Showing posts with label Polisi Iaith. Show all posts
Showing posts with label Polisi Iaith. Show all posts

14/12/2012

Llinyn Arian y Cyfrifiad

Yr wyf fi, fel pob ceraint arall i'r iaith, wedi fy siomi'n arw efo canlyniadau'r cyfrifiad. Yr wyf yn cefnogi pob galwad am weithredu i wella'r sefyllfa. Mae angen mwy o Ysgolion Cymraeg penodedig, yn enwedig mewn rhai o'r ardaloedd lle fu "esgus" addysg Gymraeg o dan drefn "categori" neu "Ysgol naturiol" yn Sir Gar, Ceredigion a Meirion. Mae angen cael gwared â'r tabŵ o gwyno am y mewnlifiad ac edrych ar ffurf o'i reoli. Mae angen creu cyfleoedd gwaith ar gyfer Cymry Cymraeg, mae angen magu hyder pobl i ddefnyddio ac i ymfalchïo yn eu Cymraeg. Mae angen gwneud yr holl bethau yma a rhagor ar frys er mwyn achub y Gymraeg.

Ond mae yna berygl o ormodedd o sachliain a lludw parthed ffigyrau'r cyfrifiad. Os ydym yn ddarogan gormod o wae yr ydym yn chware i ddwylo'r sawl sy'n casáu'r iaith, sy'n honni mae iaith ar ei wely angau efo DNR uwchben y glustog ydyw; y sawl sydd am gyfiawnhau gwario llai ar y Gymraeg gan fod llai yn ei ddefnyddio ac ati.
Mae yna ambell i linyn arian yn y ffigyrau.

Os yw'r Gymraeg yn dirywio ar y lefel y mae wedi dirywio ers cyfrifiad 1962 yr oedd Tynged yr Iaith yn cyfeirio ati – bydd yr Iaith Gymraeg yn fyw am o leiaf 300 mlynedd arall. Roedd Saunders yn ddarogan marwolaeth yr iaith erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain. Dyma ni ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain! I ni yma o hyd ac mae'r iaith Gymraeg yn fyw!
Mae hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn gallu'r Gymraeg, mae'n debyg bod nifer tebyg yn byw y tu allan i Gymru - mae miliwn o Gymreigwyr yn nifer helaeth o bobl. Dim ond ychydig yn llai o ran niferoedd (yn hytrach na chanran) na phan ofynnwyd y Cwestiwn iaith am y tro cyntaf ym 1891 a llawer mwy o ran niferoedd nag oedd o Gymry Cymraeg pan gynhaliwyd y cyfrifiad cyntaf ym 1801.

Mae un o bob pump o'r bobl yr ydych yn debyg o gwrdd ar y stryd, mewn siopau mewn unrhyw fan gymdeithasol yng Nghymru yn debygol o allu'r Gymraeg, mae'n dal yn werth chweil i ddechrau pob sgwrs yn y Gymraeg mewn pob sefyllfa. Cei ymateb cas "don't speak that language" weithiau; ceir yr ymddiheuriad "I'm sorry I don't speak Welsh" yn amlach, ond cewch eich siomi, unwaith allan o bob pump o'r ochor orau o glywed y gyrrwr bws, yr hogan wrth y til a hyd yn oed y gwerthwr tsips enwog yng Nghas-gwent yn ymateb trwy'r Gymraeg!
 

Iawn fod yn siomedig, iawn fod yn flin o ganfod ffigyrau'r cyfrifiad - ond paid digalonni!


 

23/06/2010

Gwarth y Gymraeg Mewn Addysg yn Sir Conwy!

Yn ystod y gaeaf llynedd bu panic ffliw'r moch. Yn ystod yr un cyfnod dechreuodd fy mab ieuengaf dangos symptomau asthma - salwch cynhenid yn ach ei famau. Gofynnwyd am gymorth meddygol i'r hogyn ar sawl achlysur - ond fe'i gwrthodwyd - rhag ofn mae'r ffliw moch oedd achos ei beswch yn hytrach na'r hyn yr oeddem yn gwybod, yn gywir, oedd y gwir achos.

Cawsom ein siarsio gan yr awdurdodau iechyd i gadw'r hogyn o'r ysgol rhag ofn, yn wir cawsom ein siarsio i beidio a gadael i'w frawd mynychu'r ysgol chwaith rhag ofn.

Fe drodd y ffỳs am ffliw'r moch yn ddim o beth ac yn gôr ymateb dibwys ym mhen y rhawg, wrth gwrs.

Syfrdan i mi oedd cael llythyr gan Cyngor Sir Conwy yn mynnu fy mod yn ymateb i gŵyn o ddiffyg presenoldeb fy mhlant yn yr ysgol dros gyfnod panic ffliw'r moch - er gwaetha'r ffaith fy mod wedi dweud wrth yr ysgol mae asthma oedd achos peswch y mab ac mae ôr ymateb oedd y panic ffliw'r moch!

Oherwydd bod gorfodaeth y gwasanaeth iechyd i gadw'r plant o'r ysgol yn cyd daro ar orfodaeth yr ysgol i sicrhau lefel uchel o bresenoldeb cefais wŷs i drafod lefel absenoldeb y plant efo Swyddog Llesiant Plant yr Ysgol - digon teg - yr oeddwn yn fwy na bodlon trafod y trafferthion efo'r ysgol.

O gyrraedd y cyfarfod - mewn Ysgol Cymraeg, cefais wybod nad oedd y Swyddog Lles yn gallu defnyddio'r Gymraeg! Wrth gwrs bu cwyn gennyf am y fath wasanaeth gwachul i riant Cymraeg, i blant Cymraeg mewn ysgol Cymraeg!

Yr ymateb cefais oedd fy mod yn very angry parent who puts his own perceived rights above the educational needs of his children! Myn diagni!

Mae'n wir fy mod wedi mynnu fy hawl am wasanaeth Cymraeg yn di flewyn ar dafod, mae'n wir fy mod wedi bod yn very angry. Ond wedi ymladd ac wedi ennill yr un frwydr yn ol yn y 1970au, credaf fod gennyf hawl i fod yn hynod flin am orfod ail ymladd yr un hen gach o fewn sefydliad, megis Ysgol y Creuddyn, sy'n honni ei fod yn hyrwyddo defnyddioi'r Gymraeg, deugain mlynedd yn diweddarach!