Showing posts with label Tynged yr Iaith. Show all posts
Showing posts with label Tynged yr Iaith. Show all posts

23/03/2013

Darpariaeth Cymraeg Annerbyniol Cynghorau Conwy a Dinbych


Bwrw'r Sul diwethaf mi fûm i wylio gêm rygbi dan ugain ym Mae Colwyn yn anffodus tra yno mi gollais fy waled. Ym mysg y cardiau yn y waled bu raid imi eu canslo a gwneud cais i'w hamnewid oedd  fy Nhocyn Teithio Rhatach Llywodraeth Cymru. Y cynghorau sir sydd yn darparu'r tocynnau ar ran Llywodraeth Cymru ac ers i mi dderbyn un am y tro cyntaf yr wyf wedi cael gwasanaeth Cymraeg didrafferth gan Gyngor Sir Conwy.

Mi ffoniais Cyngor Conwy dydd Llun i wneud cais am docyn newydd a chael gwybod mae Cyngor Sir Dinbych sy'n darparu'r gwasanaeth ar ran Conwy bellach a bod rhaid cysylltu â'u swyddfa yn nhref Dinbych. O ffonio’r swyddfa yn Ninbych a gofyn am ffurflen gais amnewid yn y Gymraeg cefais yr ymateb "We don't speak Welsh here" (Nid I don't speak Welsh) ac o holi am rywun i ddelio a fy nghais yn y Gymraeg cael yr un ymateb "I told you we don't speak Welsh here". Cyrhaeddodd y ffurflen gais heddiw - ffurflen uniaith Saesneg.

Er bod cynghorau Conwy a Dinbych yn cynnwys rhai o'r ardaloedd mwyaf Seisnig yng Nghymru maent hefyd yn cynnwys ardaloedd Cymraeg iawn; yn wir yn Sir Conwy mae'r unig gymunedau sydd â rhagor na 70% o siaradwyr y Gymraeg y tu allan i Wynedd a Môn. Byddwn yn ystyried gwasanaeth mor haerllug tuag at yr iaith yn annerbyniol mewn unrhyw ran o Gymru ond mae trin yr iaith yn y fath modd yng Nghonwy a Dinbych yn gyfan gwbl warthus.

Bydd cwyn yn cael ei wneud i brif weithredwyr y ddwy sir a Chomisiynydd yr Iaith - wrth gwrs; ond pam ddiawl dylid gorfod gwneud y fath gwynion er mwyn cael darpariaeth Gymraeg mor sylfaenol yn y dyddiau hyn?

14/12/2012

Llinyn Arian y Cyfrifiad

Yr wyf fi, fel pob ceraint arall i'r iaith, wedi fy siomi'n arw efo canlyniadau'r cyfrifiad. Yr wyf yn cefnogi pob galwad am weithredu i wella'r sefyllfa. Mae angen mwy o Ysgolion Cymraeg penodedig, yn enwedig mewn rhai o'r ardaloedd lle fu "esgus" addysg Gymraeg o dan drefn "categori" neu "Ysgol naturiol" yn Sir Gar, Ceredigion a Meirion. Mae angen cael gwared â'r tabŵ o gwyno am y mewnlifiad ac edrych ar ffurf o'i reoli. Mae angen creu cyfleoedd gwaith ar gyfer Cymry Cymraeg, mae angen magu hyder pobl i ddefnyddio ac i ymfalchïo yn eu Cymraeg. Mae angen gwneud yr holl bethau yma a rhagor ar frys er mwyn achub y Gymraeg.

Ond mae yna berygl o ormodedd o sachliain a lludw parthed ffigyrau'r cyfrifiad. Os ydym yn ddarogan gormod o wae yr ydym yn chware i ddwylo'r sawl sy'n casáu'r iaith, sy'n honni mae iaith ar ei wely angau efo DNR uwchben y glustog ydyw; y sawl sydd am gyfiawnhau gwario llai ar y Gymraeg gan fod llai yn ei ddefnyddio ac ati.
Mae yna ambell i linyn arian yn y ffigyrau.

Os yw'r Gymraeg yn dirywio ar y lefel y mae wedi dirywio ers cyfrifiad 1962 yr oedd Tynged yr Iaith yn cyfeirio ati – bydd yr Iaith Gymraeg yn fyw am o leiaf 300 mlynedd arall. Roedd Saunders yn ddarogan marwolaeth yr iaith erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain. Dyma ni ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain! I ni yma o hyd ac mae'r iaith Gymraeg yn fyw!
Mae hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn gallu'r Gymraeg, mae'n debyg bod nifer tebyg yn byw y tu allan i Gymru - mae miliwn o Gymreigwyr yn nifer helaeth o bobl. Dim ond ychydig yn llai o ran niferoedd (yn hytrach na chanran) na phan ofynnwyd y Cwestiwn iaith am y tro cyntaf ym 1891 a llawer mwy o ran niferoedd nag oedd o Gymry Cymraeg pan gynhaliwyd y cyfrifiad cyntaf ym 1801.

Mae un o bob pump o'r bobl yr ydych yn debyg o gwrdd ar y stryd, mewn siopau mewn unrhyw fan gymdeithasol yng Nghymru yn debygol o allu'r Gymraeg, mae'n dal yn werth chweil i ddechrau pob sgwrs yn y Gymraeg mewn pob sefyllfa. Cei ymateb cas "don't speak that language" weithiau; ceir yr ymddiheuriad "I'm sorry I don't speak Welsh" yn amlach, ond cewch eich siomi, unwaith allan o bob pump o'r ochor orau o glywed y gyrrwr bws, yr hogan wrth y til a hyd yn oed y gwerthwr tsips enwog yng Nghas-gwent yn ymateb trwy'r Gymraeg!
 

Iawn fod yn siomedig, iawn fod yn flin o ganfod ffigyrau'r cyfrifiad - ond paid digalonni!


 

18/02/2012

Sut Guto?

Rwy'n ddiolchgar i Guto Bebb AS am ei ymateb i ran o fy mhost diwethaf.

Yn y post mi ddywedais:

Y broblem fwyaf sydd gennyf efo darlith Guto yw'r darn yr wyf yn cytuno mwyaf ag ef:

Gadewch i do newydd o Gymry weld ymhellach na diogelwch swydd y sector gyhoeddus, gan ystyried sut y mae modd iddynt gyfrannu’n llawer mwy effeithiol i ddyfodol eu teuluoedd a’r gymdeithas ehangach trwy anelu i berchnogi eu heconomi fel ein heiddo ni fel Cymry.

Deud da, ond sut mae mynd ati?

Y rheswm pam nad ydwyf yn mentro yw diffyg ffyrling i'w mentro!

Heb arian wrth gefn sut bydd modd i'r to newydd fentro a pherchnogi'r economi?

Hawdd dweud, Guto – ond sut mae gwneud?

Ymateb Guto oedd:

Fe fu i mi sefydlu siop lyfrau (sy'n dal i fasnachu er i mi werthu) efo £3,000, tafarn efo £800 ag menter ymgynghorol gyda gorddrafft o £1000. Rŵan oes 'na honiad for hynny yn swm gormodol?

Am bymtheg mlynedd fe fu i mi gynnal cyrsiau busnes yn fisol trwy Wynedd, Môn a rhannau o Bowys a Chonwy. Rhwng y nawdegau cynnar a 2010 fe syrthiodd niferoedd y Cymry Cymraeg oedd yn mynychu o tua 50% i lai na 15%. Gan amlaf yr oedd y buddsoddiad dan sylw gan yr unigolion yn ymestyn o £200 neu lai i fawr mwy na £5,000. Ydi hynny'n amhosib i Gymry Cymraeg?

Wrth gwrs, yr oedd y staff oedd yn cynnig grantiau, asesu grantiau, datblygu strategaethau ayyb oll yn Gymry iaith gyntaf ac oll, yn naturiol ddigon, yn gweithio i'r sector gyhoeddus.

Dowch fois - hyder!

Nid ydwyf yn amau geirwiredd Guto, yr wyf wedi clywed straeon tebyg o fentro ychydig yn troi allan i fod yn llwyddiannau mawr yn niweddar. Yn ôl rhaglen deledu ddiweddar gan fuddsoddi £30 ym 1970 (tua £500 heddiw) y cychwynnwyd yr archfarchnad Iceland sydd bellach werth biliwn a hanner o bunnoedd.

Ar y radio yn niweddar roedd sôn am hogyn ysgol 11 oed a brynodd bocs o felysion o gyfanwerthwr efo'i bres poced deng mlynedd yn ôl, sydd bellach yn berchen ar gwmni gwerthu melysion byd eang sy'n troi miliynau o bunnoedd pob blwyddyn.

Fel gormod o ddynion canol oed trist byddwn wrth fy modd gwario ymddeoliad cynnar fel perchennog tafarn. Os oeddwn yn gwybod sut i wneud hynny am £800 byddai fy enw uwchben drws rhyw dafarn bach gwledig cyn pen y mis.

Mae yna dafarn ar werth yn fy mhentref ar hyn o bryd. Chwe Chan Mil amhosibl yw pris y gofyn nid Wyth Gant!

Pe byddwn yn gwybod sut mae modd i fy mhlant buddsoddi eu pres poced mewn busnes bydd yn arwain at greu cwmni rhyngwladol llwyddiannus byddwn yn atal eu pres poced ac yn eu cloi yn y twll dan staer hyd iddynt gytuno i fuddsoddi eu harian yn y fath fenter!

Nid diffyg mentergarwch, na diffyg hyder, na swydd fras yn y sector breifat, na diogi, na moethusrwydd byw ar y wlad sy'n rhwystro Cymry fel fi rhag cychwyn busnes ond diffyg gwybodaeth.

Os oes modd cychwyn busnes llwyddiannus am £200, fel mae Guto yn honni, mae modd i'r tlotaf yn ein cymdeithas benthyg hynny o Undeb Credyd. Efo'r wybodaeth briodol, prin yw'r di waith yr wyf i'n eu hadnabod na fyddent yn neidio at y fath gyfle!

Mae'r cwestiwn yn sefyll "Sut Guto"?

15/02/2012

Tynged yr Iaith a Thynged yr Economi

Rwyf wedi mwynhau cyfres y BBC o raglenni parthed hanner canmlwyddiant Tynged yr Iaith yn arw; un o'r cyfraniadau mwyaf difyr bu cyfraniad fy AS lleol Guto Bebb.

Roedd Taid Guto a Saunders yn gyfoedion ac yn gyfeillion ac yn cyd gyfrannu at yr achos Genedlaethol o allu gweld Cymru o du maes i'r ymerodraeth Brydeinig. Cyn i Ambrose Bebb syrthio allan gyda chefnogaeth Saunders i'r Almaen yn ystod yr ail rhyfel byd roedd y ddau o'r un anian wleidyddol hefyd. Dewis da, gan hynny, oedd dewis Guto fel cenedlaetholwr asgell dde i draddodi un o ddarlithoedd dathlu Tynged yr Iaith.

Mae darlith Guto i'w glywed ar yr I-Player am ychydig ac mae testun ei ddarlith i'w gweld am gyhyd a bydd modd ar wefan y BBC.

Rwy'n cytuno a llawer o'r hyn mae Guto yn ei ddweud. Yn sicr mae'n rhaid i'r Gymraeg bod yn iaith gwaith er mwyn goroesi, ac yn sicr mae angen dirfawr ar waith sector breifat yn y bröydd Cymraeg, nid jest jobs ar y Cyngor.

Rhan o broblem dadl Guto a dadl Saunders yw bod dadleuon y naill fel y llall wedi ei selio ar eirwiredd dyfyniad gan R W Lingen ym Mrad y Llyfrau Gleision Whether in the county or among the furnaces, the Welsh element is never found at the top of the social scale. Ym 1847 roedd yna bobl Cymraeg eu hiaith ar ben y raddfa gymdeithasol. Yn y cyfnod yma bu Syr Robert Williams Vaughan yn AS Ceidwadol a'r olaf o bendefigion Cymru i gyflogi bardd a thelynor llys. Bu David Davies Llandinam y dyn cyntaf i gyfnewid siec am filiwn o bunnoedd, a bu Gwenynen Gwent yn hybu'r Gymraeg yn ardal Llanofer. Mae dadl sydd wedi ei selio ar nonsens, boed gan Gomisiynwyr Addysg, Saunders neu Guto am fod yn nonsens!

Mae Guto yn lladd ar y "Sector Cyhoeddus" sydd wedi gwneud bywydau bras Cymreig gan Gymry i'w hunain, heb lawn ystyried gwir natur gwasanaeth cyhoeddus.

Prin fod pawb yn y gwasanaeth cyhoeddus yn y dosbarth canol. Mae glanhawyr ysbytai, pobl hel sbwriel, gweinyddion cinio ysgol ac ati yn cael eu cyflogi gan wasanaethau cyhoeddus, mae nifer ohonynt yn Gymry Gymraeg mewn swyddi lle mae'r Gymraeg yn angenrheidiol / dymunol, ond prin eu bod yn weithwyr dosbarth canol hunanol!

Ac wrth gwrs pan draddodwyd darlith Saunders ystyrid nyrsiaid, heddweision, athrawon, clercod cyngor ac ati yn dosbarth gweithiol.

Mae yna rywbeth gwrthun yn y ffaith bod aelod o'r blaid sydd wedi ceisio perswadio'r aelodau yma o'r dosbarth gweithiol eu bod yn uwch na hynny yn condemnio cefnogwyr y Gymraeg yn y sector gyhoeddus am wneud yr Iaith yn iaith dosbarth canol Pan fo'r un blaid wedi ceisio "creu" y ddosbarth y mae'n condemnio!

Y broblem fwyaf sydd gennyf efo darlith Guto yw'r darn yr wyf yn cytuno mwyaf ag ef:

Gadewch i do newydd o Gymry weld ymhellach na diogelwch swydd y sector gyhoeddus, gan ystyried sut y mae modd iddynt gyfrannu’n llawer mwy effeithiol i ddyfodol eu teuluoedd a’r gymdeithas ehangach trwy anelu i berchnogi eu heconomi fel ein heiddo ni fel Cymry.


Deud da, ond sut mae mynd ati?

Y rheswm pam nad ydwyf yn mentro yw diffyg ffyrling i'w mentro!

Heb arian wrth gefn sut bydd modd i'r to newydd fentro a pherchnogi'r economi?

Hawdd dweud, Guto – ond sut mae gwneud?