi eu derbyn ar y flog yma ac ar flogiau eraill am awgrymu bod canlyniad nos Sul yn siomedig ac yn drychineb i'r Blaid.

Fel arfer, y Blaid cafodd fy mhleidlais i. I fynd dan groen Cai mi wnâi frolio hefyd. Mi lwyddais i berswadio mwy na naw o gefnogwyr y Blaid yn Llansanffraid, a oedd am aros adref, i bleidleisio dydd Iau - heb y perswâd yna bydda'r Blaid wedi colli Conwy :-).

Wrth wneud fy narogan mi nodais:

Teg dweud, felly, bod y 160 mil a bleidleisiodd i'r Blaid yn 2004 yn bleidlais graidd gadarn. Pleidlais gall y Blaid dibynnu arni boed glaw neu hindda eleni.


Roeddwn yn anffodus o anghywir, ond roedd sail gadarn i fy nyfaliad. Ym 1994 pleidleisiodd 162 mil i'r Blaid, ym 1999 pleidleisiodd 185 mil i'r Blaid, yn 2004 rhyw ddeugant yn brin o 160 mil oedd bleidlais y Blaid. Mae'n rhaid mynd yn ol ugain mlynedd i 1989 i gael llai na thua 160 mil yn cefnogi Plaid Cymru.

Un o'r pethau mae'r Blaid wedi ymhyfrydu ynddi yw bod modd iddi gael ei phleidlais graidd allan boed glaw neu hindda, fe fethodd i wneud hynny eleni, roedd hi'n 34 mil yn brin o'i bleidlais graidd.

Gyda chefnogaeth y Prif Gelyn, y Blaid Lafur, yn toddi roeddwn yn disgwyl i bleidlais y Blaid i fod yn uwch na'r 200 mil y tro 'ma.

Pam bod hynny heb ddigwydd?

Os na all y Blaid curo Llafur yn yr hinsawdd yma a oes modd iddi wneud o gwbl?

Dallineb a ffolineb o ran cefnogwyr y Blaid yw fy mlacgardio i am godi'r pwyntiau hyn! Maent yn bwyntiau dyla pob cenedlaetholwr, gwerth ei halen, eu dwys ystyried!

08/06/2009

Amser i Ieuan noswylio?

Roedd etholiad San Steffan 2005, etholiad y Cynulliad 2007 ac etholiad Ewrop 2009 yn etholiadau lle'r oedd gan Blaid Cymru gobeithion i gael eu canlyniadau gorau erioed.

Methiant daeth ar bob cyfle.

Er gwaetha'r cyfle oedd ger ei fron i ddod yn Brif Weinidog Cymru yn 2007 daeth Ieuan yn ddirprwy, oherwydd ei fod yn rhy wan i wrthsefyll blacmel y Comiwnyddion sydd yn cysgodi dan fantell Plaid Cymru!

Mae arweiniyddiaeth Ieuan wedi bod yn fethiant llwyr. Mae'n hen bryd cael arweinydd newydd yn ei le.

Wrth ddwys ystyried pam bod y Blaid yn y drydydd safle, a phaham mae UKIP gwrth Gymreig, yn hytrach na'r Blaid Genedlaethol, a enillodd y bedwaredd sedd yn Ewrop, rwy’n mawr obeithio bydd y Blaid yn ystyried methiant Ieuan Wyn yn y cawlach.

Mae angen cenedlaetholwr brwd i arwain y Blaid yn hytrach na chyfaddawdwr llwfr - Alun Ffred, tybiwn i!

Siom Etholiad Ewrop

Er bod fy narogan parthed dosbarthiad y seddi yng Nghymru yn gywir, rwyf yn hynod siomedig efo canlyniadau'r etholiad Ewropeaidd. Yn arbennig efo perfformiad y Blaid.

Mae Plaid Cymru wedi colli 34,000 o bleidleisiau ers yr etholiad Ewropeaidd diwethaf, etholiad oedd yn cael ei gyfrif yn gyffredinol trychinebus iddi. O ran canran y bleidlais doedd dim ond cynnydd o 1% ym mhleidlais y Blaid. Pan fo'r Blaid Lafur yn colli 12% o'i bleidlais a bod y Ceidwadwyr, y BNP ac UKIP yn cael y fendith o'r golled mae'n rhaid i'r blaid ddwys ystyried pam.

Un o wendidau Plaid Cymru yn yr etholiad yma oedd peidio ag ymosod ar UKIP. Dyma blaid sydd yn credu mai "dim ond enw ar fap" yw Cymru, bod angen dileu'r Cynulliad ac sydd yn wrthwynebus i unrhyw gefnogaeth i'r iaith. Mae'r ffaith bod plaid o'r fath yma yn gallu ennill chwarter o seddi senedd Ewrop Cymru yn siom aruthrol.

Pe bai Cymry driw yn gwybod bod yna berygl i'r fath yma o blaid ennill sedd rwy'n sicr bydda nifer ohonynt a arhosodd adref wedi pleidleisio ac rwy’n sicr bydda sawl un a bleidleisiodd i UKIP wedi rhoi eu pleidlais protest i Blaid Cymru. Mae'n bwysig bod y diawliaid yma ddim yn cael taith mor hawdd yn y dyfodol.