Showing posts with label UKIP. Show all posts
Showing posts with label UKIP. Show all posts

11/06/2009

Cai, Gwilym, Golwg a fi

Mae yna erthygl yn Golwg heddiw sydd yn ddweud bod Gwilym Euros wedi cwyno bod Cai Larsen wedi "cyhuddo llais Gwynedd o gefnogi'r BNP".

Mae'r stori yn gwbl di sail, hoffwn gynnig rhywfaint o gefndir yr hanes er mwyn dangos pam ei fod yn stori na ddylid wedi ei gyhoeddi.

Mewn post o'r enw Siom Etholiad Ewrop mi ddwedais i hyn:
Un o wendidau Plaid Cymru yn yr etholiad yma oedd peidio ag ymosod ar UKIP. Dyma blaid sydd yn credu mai "dim ond enw ar fap" yw Cymru, bod angen dileu'r Cynulliad ac sydd yn wrthwynebus i unrhyw gefnogaeth i'r iaith. Mae'r ffaith bod plaid o'r fath yma yn gallu ennill chwarter o seddi senedd Ewrop Cymru yn siom aruthrol.

Pe bai Cymry driw yn gwybod bod yna berygl i'r fath yma o blaid ennill sedd rwy'n sicr bydda nifer ohonynt a arhosodd adref wedi pleidleisio ac rwy’n sicr bydda sawl un a bleidleisiodd i UKIP wedi rhoi eu pleidlais protest i Blaid Cymru. Mae'n bwysig bod y diawliaid yma ddim yn cael taith mor hawdd yn y dyfodol.

Roedd Cai Larsen yn anghytuno a fy nadansoddiad. Fe ddywedodd o mewn post ymateb ar Flog Menai Yr ail etholiad Ewrop orau i'r Blaid erioed!

Oherwydd i ni fethu a pherswadio pleidleiswyr naturiol Llafur i bleidleisio i ni yn hytrach nag aros adref yn pwdu. Dyna pam bod Hen Rech Flin yn anghywir pan mae'n honni mai prif gamgymeriad y Blaid oedd peidio ag ymosod digon ar UKIP (er ei fod yn fwy cywir na mi wrth ddarogan y canlyniad a bod yn deg). Gelyn Plaid Cymru ydi Llafur. Mae UKIP yn pysgota yn yr un pwll etholiadol a'r Blaid Geidwadol.
Mewn ymateb i hyn mi ddywedais fy mod wedi clywed gan rhai o fy mherthnasau eu bod wedi pleidleisio i UKIP eleni
Fe bleidleisiasant yn erbyn y Blaid am y tro cyntaf erioed llynedd oherwydd bod addysg leol Gymreig eu gôr wyrion ac wyresau yn cael ei fygwth gan Blaid Cymru, o bob Plaid.

Dyma fu hanes llawer un yng Ngwynedd.

Yn niffyg Plaid Cymru driw i'w ddaliadau i bleidleisio drosti - IWCIP, gwaetha'r modd, cafodd eu plediais brotest eleni.

Mae'r dyfyniad uchod yn ei gwneud yn amlwg mae myfi, nid Cai, oedd y gyntaf i gysylltu Llais Gwynedd a phlaid asgell dde. Os oedd hynny yn gwneud cam a Llais y fi sydd ar fai. Yn wir trwy anghytuno a fy sylwadau i roedd Cai yn achub cam Llais trwy ddweud bod fy nadansoddiad yn anghywir.

Ymateb Cai oedd fy mod yn ANGHYWIR i wneud y cysylltiad yma rhwng pleidleisiau yn symud oddi wrth Llais i UKIP, bod maint pleidlais UKIP mor fychan yng Ngwynedd fel bod unrhyw symud yn beth nad oedd rhaid ei boeni amdano:

Y broblem efo hyn ydi bod pleidlais UKIP bron yn sicr yn is yng Ngwynedd y tro hwn nag oedd yn 2004 (mae'n anodd gwneud cymhariaeth lwyr oherwydd bod y rhanbarthau cyfri yn wahanol).

'Dwi ddim yn amau am eiliad bod cydran o bleidlais Llais Gwynedd wedi rhoi croes i UKIP (a'r BNP o ran hynny)- ond fel mae'r blog yma wedi dadlau sawl gwaith, pleidlais wrth Gymreig ydi rhan arwyddocaol o bleidlais Llais Gwynedd.

Rwy'n deall sut bod modd camddehongli sylwadau Cai trwy eu cymryd allan o gyd-destun, ond yn y cyd-destun llawn mae'n hollol amlwg bod Cai yn dweud bod yna dim tystiolaeth i awgrymu bod y niferoedd mawr o bobl a bleidleisiodd i Lais Gwynedd yn etholiadau'r cyngor sir y llynedd wedi troi at UKIP na'r BNP, hyd yn oed os oedd rhyw ychydig wedi gwneud. Mae o hefyd yn eglur mai'r rhai a neidiodd ar fandwagen Llais byddai'r rheiny, nid y sawl oedd yn gefnogol i Lais oherwydd eu pryderon am ysgolion bach.

Rwy'n hollol sicr nad oedd Cai yn cysylltu Llais a'r BNP; i'r gwrthwyneb dweud NAD oedd sail gwneud y fath gysylltiad ydoedd. Yr wyf yr un mor sicr nad ydy Gwilym wedi enllibio Cai, cam ddeall y sylw wnaeth Gwilym trwy fethu a'i ddarllen yn ei chyd-destun llawn.

Mae gweld sylwadau yn eu cyd-destyn llawn yn anodd weithiau ar flogiau, yn arbennig pam, fel yn yr achos hwn, mae'r sylwadau yn rhan o drafodaeth eang ar ragor nag un blog a phost.

Y mae'n siom bod Golwg heb wirio eu stori yn well cyn cyhoeddi, yn sicr mae angen ymddiheuriad ganddynt i Cai.

O fy rhan i hoffwn ymddiheuro i Cai a Gwilym bod fy sylwadau cychwynnol wedi corddi’r dyfroedd mewn ffordd mor ddianghenraid o atgas.

10/06/2009

Ethol Anghenfil

Wrth ymateb i fy sylwadau am lwyddiant UKIP yn etholiad Ewrop Cymru mae nifer o sylwebyddion wedi awgrymu mae dibwys yw targedu plaid mor fychan, wedi nodi bod Plaid Cymru ymhell ar y blaen iddynt yn y rhan fwyaf o etholaethau ac wedi nodi mae lleiafrif o bobl wrth Gymreig yw craidd ei chefnogaeth.

Rwy'n ddeall synnwyr y fath ddadleuon, ond heb fy mherswadio o bell ffordd.

Wrth ethol cynghorydd plwy, dyn neu ddynes yn unig sy'n cael ei ethol. Wrth ethol ASE mae cyfundrefn ddrudfawr yn cael ei hethol.

Bydd gan y blaid ffiaidd wrth Gymreig hon bellach swyddfeydd, ymchwilwyr, ac ysgrifenyddion wedi eu talu ar bwrs y wlad. Bydd ganddi fynediad i'r cyfryngau, i'r papurau, y radio a'r teledu. Nid unigolyn ond anghenfil a etholwyd nos Iau.

Gan mae un o brif bolisïau IWCIP yw diddymu'r Cynulliad, rhaid derbyn bod peirianwaith cyflogedig bellach ar gael i hyrwyddo'r achos yma. Mae'n rhaid i ddatganolwyr a chenedlaetholwyr bod yn barod i wrthsefyll y peirianwaith. Tal hi ddim i gael agwedd o anwybydda nhw ac fe ant o 'ma’, sef yr agwedd pen mewn tyfod mae y rhan fwyaf o sylwebyddion y Blaid i'w gweld yn eu dilyn.

08/06/2009

Siom Etholiad Ewrop

Er bod fy narogan parthed dosbarthiad y seddi yng Nghymru yn gywir, rwyf yn hynod siomedig efo canlyniadau'r etholiad Ewropeaidd. Yn arbennig efo perfformiad y Blaid.

Mae Plaid Cymru wedi colli 34,000 o bleidleisiau ers yr etholiad Ewropeaidd diwethaf, etholiad oedd yn cael ei gyfrif yn gyffredinol trychinebus iddi. O ran canran y bleidlais doedd dim ond cynnydd o 1% ym mhleidlais y Blaid. Pan fo'r Blaid Lafur yn colli 12% o'i bleidlais a bod y Ceidwadwyr, y BNP ac UKIP yn cael y fendith o'r golled mae'n rhaid i'r blaid ddwys ystyried pam.

Un o wendidau Plaid Cymru yn yr etholiad yma oedd peidio ag ymosod ar UKIP. Dyma blaid sydd yn credu mai "dim ond enw ar fap" yw Cymru, bod angen dileu'r Cynulliad ac sydd yn wrthwynebus i unrhyw gefnogaeth i'r iaith. Mae'r ffaith bod plaid o'r fath yma yn gallu ennill chwarter o seddi senedd Ewrop Cymru yn siom aruthrol.

Pe bai Cymry driw yn gwybod bod yna berygl i'r fath yma o blaid ennill sedd rwy'n sicr bydda nifer ohonynt a arhosodd adref wedi pleidleisio ac rwy’n sicr bydda sawl un a bleidleisiodd i UKIP wedi rhoi eu pleidlais protest i Blaid Cymru. Mae'n bwysig bod y diawliaid yma ddim yn cael taith mor hawdd yn y dyfodol.