Showing posts with label Gwynt y Môr. Show all posts
Showing posts with label Gwynt y Môr. Show all posts

07/06/2010

Gwynt y Môr – Dim Diolch!

Wedi dychwelyd o fy nhaith i wlad bell mi glywaf fod prosiect Gwynt y Môr i osod 160 o drybini gwynt ar arfordir Llandudno wedi ei basio a bydd y gwaith yn cychwyn cyn pen y flwyddyn nesaf.

Croesawyd y newyddion gan Ieuan Wyn Jones a Cheryl Gillan, a gan nifer o flogwyr Cymreig. Mae'n ddrwg gennyf dorri'r consensws o groeso, rwy'n credu bod y newyddion yn newyddion ddrwg i Gymru.

Nid ydwyf yn gyffredinol wrthwynebus i brosiectau fferm gwynt, rwy'n derbyn bod modd i brosiectau o'r fath dod a bendithion mawr i'r amgylchedd, ond yr wyf hefyd yn deall y gwrthwynebiad i'r prosiect. Gall y sŵn a'r effaith ar drem y môr bod yn niweidiol i bobl leol ac i dwristiaeth, sef asgwrn cefn yr economi lleol. Ni wnaed unrhyw ymchwil i effaith tynnu egni allan o'r gwynt cyn iddi gyrraedd y tir ar yr hinsawdd leol.

Wrth gwrs mae'r ddadl bod holl fanteision y prosiect yn curo ei hanfanteision, o gael eu mesur yn y glorian, yn un dechau, ac un rwy'n dueddol o gytuno a hi. Ond megis yn achos dŵr ac achos glo bydd Cymru yn goddef yr holl anfanteision tra bo eraill yn derbyn y bendithion. Bydd Cymru yn derbyn 1% pitw o werth economaidd Gwynt y Môr tra'n ddioddef 100% o agweddau negyddol y prosiect.

Yn hytrach na chroesawu prosiect o'r fath byddwn yn disgwyl i blaid genedlaethol, megis Plaid Cymru, i fod ar dân yn protestio yn erbyn enghraifft arall o adnoddau naturiol ein gwlad yn cael eu hecsploetio er bydd eraill!