Showing posts with label Ewrop. Show all posts
Showing posts with label Ewrop. Show all posts

09/02/2016

Cymru yn Ewrop

Dyma neges gan Blaid Cymru yn cefnogi pleidlais o blaid i'r DU aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd:

Mae Cymru yn elwa o fod yn rhan o’r UE, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.

Mae’r UE wedi helpu i sefydlu heddwch ac i gynnal heddwch yn Ewrop: rôl yr ydym yn ei gwerthfawrogi a rhywbeth na ddylid fyth ei anghofio.

Mae bron i 200,000 o swyddi yng Nghymru yn gysylltiedig â’n mynediad i’r Farchnad Sengl a’i hanner biliwn o bobl. Mae miloedd o fyfyrwyr a phobl ifanc yn elwa o
raglenni UE sy’n eu galluogi i astudio a gweithio mewn gwledydd eraill a dysgu ieithoedd newydd.

Dyma ond rhai o’r manteision i Gymru. A diolch i’r UE mae gennym gyfreithiau ar gydraddoldeb, ar yr amgylchedd, ar hawliau gweithwyr a phrynwyr, ar amaeth ac ansawdd bwyd, i daclo newid hinsawdd a llawer mwy.

Mae’r Deyrnas Gyfunol eisoes yn eithrio ei hun o ardal deithio’r Schengen, sef pam fod gennym reolaeth pasbort o hyn ar ffiniau allanol y DU. Ac wrth gwrs, wnaethom ni erioed ymuno â’r Ewro.

Mae llawer yr hoffem ei newid am yr UE, ond dim ond o’r tu mewn y gellir gwneud hynny. Does dim pwynt cwyno o’r cyrion. Yn hytrach, rydym yn dewis gweithio gyda’n chwaer bleidiau yng Nghyngrhair Rhydd Ewrop a chydweithwyr blaengar ledled yr UE. Dyna sut y byddwn yn sicrhau Ewrop fwy agored, democrataidd ac effeithiol ble y gall Cymru chwarae ei rhan yn llawn.

27/06/2009

Llongyfarchiadau Jill Evans ASE

Llongyfarchiadau mawr i Jill Evan ASE ar gael ei dyrchafu yn arweinydd grŵp y cenedlaetholwyr, yr EFA, yn Senedd Ewrop. Mae Jill yn son ar ei blog am y cyfrifoldeb mawr mae'r swydd o werthu'r syniad o Ewrop y Cenhedloedd, nid yn unig i Gymru, ond i holl wledydd bychain Ewrop, yn rhoi ar ei hysgwyddau.

Uchel Arswydus Swydd yn wir. Rwy'n dymuno'n ddiffuant, pob hwyl a phob llwyddiant iddi yn y gwaith.

Ond mae joban a hanner o'i blaen. Pe bai Cymro neu Gymraes wedi ei h/ethol yn arweinydd plaid yn San Steffan neu ym Mae Caerdydd, mi fyddai'n newyddion Cenedlaethol o bwys. Mae dyfod yn arweinydd grŵp lleiafrifol ar ambell i gyngor, weithiau, yn werth mensh yn y cyfryngau. Ond er chwilo a chwilota, rwy'n methu gweld cyfeiriad at ddyrchafiad Jill ar wefannau'r brif cyfryngau Cymreig o gwbl.

Os nad yw dyrchafu Cymraes yn arweinydd ar un o unedau mwyaf radical Senedd Ewrop yn newyddion werth ei hadrodd, pa obaith sydd i bobl ymddiddori yn, a ffurfio barn deg am, y Senedd Ewropeaidd a'i chyfeiriad?

06/06/2009

Methu Coelio!

Rwyf wedi clywed gan ddau aelod blaenllaw o'r Blaid Lafur eu bod am wisgo trowsus Brown dydd Sul, ond nid er mwyn cefnogi eu harweinydd!

Mae'r ddau yn ofni, o'r hyn y maent wedi eu gweld yn y cownt lleol ac wedi clywed gan gyd aelodau'r blaid mewn cowntiau eraill, bod Llafur am fod yn y bedwerydd safle pan ddaw canlyniad Cymru i ben nos Sul!

I ail bwysleisio darogan dau aelod blaenllaw o'r Blaid Lafur nid fy narogan i yw hyn. Ond eu hofn a'u cred yw mai'r canlyniad bydd.

1 Plaid Cymru = 2 Sedd
2 UKIP = 1 Sedd
3 Ceidwadwyr = 1 Sedd
4 Llafur = 0 sedd

Rwy'n amau'n gryf. Y Blaid Lafur yn ceisio iselhau gobeithion er mwyn cyhoeddi buddugoliaeth o ddod yn ail, mi dybiaf. Ond difyr bod Llafur yn creu'r fath ofnau ta beth.

15/05/2009

Darogan Pleidlais Ewrop

Mae'r Hogyn o Rachub wedi gwneud cynnig arni. Mae Blog Menai wedi crybwyll y pwnc ond (hyd yn hyn) heb roi ei ben ar y bloc. Dyma fy ymgais i.

Y peth cyntaf i'w ddweud parthed Etholaeth Ewropeaidd Cymru yw bod y nifer o aelodau yr ydym yn eu hethol yn rhy fychan ar gyfer y system pleidleisio sydd yn cael ei ddefnyddio yn y DU. Efo dim ond 4 aelod mae disodli aelod yn anodd. Mae disodli rhagor nag un aelod bron yn amhosibl. Mae gan ambell i etholaeth Seisnig saith, wyth neu ddeg o seddi. Yn yr etholaethau hyn bydd cryn ymgiprys am y 2, 3, 4 sedd olaf.

Yng Nghymru dim ond un sedd o'r pedwar sydd yn y fantol, sef un y bedwerydd safle. Y Blaid Lafur sydd yn dal y sedd honno ar hyn o bryd. Os nad yw'r Blaid Lafur, y Blaid Geidwadol a Phlaid Cymru yn dal eu gafael ar un sedd yr un bydd daeargryn o'r radd uchaf ar Raddfa Richter Gwleidyddol Cymru wedi digwydd.

Bydd angen daeargryn ar raddfa lai, ond daeargryn ta waeth, i Lafur colli eu hail sedd hefyd. Er mwyn i Blaid Cymru neu'r Blaid Geidwadol ennill y sedd bydd rhaid i'r naill Blaid neu'r llall ennill mwy o bleidleisiau na'r Blaid Lafur. Dydy'r Blaid Lafur heb ddod yn ail yng ngwleidyddiaeth Cymru ers darfod dyddiau Lloyd George. Glaslanc oedd LLG y tro diwethaf i'r Ceidwadwyr dod i'r frig mewn etholiad Cymreig!

Yn 2004 Roedd gan y Blaid Lafur 127 mil yn rhagor o bleidleisiau na 'r Blaid Geidwadol a 138 mil o bleidleisiau mwy nag oedd gan Blaid Cymru - bwlch mawr i'w cau heb son am ei oresgyn

Cyn ystyried y posibilrwydd yna rhaid edrych ar obeithion plaid arall i gipio'r bedwaredd sedd.

Yn etholiad 2004, pe bai gan Gymru pumed sedd, byddai UKIP wedi ei gipio (gan Blaid Cymru!). Ond roedd UKIP yn parhau i fod dros 50,000 o bleidleisiau y tu ôl i addasiad pleidlais ail sedd Llafur. 500 pleidlais oedd rhwng UKIP a'r Rhyddfrydwyr ac roedd y Ceidwadwyr a'r Blaid ar eu sodlau am y bumed safle.

Dydy 50 mil ddim yn llawer dros Gymru Gyfan. Ond i UKIP neu'r Rhyddfrydwyr ennill y sedd mae'n rhaid iddynt dwyn y bleidlais yma yn unionsyth oddi wrth Lafur. Bydd dwyn pleidleisiau Ceidwadol neu Genedlaethol dim ond yn cryfhau gafael Llafur ar y bedwaredd sedd.

Mi fydd hi bron yn amhosib i UKIP na'r Rhyddfrydwyr ennill y bedwerydd safle os yw Llafur yn dod i frig y pôl eto.

Ond camarweiniol braidd yw cymharu 2009 hefo 2004. Roedd pleidlais 2004 yng Nghymru yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod ag etholiadau cyngor sir, gan hynny gwnaeth llawer fwy o bobl pleidleisio yn 2004 na'r sawl a bleidleisiodd ym 1999. 41% yn 2004 o gymharu â 29% ym 1999. Hyd yn oed efo llawer mwy o bobl yn troi allan collodd y Blaid cryn nifer o Bleidleisiau rhwng 1999 (blwyddyn dda) a 2004 (blwyddyn wael uffernol) tra bod pob un blaid arall wedi cynyddu niferoedd eu pleidleisiau. Teg dweud, felly, bod y 160 mil a bleidleisiodd i'r Blaid yn 2004 yn bleidlais graidd gadarn. Pleidlais gall y Blaid dibynnu arni boed glaw neu hindda eleni.

O ystyried yr hinsawdd wleidyddol bresennol rwy'n disgwyl i lawer llai na 29% i bleidleisio eleni. Y Blaid Lafur bydd yn colli fwyaf yng Nghymru o bobl yn sefyll cartref. Bydd y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn dioddef o'r bleidlais dim diddordeb hefyd. Bydd gwerth pleidlais craidd y Blaid yn uwch o lawer nag ydoedd yn 2004. Ond dim yn ddigon uchel i gipio'r bedwaredd sedd. Bydd pleidlais UKIP hefyd yn aros yn ei hunfan o ran niferoedd ond gwerth llawer mwy fel canran.

Dyma'r ddarogan.

1 Plaid Cymru = 1 sedd
2 Llafur = 1 sedd
3 Ceidwadwyr = 1 sedd
4 UKIP = 1 sedd
5 Rhydd Dem = 0 sedd
6 BNP = digon uchel i beri cywilydd
7 Gwyrdd = 0 sedd
Gweddill = di-nod

11/06/2008

Cyflwr yr Undeb

Llongyfarchiadau i Sanddef af ei flog Cyflwr yr Undeb. Dyma enghraifft o fyd y blogiau yn cynnig gwasanaeth unigryw sydd ddim ar gael gan y cyfryngau traddodiadol, sef adroddiadau rheolaidd trwy lygad Cymro o'r pethau pwysig sy'n digwydd yn yr Undeb Ewropeaidd.