Showing posts with label Wrecsam. Show all posts
Showing posts with label Wrecsam. Show all posts

17/09/2010

Wrecsam i'r Blaid yn 2011?

Llongyfarchiadau Mawr i'r cynghorydd Marc Jones ar gael ei ddewis fel ymgeisydd y Cynulliad Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Wrecsam. Mae Marc yn gyfrannydd rheolaidd i flog Plaid Wrecsam.

Mae'n hynod annhebygol y bydd Marc yn cael ei ethol yn aelod Cynulliad yr etholaeth, wedi dweud hynny yr oedd ei ethol yn gynghorydd yn annhebygol hefyd!

Mae'r Blaid i'w weld yn gwneud yn well na'r disgwyl yn ardal Wrecsam yn niweddar, yn rhannol oherwydd yr hyn a elwir yn Chesterfication, sef trin Wrecsam fel swbwrb o Gaer yn hytrach nag un o brif drefi Cymru.

Mae gan y Blaid cwestiwn cryf i ofyn i bobl y dref – a ydych chi am i Wrecsam barhau i fod yn un o brif drefi Cymru, neu a ydych chi am iddo fod yn faesdref Seisnig i Gaer? Dim ond bleidlas gref i Blaid Cymru bydd yn rhwystro Chesterfication ac yn cadw hunaniaeth Cymreig Wrecsam!

Mae modd i'r Blaid gwneud yn dda yn etholaeth Wrecsam. Yn wir o gymharu rhifau cafodd Elystan Morgan 6,500 pleidlais bitw yn Wrecsam ym 1959. Dim ond 5,633 cafodd yr enillydd Llafur yn 2007! Mae modd i'r Blaid curo yn Wrecsam, mae'n rhaid trin Wrecsam fel etholaeth sydd o fewn gafael, dyna'r unig fodd i'r Blaid ennill mwyafrif yn y Cynulliad, ac os ydy Marc yn colli o drwch blewyn bydd ei ymgyrch yn ategu at bleidlais rhestr y Blaid.

Cefnogwch ef!

Efo gwynt teg MAE modd i Marc ennill Wrecsam, rhowch eich cefnogaeth, ysbrydol, ariannol ac ymarferol iddo!

I'r sawl sy'n weplyfrio dyma dudalen ei gefnogwyr. Ymunwch!

23/04/2010

Enill efo 10%?

Mae gan Vaughan post heddiw sydd yn nodi pa mor isel gall y bleidlais fuddugol bod mewn ambell i etholaeth. Mae o'n nodi bydd modd i fuddugwr Ynys Môn derbyn cyn lleied a 27% o'r bleidlais. I brofi ei bwynt mae Vaughan yn tynnu sylw at y ffaith bod Lesley Griffiths wedi ennill sedd Cynulliad Wrecsam gyda dim ond 28.8% o'r bleidlais.

Mae'r gwirionedd am bleidlais Wrecsam yn waeth nag y mae Vaughan yn nodi. Dim ond 38% o bleidleiswyr Wrecsam aeth allan i bleidleisio yn etholiad 2007, gan hynny fe enillodd Lesley ei sedd efo cefnogaeth lai na un allan o bob deg o etholwyr yr etholaeth.

Cafodd Lesley 5,633 o bleidleisiau yn 2007. Mewn ymateb i bost blaenorol fe nododd Arfon Jones (Plaid Wrecsam) Cafodd Elystan 6,500 neu 12.2% o'r bleidlais ym 1959 . Cafodd Plaid Cymru bron i fil o bleidleisiau yn fwy, hanner canrif yn ôl, na chafodd y buddugwr yn yr etholiad diwethaf i'r Cynulliad.

Dwi ddim yn nodi'r ystadegyn yna er mwyn ceisio dweud bod modd i'r Blaid cipio Wrecsam yn 2011 (er ei fod yn nod gwerth gweithio tuag ato), ond i nodi'r perygl o ganran mor fychan o'r boblogaeth yn pleidleisio. Ym 1959 yr oedd Plaid Cymru yn blaid fechan ddi-nod ar ymylon gwleidyddiaeth Cymru. Os oedd plaid ymylol yn gallu cael digon o bleidleisiau hanner canrif yn ôl sydd yn ddigonol i ennill etholiad bellach fe all digwydd eto yn 2011. Dydy o ddim y tu hwnt i bob posibilrwydd y gall plaid fel y BNP ennill mewn rhai etholaethau pan nad oes angen cefnogaeth dim ond 10% o'r etholwyr er mwyn cael buddugoliaeth.

14/04/2010

Darogan etholiad 2010 - Wrecsam

Yr wyf wedi bod yn esgeulus efo fy narogan, ac wedi ei adael ar ei hanner, er gwaetha'r ffaith fy mod wedi addo i Blaid Wrecsam y byddwn yn sicr yn cyrraedd Wrecsam cyn dyddiad yr etholiad. Gwell ail afael ar yr ymdrech trwy edrych ar sedd Wrecsam - er mwyn cadw addewid.

Mae gennyf lyfr yn rhywle yn y tŷ 'ma sy'n rhoi canlyniadau etholiadau Cymru o 1832 hyd at ddyddiad ei gyhoeddiad ar ddechrau'r 1990au. Er chwilio a chwalu rwy'n methu yn fy myw a chael hyd iddi.

Mae hyn yn siom, oherwydd bod gennyf ryw brith gof bod Wrecsam yn y 40au y 50au a dechrau 60au yr ugeinfed ganrif (pan nad oedd Plaid Cymru yn wneud yn hynnod o dda mewn unrhyw etholaeth) ymysg canlyniadau gorau Plaid Cymru, yn enill deg i bymtheg y cant o'r bleidlais yn yr etholaeth pan nad oedd y Blaid yn cael prin 5% trwy Gymru gyfan. A syniad bod Wrecsam wedi dychwelyd mwy o bleidleisiau mewn ambell i flwyddyn na Sir Gaernarfon, Meirion neu Sir Gaerfyrddin.

Yn etholiad 2005, dim ond o drwch y blewyn cadwyd ernes ymgeisydd Wrecsam.

Cyn i Dennis Balsom creu ei theori Cymru’n dri, fe wnaeth y Blaid dechrau gweithredu'r theori gan ganolbwyntio ar y Gymru Gymraeg a'r Cymoedd a chan anwybyddu llefydd ar y ffin, megis Wrecsam.

Mae Cymru Wrecsam yn gallu bod yn llawer mwy balch o'u Cymreictod na Chymru Caernarfon, gan eu bod yn llawer mwy ymwybodol o'r bygythiad i'w Cymreictod. Camgymeriad oedd i'r Blaid anwybyddu egin cenedlaetholdeb Wrecsam yn y 1970au.

Mae gan y Ceidwadwyr siawns prin o gipio'r sedd a'r Democratiaid Rhyddfrydol siawns prinnach. Fy narogan yw y bydd Llafur yn dal ei afael.

Ond dyma sedd lle na ddylai’r un cenedlaetholwr cael ei demtio i bleidleisio yn dactegol. O'i hadeiladu yn ôl i'w hen ogoniant, trwy gynyddu pleidlais Plaid Cymru a chynyddu dylanwad y Blaid, fe all Wrecsam droi yn Islwyn Etholiad Cynulliad 2018.

Pob hwyl i Arfon yn yr ymgyrch o adeiladu dyfodol gwell i Wrecsam.