Showing posts with label Hel Achau. Show all posts
Showing posts with label Hel Achau. Show all posts

22/03/2013

Dysgu Hanes


Gwelais i mo Question Time neithiwr, ond mi ddilynais rywfaint o'r sylwadau ar Drydar. Mae'n debyg mae un o'r cwestiynau a godwyd oedd newid Cwricwlwm Genedlaethol Lloegr parthed hanes. Gan na chlywais y ddadl does dim modd imi ymateb iddi, a gan fod Addysg wedi ei ddatganoli dibwys braidd i'n sefyllfa ni yw barn y gweinidog dros addysg yn Lloegr, gan hynny sylwadau cyffredinol am ddysgu hanes sydd gennyf yn hytrach nag ymosodiad ar weinidog addysg Lloegr.

Rwy'n sgit am hanes! Os oes raglen ar y telibocs am hanes mi wyliaf ar unrhyw sianel. Rwyf wedi dilyn Ifor ap Glyn ar ei daith trwy gachdai a mynachdai yn y ddwy iaith ac wedi cael blas ar ddwyieithrwydd. 

Rwy'n hoffi hanes!

OND yn nyddiau fy addysg statudol yr oeddwn yn casáu hanes a chas perffaith am ddau reswm.

Y rheswm gyntaf oedd bod hanes yn cael ei ddysgu o chwith! Roedd fy ngwersi hanes cyntaf yn delio ag oes y cerrig ac yn symud ymlaen i'r cyfnod Rhufeinig ac yn dilyn cwrs oes ymlaen i'r ddiweddar; yn dechrau efo cyfnod mor bell yn ôl ag i fod yn ddibwys imi. Llawer gwell yw dysgu cwys yr achydd - sy'n dechrau efo Fi ac yn gweithio yn ôl - mae'n cwys sy'n gwneud hanes yn fyw!

Yr ail reswm oedd bod "Cwricwlwm" addysg fi yn dysgu dim ond atebion gwerthfawr ar gyfer cwis tafarn. Pa werth arall sydd i wybod bod Llywelyn wedi ei lofruddio ym 1282 neu fod y Steddfod gyntaf wedi ei gynnal ym 1176 heb sôn am lol 1066? Dydy'r fath ffeithiau ddim yn pethau na ddylasem wybod, ond dysgu hanes yw gwybod SUT yr ydym yn gwybod am y fath ffeithiau a chaffael ar wybodaeth i ddarganfod ffeithiau tebyg am gant a mil o sefyllfaoedd hanesyddol tebyg!

I wneud enghraifft arall o'r byd hel achau dydy gwybod dyddiad geni fy Hen Nain yn dda i ddim i'ch ach chi (oni bai eich bod yn perthyn) - ond mae gwybod sut fy mod i'n gwybod dyddiad geni Hen Nain yn wers!

Gwybod sut i ganfod gwybodaeth yw coron aur addysg hanes (a phynciau eraill) nid dysgu ffeithiau moel.

Rhywbeth sydd yn amlwg y tu hwnt i amgyffred Gweinidog Addysg Lloegr

25/06/2010

Cyfrifiad Cymru 1911 ar gael ar lein yn ddi-dâl?

Wrth edrych yn blygeiniol ar fy nghopi cyfredol o Golwg sylwais ar erthygl fer iawn ar dop dde tudalen 9:

Golwg ar Fywyd Can Mlynedd yn Ôl
O yfory (dydd Gwener) mae manylion Cyfrifiad 1911 ar gael am ddim ar lein. Fe fydd yn wybodaeth hanfodol wrth ymchwilio i hanes teuluol ar wefan Archifau Cymru
www.archifaucymru.org.uk
Yr wyf wedi rhoi clec ar y ddolen, ond nid oes son am y cyfrifiad yno eto, ond mae'n parhau i fod yn gynnar y bore'! Os yw'r erthygl yn gywir mi fydd yn newyddion da iawn i achyddion Cymru.

Diweddariad
Mae'n debyg bod Golwg wedi cam ddeall y sefyllfa. Ers dydd Gwener mae mynediad i'r cyfrifiad ar lein wedi bod ar gael yn di dal yn archifdai Cymru. I gael mynediad o gyfrifiad personol mae'n rhaid talu o hyd! Siom!