Showing posts with label Toriadau. Show all posts
Showing posts with label Toriadau. Show all posts

20/10/2010

Rysáit Cymraeg: Humble Pie!

Un o'r pethau sydd yn nodweddiadol o'r Blaid Geidwadol yw ei allu i dal dig a thalu'r pwyth yn ôl blynyddoedd wedi achos yr anghydfod gwreiddiol.

Yn ddi-os roedd gan yr ymosodiad ar y glowyr ym 1984 gymaint, os nad mwy, i'w wneud efo talu pwyth am ddymchwel llywodraeth Ceidwadol deng mlynedd ynghynt, ac ydoedd yn ymwneud a pholisi ynni ac economi'r dwthwn.

Er bod ambell i Geidwadwr wedi hawlio clod am greu'r Sianel Gymraeg, does dim ddwywaith mae bygythiad ympryd Gwynfor oedd sylfaen y Sianel.

Dros ei chrogi troi nath y ledi dros sianel teledi (chwedl DI).

Rwy'n cofio cartŵn o un o bapurau mawr Llundin y cyfnod yn dangos llun o Willie Whitelaw yn bwyta llond ceg o humble pie a slogan yn cyhoeddi rhywbeth tebyg i Gwynfor Evans isn't the only one who won't be starving now!.

S4C oedd un o'r prin esiamplau o Fagi yn methu cael ei ffordd ei hunan. A yw'r bygythiad i S4C yn engraifft arall o'r Ceidwadwyr yn dal dig? Ydy'r blaid a orfodwyd i fwyta humble pie yn ôl ym 1980, bellach am gael dial?

Os ydy Jeremy Hunt (efo C) yn credu bod modd iddo wireddu ei ddial oherwydd bod Gwynfor wedi marw a bod Cymry Cymraeg yn gallu bod yn feirniadol o S4C, mae o wedi gwneud camgymeriad mawr.

Fel aelod o'r genhedlaeth sy'n cofio'r dyddiau cyn bodolaeth y sianel, rwy'n gweld beirniadaeth negyddol (a diffyg gwylwyr) i ambell i raglen Gymraeg fel rhan o gryfder a phrifiant teledu Cymraeg.

Does dim rhaid i'r gwyliwr teledu Cymraeg cyfoes clodfori unrhyw cach yn yr Iaith Gymraeg er mwyn cyfiawnhau hanner awr o deledu yn ein hiaith bellach! Does dim rhaid inni gogio mae Shane wedi ei dybio'n wael yw'r ffilm gorau inni ei weld erioed. Yr ydym wedi dod i arfer ar wylio'r gwachul a'r gwych yn y Gymraeg, ac mae digon ohonom ar ôl sydd am roi'r un ymrwymiad a rhoddodd Gwynfor i'r achos dros sicrhau bod hynny'n parhau.

Mae'r rysáit am humble pie ar gael o hyd, mae'n deisen efo plas cas. Wyt wir am ei brofi Jeremy?

Mae Mr *unt yn blogio, os hoffech gadael sylw, na chaiff ei gyhoeddi, dyma ei flog gyfeiriad.

15/10/2010

Cwestiwn Dyrys Chwaraeon a Diwylliant

Mae Deuddeg Biliwn o Bunnoedd yn gallu prynu pythefnos o chwaraeon yn Llundain, neu werth dros chweugain mlynedd o raglenni teledu Cymraeg.

Pe bait yn Weinidog Diwylliant a Hamdden yn Llywodraeth Sansteffan ac am wneud arbedion mawr yn dy gyllideb, pa un fyddet yn ei gwtogi?

Os wyt wedi dewis yr ateb amlwg, nid Jeremy Hunt* AS yw dy enw!

Ond fel mae Peter Black AC yn nodi, mi fyddai'n well i'r arian sy'n cael ei wastraffu ar S4C cael ei wario ar ysbytai er mwyn arbed y Gemau.

(*Sori am y teipo, ond maer H a'r C mor agos ar y gweddiadur!)

31/07/2010

Es-Pedwar-Ec-Giât

Sori am y pennawd - ond mae'n rhaid wrth bob scandal gwerth ei halen ei Iât! Er gwaetha'r ffaith mae wal o ddistawrwydd yw prif nodwedd helynt S4C.

Fel pawb arall sydd wedi gwneud sylw am hynt a helynt S4C yn ystod y dyddiau diwethaf, nid oes gennyf clem be ddiawl sy'n digwydd yn y gorfforaeth.

Ond dyma ychydig o bethau yr wyf yn gwybod:

1) Sefydlwyd S4C oherwydd cefnogaeth y Cymry Cymraeg i'r cysyniad o Sianel Teledu Cymraeg. Heb ein deisebu, ein protestio, ein carcharu, bygythiad ein harwr i lwgu hyd at farw ac ati - byddai'r Sianel ddim yn bodoli. Yn fwy nag unrhyw sianel teledu arall yn y byd, crëwyd S4C gan ddyhead ei ddarpar wylwyr.

2) Bydd colli chwarter cyllid y Sianel yn ergyd drom iawn i ddarlledu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd angen deisebu ac ymgyrchu, protestio ac, o bosib, carcharu eto gan garedigion yr iaith, er mwyn sicrhau nad yw S4C yn cael ei ddienyddio o dan bolisiau mil-dorriadau'r ConDems.

3) Os ydym ni - garedigion y Sianel, y darpar ddeisebwyr, protestwyr a charcharorion yn cael ei'n trin fel madarch - yn cael ein cau yn y twyllwch a'n bwydo ar gachu - gan awdurdodau S4C bydd ein protestiadau yn ofer.

Tra fo Walter yn gwneud dim sylw, y mae o'n gadael cefnogwyr y Sianel heb Gaer i'w hamddiffyn!

Nid oes modd i'r Sianel barhau heb gefnogaeth brwd y Cymry Cymraeg - does dim modd cadw ac ysgogi ein cefnogaeth heb wybodaeth glir parthed be yn union sy'n digwydd - go iawn!

Os yw S4C am oresgyn rhaid i'r dirgelwch dod i derfyn RŴAN!

28/04/2010

Yr Economi - ydan ni Mewn Twll neu'n cael ein Twyllo?

Efo'r tair plaid fawr Brydeinig yn mynnu bod sefyllfa'r economi yn gwneud toriadau mawr yng ngwariant cyhoeddus yn anorfod, hawdd credu mai polisi toriadau yw'r unig opsiwn. Yn wir mae'r cyfryngau, hefyd, yn selio pob trafodaeth ar yr economi ar y rhagdybiaeth bod toriadau yn anorfod, fel gwnaeth CF99 heno.

Ond mae yna ambell i sylwebydd sydd ddim yn canu'r un gan ac yn honni bod modd amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rhag toriadau gwaeth na rhai Thatcher heb i wledydd Prydain troi'n fethdalwr.

Mae'r ddadl sydd yn cael ei roi gan y Cenedlaetholwr Cernywig Cornish Zetetics yn un wirioneddol gwerth ei ddarllen.

Ymysg y pwyntiau y mae o'n gwneud yw:

  • Nad ydy'r lefelau presennol o ddyled yn hanesyddol uchel ac mae modd eu rheoli a'u gostwng yn araf bach wrth i'r economi tyfu allan o'r dirwasgiad.
  • Bod y swm o £80 biliwn yn ffigwr sudd wedi ei ddewis ar fympwy, pam dim £60 biliwn neu £40 biliwn neu hyd yn oed £100 biliwn.
  • Bod lefelau treth ar hyn o bryd yn isel iawn i gymharu i'r dyddiau a fu pan oedd y gyfradd uchaf yn 83%.
  • Mae lol yw dweud bod Prydain mewn twll ariannol - dydy hi ddim mae hi'n parhau i fod ymysg y gwladwriaethau cyfoethocaf yn y byd ac fe gynyddodd gwerth ariannol y 1000 cyfoethocaf o £77 biliwn llynedd.

Traethawd gwirioneddol werth ei ddarllen yn ei gyfanrwydd.
Broke? Or just fooled? How to solve the debt ‘problem’.