Showing posts with label Senedd Grog. Show all posts
Showing posts with label Senedd Grog. Show all posts

11/05/2010

Cytundeb ConDem erbyn 9:30pm?

Yn ôl y Parchedig Arglwydd Roger Roberts mae bron yn sicr bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cytuno i glymbleidiol a'r Ceidwadwyr cyn hanner awr wedi naw heno.

Os ydy Roger yn gywir tybiwn nad oes llawer o obaith cael pleidlais gyfrannol yn yr etholiad nesaf i Sansteffan, gan mae refferendwm ar y bleidlais amgen, lle mae'r Ceidwadwyr yn annog pleidlais na yn y refferendwm sydd yn y dêl sy'n cael ei gynnig gan y Ceidwadwyr.

08/05/2010

Dos i Venn*

Yn ddi-os mi gefais fy siomi wrth glywed canlyniadau etholiad dydd Iau.

Hwyrach mae myfi oedd awdur fy siom trwy ddisgwyl gormod. Tu allan i'r seddau targed yr oeddwn yn disgwyl i'r Blaid eu hennill cafwyd ambell ganlyniad dechau o'r Blaid yn cynyddu ei phleidlais fel sail am bethau gwell i ddyfod.

Mi nodais ychydig ddyddiau yn ôl mae un posibilrwydd o gytundeb Senedd grog bydda i'r Cenedlaetholwyr a chynrychiolwyr Unoliaethol Gogledd yr Iwerddon cytuno i'r Torïaid cael reoli Lloegr am bris o gael mwy o ymreolaeth ddatganoledig a chonsesiynau parthed effaith polisïau Prydeinig ar eu tiriogaethau.

Nid ydwyf yn credu y bydd cytundeb sefydlog yn deillio o drafodaethau rhwng y Rhyddfrydwyr a'r Ceidwadwyr. Mae modd cael cytundeb rhwng y Ceidwadwyr canolig a'r Rhyddfrydwyr canolig, ond mae gan y ddwy blaid ei eithafwyr bydd yn gwrthwynebu cytundebau clymbleidiol.

Bydd unrhyw gytundeb megis diagram Venn, efo'r gorgyffyrddiadau yn gytûn ond yr eithafion yn pleidleisio yn erbyn chwip y naill blaid a'r llall, bydd y glymblaid / cytundeb yn un aneffeithiol ac ansefydlog.


Bydd cytundeb Rheoli Lloegr yn fanteisiol i'r bloc Celtaidd a'r Ceidwadwyr. O dan y fath gytundeb, does dim ddwywaith, y bydd y Ceidwadwyr yn cyflwyno pethau gwrthun inni o ran egwyddor i Loegr, ond bydd dim rhaid i Gynulliad Cymru eu mabwysiadu, ac ar y cyfan ymatal pleidlais yn hytrach na chefnogi bydd pris y fargen.

Pe bawn i yn un o fargeinwyr y pleidiau Celtaidd byddwn yn cysylltu â Mr C, cyn iddo gael cyfle i daro bargen efo'r Rhyddfrydwyr i gynnig y fath gytundeb iddo.

Siom, nid drychineb oedd y canlyniad dydd Gwener i'r SNP a Phlaid Cymru.

Y drychineb byddid petai ail etholiad San Steffan yn cael ei alw ar ddiwrnod Etholiadau Cymru a'r Alban mis Mai nesaf, a Chymru a'r Alban yn cael eu boddi allan o'r drafodaeth ar ddwthwn eu hetholiadau Cenedlaethol.

Mae yna wir berygl i hynny digwydd os bydd cytundeb anghynaladwy rhwng y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr cael ei daro! Da o beth byddid i Blaid Cymru, yr SNP ac Unoliaethwyr Ulster "Cytuno i anghytuno" a'r Blaid Geidwadol am ddeunaw mis i sicrhau nad oes cyd etholiad ym mis Mai 2011.

*Mwysair Gweler y Rhegiadur am Ddos i Wem

05/05/2010

Cytuno i ymatal mewn senedd grog?

Oherwydd datganoli anghyfartal y Deyrnas Gyfunol mae nifer o bethau sydd wedi eu datganoli i Gymru, Gogledd yr Iwerddon a'r Alban yn cael eu penderfynu arnynt ar gyfer Lloegr gan San Steffan.

Hyd yn oed os oes senedd grog pan wawrier bora Gwener, mae'n bron yn sicr bydd gan y Ceidwadwyr mwyafrif clir yn Lloegr.

Dyma rywbeth sydd heb gael ei ystyried, hyd yn oed gan y cyfryngau yng Nghymru a'r Alban, wrth holi'r Pleidiau Cenedlaethol parthed eu hopsiynau mewn senedd grog. I gael consesiynau gan lywodraeth Geidwadol leiafrifol, hwyrach na fydd raid i Blaid Cymru, yr SNP a phleidiau Gogledd yr Iwerddon cynnig unrhyw fath o gefnogaeth i'r llywodraeth - dim ond rhoi addewid i beidio a phleidleisio ar unrhyw achos datganoledig. Rhywbeth y maent wedi bod yn dueddol o wneud yn ystod y llywodraeth ddiwethaf.