Showing posts with label RCN. Show all posts
Showing posts with label RCN. Show all posts

22/10/2010

Diffyg anrhydedd i Betsi?

Yr wythnos diwethaf cynhaliodd Y Coleg Nyrsio Brenhinol darlith arbennig yn Llanelwy er cof am Betsi Cadwaladr. Roedd y ddarlith a draddodwyd gan y cyn AS Julie Morgan yn un o gyfres sydd wedi cael eu cynnal ers 2004, ond yn ôl y Coleg roedd i ddarlith eleni pwysigrwydd arbennig, gan ei fod hefyd yn dathlu anrhydeddu Betsi trwy enwi bwrdd rheoli iechyd y gogledd ar ei hol.

Rwy'n methu meddwl am ffordd waeth i gofio am berson nag enwi bwrdd iechyd neu ysbyty ar ei ôl. Bron pob tro bydd enw'r anrhyddededig yn cael ei grybwyll yn y newyddion ar ôl derbyn y fath "anrhydedd" bydd o mewn cyd-destun o ddiffygion mewn gofal.

Roedd Betsi Cadwaladr yn arloeswr ym myd nyrsio Cymru, yn arwres rhyfel y Creimia ac yn ysbrydoliaeth i gannoedd o nyrsiaid Cymraeg. Ond oherwydd bod ymddiriedolaeth iechyd y gogledd wedi ei hanrhydeddu, bellach mae ei henw yn cael ei chysylltu â pheryglu iechyd mamau a phlant.

A dyna Hywel Dda, dyn a oedd yn enwog am ddod a threfn i gyfraith Cymru yn cael ei gysylltu ag anrhefn megis danfon dyn ar daith tacsi 80 milltir am driniaeth yr oedd yn amlwg yn rhy sâl i'w derbyn. Neu Aneurin Bevan, sylfaenydd y GIG yn cael ei gysylltu â mesurau argyfwng oherwydd diffygion difrifol yng ngwasanaethau llaw feddygaeth - Mawr o anrhydedd!

A phetai'r RCN yn wirioneddol am ddangos parch i goffadwriaeth Betsi, mi fyddent yn ymwybodol o'r ffaith ei bod hi'n anghydffurfwraig rhonc ac yn dod o deulu a wynebodd erledigaeth am eu ffydd, ac mae llawer mwy priodol byddid cynnal gwasanaeth coffa am ei chyfraniad i Gymru mewn capel Methodist yn hytrach nag yng Nghadeirlan Anglicanaidd y gormeswyr.