Showing posts with label Rygbi. Show all posts
Showing posts with label Rygbi. Show all posts

17/03/2012

Gwres Cenedl yn Eirias!

Er bod y sgôr neithiwr wedi bod braidd yn siomedig, yr wyf wedi cael pleser pur o wylio tîm dan ugain Cymru yn chware ym Mharc Eirias yn niweddar. Hoffwn longyfarch Undeb Rygbi Cymru, Cyngor Conwy a'r hogiau am roi cyfle i ni yn y Gogledd cael mwynhau rygbi o'r safon uchaf yn ein bro am bris hynod fforddiadwy.

Bu fod yn rhan o dorf mor frwdfrydig yn gyffrous ac yn brofiad gwych.

Rwy'n sicr bydd nifer o'r chwaraewyr yr wyf wedi cael y pleser o'u gwylio eleni yn rhan o dimoedd rhyngwladol Cymru, yr Alban, Yr Eidal a Ffrainc yng nghwpan y byd 2015. O ran y Cymru ifanc yr wyf wedi eu gweld mae ambell un wedi serennu ac yr wyf yn sicr fy mod wedi gweld ambell i chwaraewr bydd yn cael eu crybwyll fel arwyr Stadiwm y Mileniwm yn y flwyddyn neu ddwy nesaf: Luke Morgan, Sam Davies, Mathew Screech, Ross Jones ac ati.

Rwy’n edrych ymlaen at gemau'r flwyddyn nesaf yn barod! Er bydd un newid mawr i'r awyrgylch y flwyddyn nesaf! Mae'r Alban, yr Eidal a Ffrainc i gyd ym mhell iawn o Fae Colwyn a phrin bu cefnogwyr y gwrthwynebwyr eleni ar Barc Eirias. Blwyddyn nesaf bydd Cymru yn herio timau dan ugain yr Iwerddon a Lloegr. Mae Bae Colwyn ar y ffordd o borthladd Caergybi i Gaerdydd, mae'n ddi-os bydd mwy o gefnogwyr yr Iwerddon y flwyddyn nesaf nag a fu cefnogwyr o wledydd y gwrthwynebwyr eleni, ac mae Lloegr yn agosach a'r Lloegrwys yn agosach byth, bydd yn hanfodol bod cefnogwyr Cymru yn sicrhau eu tocynnau yn gynnar iawn er mwyn sicrhau cefnogaeth gref i'n tîm cenedlaethol!

Gan mae blog gwleidyddol yw'r blog yma'n benodol rhaid gwneud pwynt gwleidyddol. Bu cryn gontrofersi yn yr Alban ar ôl i Brif Weinidog yr Alban cael ei wahardd rhag gwneud sylwadau am gêm yr Alban a Lloegr ar y BBC mis diwethaf. Rwy'n falch o weld nad yw byd rygbi Cymru mor wleidyddol cul! Yn wir caniatawyd i'n Prif Weinidog ni i chware dros Gymru neithiwr!

18/01/2012

Rygbi'r Chwe Gwlad yn y Gogledd


Bydd holl gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad dan ugain eleni a'r flwyddyn nesaf yn cael eu chwarae yn stadiwm newydd Parc Eirias Bae Colwyn. Hoffwn annog cefnogwyr y bel hirgron yn y Gogledd i geisio eu mynychu.

Mae'r profiad o weld gêm ryngwladol yng Nghaerdydd y tu hwnt i bocedi nifer fawr o gefnogwyr y gamp yn y Gogledd o ystyried pris tocyn, pris teithio a phris aros dros nos.

Dim ond Pum Punt bydd pris cefnogi Cymru ar Barc Eirias!

Dewch yn llu i gefnogi Cymru a Rygbi'r Gogs!

Bydd nifer o'r chwaraewyr bydd yn chware yn y gemau dan ugain yn sêr yng ngharfanau Cymru a'r gwledydd eraill cyn bo hir. Dyma gyfle i'w gweld cyn y dônt yn enwog, bydd yn rhoi'r hawl i ddyn brolio o'n i yno yn ei gêm gyntaf! Pan ddaw'r enwogrwydd a'r gogoniant!

Bydd cefnogaeth gref gan gefnogwyr Rygbi'r Gogledd i'r gornestau yn profi i'r WRU bod diddordeb yn y gamp yn y Gogledd ac yn eu hannog i barhau a'u buddsoddiad mewn datblygu Rygbi i'r north o Fannau Brycheiniog.

Mae tocynnau ar gael trwy Venue Cymru, Cyngor Conwy a siopau Tesco ar hyd yr arfordir ogleddol.

23/09/2011

Cyfiawnder – Rygbi – Yr Alban a'r Wasg Gymreig!

Rwyf wedi fy synnu braidd at ddiffyg cyfeiriad yn y wasg Gymreig at y controfersi mwyaf sydd wedi taro Cwpan Rygbi'r Byd! Sef gwaharddiad yr IRB ar ganu’r pibgodau mewn gemau, sydd wedi ei osod ar ein cefndryd Albanaidd!

Mae'n achos sydd wedi denu sylw byd eang, o'r Amerig, i Ffrainc i Fiji a nifer o wledydd eraill y byd, ond dim son, hyd y gwelwn, ar Golwg360, yn Llais y Sais, BBC Wêls na Dail y Post!

Cyfiawnder i'r Alban! Ymunwch a'r ymgyrch dros y Bibgod:

Campaign to allow responsible bagpiping in all RWC stadiums in New Zealand


18/09/2011

Cymru 17 - 10 Samoa.

Rwy'n falch fy mod i wedi mynd i weld y doctor ddoe i gael ychwaneg o dabledi at y galon - roedd eu gwir angen wrth wylio gem Cymru y bore ma!

Buddigoliaeth yw fuddigoliaeth, ond doedd chwaere heddiw ddim yn ddigon da i ddweud bod y naill gem na'r llall sy'n weddill yn y bag i Gymru!

12/09/2011

De'r Affrig 17 – Cymru 16

Tîm canolig sy'n gallu curo'r 15 gwrthwynebydd.

Mae tîm da yn gallu curo'r pymtheg gwrthwynebydd, reff gwael, y gwynt a'r glaw a'r foneddiges lwc!

Gwaeth peidio a chwyno; tîm is canolig a gollodd i Dde'r Affrig ddoe!

14/02/2011

Ie Dros Rygbi

Er gwaethaf ymdrechion gorau Ie Dros Gymru ac Untrue Lies nid yw'n ymddangos bod llawer o frwdfrydedd wedi ei chodi dros drafod y manteision a'r anfanteision o symud i ran pedwar o Ddeddf Llywodraeth Cymru (2006).

Ond mae yna un cwestiwn gellir ei gwarantu i godi pwysau gwaed pobl Cymru a'u rhannu i ddwy garfan brwd ac angerddol eu barn pob amser; sef: Beth yw Gêm Genedlaethol Cymru - Rygbi neu Pêl-droed?

Trwy gael ei arwain gan Brif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru a thrwy ei defnydd gormodol o ddelweddau rygbi, ydy Ie Dros Gymru mewn perygl o sgorio yn eu rhwyd eu hunain trwy ddieithrio'r rhai a fyddai'n pleidleisio pêl-droed mewn pleidlais ar y cwestiwn wir dyngedfennol?



24/01/2009

Dwynwen yn Hwb i Rygbi Cymru!

Syniad da bydd dathlu Gŵyl Dwynwen yfory yn hytrach na Gŵyl Folant ar Chwefror 14eg i'r sawl sydd mewn perthynas ag yn hoff o'r bêl hirgron.

Meddyliwch am y Saeson druan bydd yn gorfod dewis rhwng cefnogi eu gwlad neu dangos serch i'w cariadon ym mhen tair wythnos! Bydd Cymru yn chware Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar Ddydd Gŵyl Folant. Bydd rhaid i'r Sais druan dewis rhwng rygbi a phin rowlio neu bryd bach rhamantus tra bydd y gêm ar ei anterth. Druan ohono!

Bydd y Cymro rhamantus eisoes wedi dangos faint ei serch trwy flodau, siocled, pryd a nwyd ar Ionawr y 25ain. Mi fydd yn rhydd i floeddio yn gwbl ddieuog dros ei wlad pan ddaw Gŵyl Folant.

Gwerth o leiaf 5 pwynt i dîm Dwynwen, tybiwn i.

Felly gwnewch yn fawr o'ch cariad i'ch cariad yfory, er mwyn cael y rhyddid i ddangos eich cariad llwyr i dîm ein gwlad ar Chwefror 14!