Showing posts with label Rhyddfrydwyr Democrataidd. Show all posts
Showing posts with label Rhyddfrydwyr Democrataidd. Show all posts

07/07/2011

Cwestiwn am Achos Aled Roberts

Llongyfarchiadau i Aled Robert ar gael cadarnhad o'i aelodaeth o'r Cynulliad. Yr wyf newydd wrando ar y drafodaeth ar raglen Ddoe yn y Cynulliad S4C

Mewn ymateb i sylw a wnaed gennyf ar flog Aled Wyn parthed achos Mr Roberts, fe ddywedodd Aled Wyn:
I always thought it was common knowledge that you couldn’t be elected to the Assembly if you were in their employ, or part of public body funded by them… that was the first thing made clear to me when I worked for the Welsh Language Board

Pwynt digon teg a rhywbeth nas codwyd yn y ddadl yn y Senedd. Pan ddaeth y gwaharddiad ar aelodau o Dribiwnlys Prisio Cymru rhag aelodaeth o'r Cynulliad i rym ym mis Ionawr eleni, bydda ddyn yn disgwyl i'r Cynulliad rhoi gwybod i'r Tribiwnlys bod ei aelodau bellach yn waharddedig, a bod y Tribiwnlys wedi rhoi'r wybodaeth yna i'w holl aelodau.

Os basiwyd y wybodaeth ymlaen o'r Cynulliad i'r Tribiwnlys ac o swyddogion y Tribiwnlys i'w haelodau mae dadl Mr Roberts parthed diffygion y Comisiwn Etholiadau yn un wan. Os na phasiwyd y wybodaeth o'r Cynulliad i'r Tribiwnlys neu o'r Tribiwnlys i'w haelodau mae angen i'r cyrff yna bogelsyllu hefyd, nid jyst y Comisiwn Etholiadol!

10/02/2010

Ble mae Ronnie?

Mae gan dri o'r ymgeiswyr seneddol yn Aberconwy blogiau bellach:

Guto Bebb (Ceidwadwyr)
http://aberconwyconservatives.typepad.com/my-blog/blog_index.html

Phil Edwards (Plaid Cymru)
http://philedwards4aberconwy.blogspot.com/

a

Mike Priestley (Democratiaid Rhyddfrydol)
http://mikepriestley.blogspot.com/

Ond does dim son am bresenoldeb gan Ronnie Hughes (Llafur) ar y we. Piti!

22/01/2010

Dyn i bob Tymor?

Mewn post od o anghywir yn adrodd ei brofiad o ymddangos ar Rhaglen CF99 S4C nos Fercher mae Guto Bebb yn gwneud y sylw canlynol am Blaid Cymru:

Are they becoming a Welsh version of the Liberal Democrats I wonder? Socialist in the south but small 'c' conservatives in Aberconwy and North Wales.

Pwynt digon teg!

Pe bai Sosialydd Rhonc ym mowld Leanne Wood neu Bethan Jenkins yn sefyll yn Aberconwy, bydda dim modd imi bleidleisio i'r Blaid, byddwn yn atal fy mhleidlais (neu efo "Cymro Da" fel Guto yn sefyll yn pleidleisio i'r Ceidwadwy).

Rwy'n methu gweld gwahaniaeth papur ffag rhwng Guto a Phil o ran y cenedlaetholdeb diwylliannol yr wyf i'n ei gefnogi. Bydd y ddau ymgeisydd yn fy nghasáu am ddweud mai prin yw'r gwahaniaeth rhyngddynt o ran agweddau craidd tuag at y gymdeithas gynhenid a'r iaith

Ond fel mae Guto yn nodi mae pleidlais i Phil yn bleidlais i Blaid y Gomiwnydd Leanne. Ond ar y llaw arall, onid ydy pleidlais i Guto, hefyd yn bleidlais i'r cocia ŵyn hynod wrth Gymreig sydd yn sefyll ar ran y Torïaid yng Nghymru ar Gororau? Onid ydy pleidleisio i'r Cymro Da Geidwadol yn bleidlais i'r blaid sydd yn gwrthwynebu cefnogaeth i'r Gymraeg , y Gernyweg a'r Aeleg?

O ran y "feirniadaeth" o'r Rhyddfrydwyr o fod yn Blaid wahanol, mewn etholaethau gwahanol; ac estyniad y cyhuddiad i Blaid Cymru yn Aberconwy, lle mae Guto yn sefyll?

Pelican yn yr anialwch Seisnig a gwrth Gymreig Toriaidd traddodiadol mi dybiaf?

15/01/2010

Darogan Etholiad 2010 G

Gorllewin Abertawe:

Dyma sedd y mae rhai yn troelli fel un i'r Democratiaid Rhyddfrydol ei gipio. Rwy’n methu gweld y rhesymeg. Mae'n un o'r seddau lle mae llawer yn sefyll ond dim ond dwy blaid sydd yn bodoli, yn Aberconwy y dewis yw'r Blaid Geidwadol a'r Blaid Arall. Yng Ngorllewin Abertawe'r dewis yw'r Blaid Lafur a'r blaid sy ddim yn Llafur. O ran ymgeiswyr y Blaid Arall rwy'n teimlo bod pobl yn flin efo'r awdurdod lleol Rhyddfrydol yn ogystal â'r  llywodraethau Llafur. Rene Kinzett, bydd arweinydd y r wrthblaid yng  Ngorllewin Abertawe, ond dim digon o arweinydd i gipio'r sedd.

Gorllewin Caerdydd:

Hen Sedd Rhodri Morgan, cyn iddo droi o San Steffan i'r Bae, teg ei alw'n sedd gadarn Kevin Brennan bellach, am o leiaf un tymor Seneddol arall.

Gogledd Caerdydd

Sedd Mrs Rhodri Morgan. Ond sedd ddifyr o ran hanes y Blaid Lafur yng Nghymru. Dyma'r fath o sedd Middle England a dargedwyd gan Tony Blair er mwyn sicrhau buddigoliaeth New Labour ym 1997. A Mrs Morgan fu'n fuddugol o'r herwydd.  Un o'r rhesymau pam nad fu'r dŵr coch croyw rhwng Caerdydd a Llundain mor groyw, ag y gallasai bod, mi dybiaf. Bydd gan Rhods gymar i fwynhau ei ymddeoliad yn y rhandir a'r Mwnt dyfod Mis Mai, mi dybiaf. Jonathan Evans AS bydd dyn Gogs Caerdydd!

Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro

Dyma sedd mae'r Ceidwadwyr yn credu eu bod wedi eu prynu. Mae arian llwgr werth miloedd a miloedd o bunnoedd wedi eu gwario yma er mwyn sicrhau buddugoliaeth i'r Ceidwadwyr, a hynny'n buddugoliaeth nad yw budd yr etholaeth yn ymwneud dim a hi.

Mi dybiaf fod y llwgr wedi prynu’r etholaeth ac mae buddugoliaeth ffiaidd i'r Ceidwadwyr bydd hanes yr etholaeth.

Erfyniaf ar bawb sy'n parchu democratiaeth  boed yn Ceidwadwyr Cymreig, yn Llafurwyr, Yn Rhyddfrydwyr Democrataidd neu yn Genedlaetholwyr sydd wedi cael llond bol a'r Blaid i bleidleisio yng Nghaerfyrddin a De Phenfro a phleidleisio i John Dixon, er mwyn profi nad yw etholaethau Cymru ar werth i'r bidiwr uchaf a ffieiddiaf.

Gorllewin Casnewydd

Sedd yr hen gyfaill Paul Flynn. Caru o neu ei gasáu o , mae Paul wedi rhoi lliw i wleidyddiaeth Cymru mewn nifer o ffurf. Mae'r dyn yn enigma. Yn perthyn i draddodiad y Gymru Wyddelig wrth Gymreig megis Touhig a Murphy, mae Paul yn siaradwr Cymraeg rhugl, ond dydy ei iaithgarwch ddim yn ymestyn at gariad i'r Fro Gymraeg gwledig! Mae o'n casáu amaethwyr a'r cas perffaith. Pe bai'r ffermwyr yn cyfnewid cae o ŷd am gae o dail mwg drwg, bydda mwy o gydymdeimlad ganddo iddynt o bosib! Mi fydd yn golled aruthrol i'r sin gwleidyddol Cymreig gweld Paul yn colli ei sedd. Er gwaethaf gobeithion y Ceidwadwyr, mae'n annhebygol o ddigwydd.

Gorllewin Clwyd

Er ei fod o'n ymddangos yn un agos iawn ar bapur, does dim cystadleuaeth yma. Yn 2005 fe gipiodd  David Jones y sedd o fewn drwch blewyn gan Lafur. Pe bai'r Blaid Lafur yn ymladd i gipio seddi, dyma un fydda o fewn ei olygon. Ond amddiffyn yr hyn sydd ar ôl bydd hanes Llafur yn etholiad 2010, prin bydd eu diddordeb yn llefydd megis Gorllewin Clwyd. Hir oes i Blog David Jones MP, amdani!

Gwyr

Sedd od ar y diawl. Mi ddylid bod yn gadarnle i'r Ceidwadwyr, ond Llafur yw, a Llafur bydd ar ôl yr etholiad eleni hefyd!

07/01/2010

Darogan Etholiad 2010 D

De Caerdydd a Phenarth
Bydd Alun Michael yn dal y sedd yma'n gyffyrddus, ond dyn a  ŵyr pam!

De Clwyd
Sedd anodd ei phroffwydo.  Mae mwyafrif Llafur yn eithaf iach dros y Ceidwadwyr, sef plaid yr ail safle yn 2005, bron i ugain y cant. Ond mae'r aelod cyfredol yn sefyll lawr eleni, ac mae'r aelod cyfredol yn dipyn o dori efo d bach.  Er ei bod yn hogan o'r Rhos yn wreiddiol, cynghorydd yn Sowthwark Llundain yw olynydd  Martin Jones, tra bod yr ymgeisydd Ceidwadol yn dechrau ar yrfa fel ymgeisydd parhaus. Llafur i'w gadw o drwch y blewyn, ond byddwn i ddim yn tagu ar y corn fflecs o glywed bod fy mhroffwydoliaeth yn anghywir a bod y Ceidwadwyr wedi cael lwc yma.

Delyn
Gellir ailadrodd yr hyn a ddywedais am Dde Clwyd am Ddelyn hefyd, job a hanner i'r Ceidwadwyr curo, mi ddylai bod yn y bag i Lafur, ond ar noson lwcus fe all droi'n annhebygol o lâs

Dwyfor Meirionnydd
Y Blaid i enill yma efo'r canran uchaf o bleidlais fuddugol trwy wledydd Prydain, o bosib. Ond gydag etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau Ewrop yn rhannol gyfrannol, mae'n bwysig i'r Blaid i gosi'r etholwyr yma i bleidleisio er mwyn eu cadw yn frwdfrydig ar gyfer yr etholiadau cyfrannol.

Dwyrain Abertawe
Etholaeth mae'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn sniffian, ac o gael canlyniad da eleni, mae gan y RhDs gobaith yn etholiad y Cynulliad 2011. Ond yn y bag i Lafur ar gyfer San Steffan eleni mi dybiaf

Dwyrain Caerfyrddin & Dinefwr
Fel Ceredigion 2005, un i'r Blaid ei golli, yn hytrach nag un i bleidiau eraill eu trechu. Cyn belled a bod Pleidwyr yr etholaeth ddim yn llaesu dwylo ac yn gwario gormod o egni yn cefnogi eu cymdogion yn y tair sedd gyffiniol sydd yn obeithiol i'r Blaid, mi ddylai bod yn saff i Blaid Cymru

Dwyrain Casnewydd
Ar bapur yn y bag i Lafur, bu'r RhDs yn curo ar y drws yn etholiadau'r Cynulliad. Er bod mynydd iddynt eu dringo rwy'n credu bod modd i'r Rhyddfrydwyr Democrataidd curo yma. Mae'n sedd lle mae'r bobl leol wedi cael eu trin fel ŷd i'r felin  gan Lafur. Cyn Dori yn cael ei barashiwtio i mewn i'r sedd ym 1997 ac ar ôl iddo ymddiswyddo i'r Arglwyddi,  y Blair Babe Jesica Morden yn cael ei pharashiwtio i mewn i'r sedd i'w olynu. Rhwng y ffaith bod Llafur ar ei lawr yn gyffredinol a'r ffaith bod Llafur mewn twll o'i wneuthuriad ei hunan yn Nwyrain Casnewydd, rwyf am roi'r etholaeth hon yn nwylo'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn 2010.

Dyffryn Clwyd
Un arall sy'n anodd ei ddarogan. Canlyniadau'r Cynulliad a chanlyniadau'r cyngor lleol yn awgrymu'n gryf ei fod o fewn gafael y Ceidwadwyr. Ond mae Chris Ruane yn ddyn lleol poblogaidd ac yn aelod hynod weithgar yn yr etholaeth. Digon i gadw ei sedd ar bleidlais bersonol, o drwch y blewyn, mi gredaf. Llafur i'w gadw efo mwyafrif o lai na mil.

06/01/2010

Darogan Etholiad 2010 C

Caerffili , Castell Nedd , Cwm Cynon.

Bydd yn sioc enfawr pe na bai'r Blaid Lafur yn ennill y tair sedd yma yn weddol gyffyrddus. Plaid Cymru sydd yn yr ail safle yn y tair sedd, ond yn dipyn ar ei holi i. Ond bydd yn werth cadw golwg ar berfformiad y Blaid ynddynt, gan fydd perfformiad da yn etholiad eleni yn gallu bod yn fan cychwyn am ymgyrchoedd cryf i'w cipio yn etholiad y Cynulliad 2011, gall canlyniadau gwael  i'r Blaid ynddynt bod yr Amen olaf i yrfa wleidyddol IWJ.

Canol Caerdydd .

Saith o bobl wedi taflu eu hetiau i mewn i'r cylch etholiadol yng Nghanol Caerdydd, ond, hyd y gwyddwn dim ond un ohonynt, Chris Williams (Plaid Cymru), yn Gymro.  Jenny Willott, yr AS Rhyddfrydwyr Democrataidd a chipiodd y sedd i'w phlaid yn 2005 bron yn sicr i ddal ei gafael yn gyffyrddus ar y sedd.

Ceredigion.

Sedd arall a gipiwyd gan y Rhydd Dems yn 2005, ond un a fydd yn llawer anoddach iddynt dal eu gafael arni na Chanol Caerdydd. Un o'r rhesymau i'r Rhyddfrydwyr Democrataidd ennill yng Ngheredigion yn 2005 oedd bod y blaid wedi targedu pleidlais y myfyrwyr.

Mae'r ffaith bod y Rhyddfrydwyr wedi dibynnu ar y myfyrwyr i ennill y sedd, hefyd yn golygu bod eu mwyafrif wedi symud allan.  I gadw'r sedd bydd rhai iddynt berswadio cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr i'w cefnogi, rwy'n methu gweld o'n digwydd eildro. Yn gyntaf dydy'r pleidiau eraill ddim yn mynd i ganiatáu i un blaid i fopio fynnu holl bleidlais y myfyrwyr eto, ac yn ail does yna ddim achosion  mawr sydd am fod yn holl bwysig i fyfyrwyr yn ystod 2010.

Rhaid nodi mae mwyafrif y Rhyddfrydwyr daeth o'r myfyrwyr, roedd craidd y bleidlais yn dod o'r gymuned cefn gwlad a wasanaethwyd mor dda gan y diweddar Geraint Howells. Rwy'n sicr bod "proffil" Penri James (Plaid Cymru) yn y byd amaethyddol yn sicrach o apelio at yr etholwyr yma nag ydy cefndir yr Aelod Cyfredol.

Un o'r pethau sydd yn cyfri yn erbyn Penri yw ei fod wedi colli ei sedd ar Gyngor Ceredigion i Rhyddfrydwr llynedd. Ond fe wariodd y Rhyddfrydwyr arian mawr yn ward Penri, defnyddiwyd bron holl adnoddau dynol y blaid o fewn y ward unigol, yn unswydd i greu'r stori o "dorri pen Penri". Rhywbeth sy'n drewi o desperation i fi.

Penri i a'r Blaid i enill fe dybiwn.

01/01/2010

Darogan Etholiad 2010 B

Blaenau Gwent

Pe na bai'r Blaid Lafur mewn cymaint o dwll ac yn gorfod amddiffyn gymaint o seddi bregus, Blaenau Gwent byddai un o'i dargedau i'w cipio, ac mewn etholiad pan fydd y rhod yn troi i gyfeiriad  Llafur eto bydd yr etholaeth yn sicr o fynd yn ôl i'w fynwes.  Un o siomedigaethau yn yr etholaeth yma yw bod dim un o'r gwrthbleidiau "swyddogol" wedi ceisio manteisio ar drafferthion Llafur ym Mlaenau Gwent er mwyn adeiladu troedle yn nhalcen caled y cymoedd Llafur.

Llais y Bobl i gadw'r sedd yn gymharol hawdd, ond synnwn i ddim pe bai Dai Davies yn ail ymuno a Llafur cyn pen tymor y llywodraeth nesaf.

Bro Morgannwg

Efo'r Blaid Lafur ar drai cyffredinol trwy Ynys Prydain, a'r aelod cyfredol yn ymddeol, mae pob rhesymeg yn dweud dyla’r Fro syrthio yn hawdd i ddwylo'r Ceidwadwyr.  Ond camgymeriad bydda roi hwn yn y bag fel buddugoliaeth Ceidwadol. Mae’r bleidlais bersonol wedi bod yn draddodiadol pwysig yn y sedd yma ac mae Alana Davies y cynghorydd lleol ac ymgeisydd Llafur yn berson llawer haws i'w hoffi nag ydy Alun Cairns yr ymgeisydd Ceidwadol a dyn sydd â dawn ryfeddol i dynnu blew o drwynau pobl.

Does gan Plaid Cymru ddim gobaith mul yma, ond mae ganddi bocedi o gefnogaeth gref yn yr etholaeth (Plaid Cymru daeth yn ail agos yn etholiadau Ewrop*).  O dderbyn bod Alun Cairns yn cael ei weld fel dipyn o fwgan i Bleidwyr, mae yna siawns bydd rhywfaint o bleidlais PC yn cael ei fenthyg i Lafur fel rhan o ymgais i stopio Cairns.

Buasai dyn wedi disgwyl i'r Ceidwadwyr cipio sedd y Fro yn weddol hawdd yn etholiadau'r Cynulliad yn 2007 hefyd, ond methasant o tua 80 pleidlais. Byddwn i ddim yn synnu pe bai canlyniad tebyg yn yr etholiad cyffredinol chwaith. 

Brycheiniog & Maesyfed

Dyma un o'r seddi mae'r Ceidwadwyr yn eu llygadu ac sydd yn ymddangos fel un y maent am ei gipio o roi canlyniadau polau piniwn trwy'r mangl. Ond mae'r aelod cyfredol yn ddyn hawddgar sydd yn hynod boblogaidd a gweithgar yn yr etholaeth. Byddwn yn disgwyl i Roger Williams i ddal ei afael ar y sedd yn weddol rhwydd.

*Diweddariad

Mae'n debyg mae pedwaredd oedd y Blaid yn y Fro. Mi wnes i gam ddarllen stori a gyhoeddwyd gan y Blaid yn honni eu bod o fewn 750 bleidlais i  ddod yn ail yn yr etholaeth, am honiad eu bod yn yr ail safle efo dim ond 750 rhwng y Blaid a'r buddugwyr. Nid y fi ydy’r unig un i gael cam argraff o'r troelli mae'n debyg.


13/07/2008

Lembo druan wedi colli cariad

Newyddion trist iawn yn y News of the World heddiw.

MP Lembit Opik has been DUMPED by his Cheeky Girls fiancée, the News of the World can reveal.

GIRL POWER: singer Gabriela has ditched MP Lembit
Furious Gabriela Irimia is refusing to see the Lib-Dem politician or take his calls after a series of bust-ups.