Showing posts with label YouGov. Show all posts
Showing posts with label YouGov. Show all posts

13/04/2012

Pôl newydd ar fin cael ei gyhoeddi?

Cefais hysbysiad o bôl piniwn gwleidyddol Cymreig newydd gan YouGov heno, nid oes gennyf syniad pwy sydd wedi comisiynu'r pôl; os mae un o'r pleidiau sydd wedi ei gomisiynu fel pôl preifat, hwyrach na ddaw'r canlyniad byth yn gyhoeddus. Rwy'n gobeithio mae pôl ar gyfer un o'r cyfryngau ydyw ac y ddaw ei ganlyniadau yn hysbys cyn bo hir.

Ymysg y cwestiynau arferol am fwriad pleidleisio mewn etholiadau Sansteffan a Chynulliad bu holi am fwriad pleidleisio yn etholiadau cyngor sir, a chyfres o gwestiynau parthed annibyniaeth i Gymru. Beth bynnag bo'r niferoedd o blaid annibyniaeth, does dim ddwywaith bydd y canlyniadau yn cael eu defnyddio i ddirmygu'r achos dros annibyniaeth. Er hynny difyr yw gwybod bod comisiynwyr y pôl yn credu bod Annibyniaeth yn bwnc digon llosg yng Nghymru i fynnu cymaint o gwestiynau parthed y pwnc mewn pôl piniwn.

Yr hyn bydd o ddiddordeb imi bydd gweld os oes cynnydd yn y nifer o Bleidwyr sydd yn cefnogi Annibyniaeth ers pôl ITV/YouGov ym mis Chwefror. Rwy'n amau bod nifer o'r Pleidwyr a oedd yn wrthwynebu annibyniaeth ym mis Chwefror yn cefnogi cynyddoldeb gan mae dyna oedd polisi rhai o ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Blaid ar y pryd; difir bydd gweld os yw ethol arweinydd sydd ddim yn ofni'r gair annibyniaeth wedi cryfhau'r achos ym mysg etholwyr Plaid Cymru.

Os am gael cyfle i gael eich dethol ar gyfer eich holi gan YouGov mewn polau tebyg yn y dyfodol cofrestrwch trwy ddilyn y ddolen yma.

18/03/2011

Polau a Gwirioneddau

Un o'r pethau nad ydwyf yn hoffi am bolau piniwn, yw'r ffaith eu bod yn gallu dylanwadu ar wleidyddiaeth yn ogystal â mesur y tymheredd gwleidyddol.

Ar hyn o bryd mae'r polau piniwn yn awgrymu bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn y cac, yn colli cefnogwyr rhif y gwlith. Pe bawn i'n hanner feddwl bwrw pleidlais i'r Rhyddfrydwyr ym mis Mai, mae'r polau yn dweud wrthyf mae afradu pleidlais byddai hynny, gwell byddid mynd gyda hanner arall fy meddwl a phleidleisio Llafur (dyweder). Yn hynny o beth mae polau yn gallu bod yn broffwydoliaethau sy'n gwireddu eu darogan eu hunnain (self fulfilling prophecies).

Cyn i ITV Cymru dechrau ar ei chyfres o bolau YouGov misol tua dwy flynedd yn ôl, roedd polau piniwn Cymreig yn andros o brin ac yn uffernol o anghywir.

Chware teg i YouGov roedd ei phôl diweddaraf ar ganlyniad y refferendwm yn agos iawn i'r canlyniad o ran canran y bleidlais IE a Na, er yn bell iawn ohoni o ran faint y bleidlais:

YouGov IE 67% Canlyniad 63.5%
YouGov Na 33% Canlyniad 36.5%
YouGov faint y bleidlais 56% Canlyniad 35.2%

Mae hyn yn awgrymu bod polau Cymreig yn gwella, ond eto dim yn berffaith o bell ffordd. Fel y nodais uchod mae polau perffaith yn gallu effeithio yn andwyol ar wleidyddiaeth, mae polau amherffaith yn gallu bod yn fwy andwyol.

Yn y cyd-estyn yna mae post diweddar ar Political Betting yn hynod ddadlennol!

Dydy pôl ddim yn cael ei gynnal trwy ofyn i fil o bobl sut ydynt am bleidleisio ac yna'n cyhoeddi'r canlyniad noeth. Mae'r polwyr yn gofyn cwestiynau amgen er mwyn pwyso'r canlyniadau. Os yw deg y can't o'r boblogaeth yn ennill mwy na hyn a hyn, ond bod ugain y cant o'r ymatebwyr yn ennill mwy na'r swm priodol, bydd gwerth eu pleidlais yn cael eu pwyso fel hanner pleidlais, er enghraifft.

Mae'r ffigyrau heb eu pwyso, a'r rheswm am eu pwyso ar Political Betting yn achos o fraw i Blaid Cymru. Mae'n debyg mae sawl sy'n darllen y Daily Mirror yw un o'r cwestiynau. Ar ôl ffars y Welsh Mirror yn 1999, prin bydd y Pleidwyr bydd yn cefnogi'r rhecsyn.

Un o'r pethau sydd yn cynyddu pwysau'r Blaid yw diffyg panelwyr sy'n gefnogol o'r Blaid.

Nid ydwyf am geisio gwyro YouGov, ond byddwn yn awgrymu bod angen i lawer mwy o gefnogwyr Plaid Cymru i gofrestru a'r safle yn fuan, a'u bod yn nodi wrth ymuno eu bod yn ddarllenwyr brwd o'r Sun a'r Mirror.

Gellir gwneud cais i ymuno a'r panel trwy glecio YMA

03/03/2010

Y scandal treuliau mwyaf un yn y byd i gyd

Pam fod barn Elfyn Llwyd werth gymaint yn fwy na fy marn i?

Yr wyf yn fwy blin nac arfer heno. Cefais gais i gymryd rhan mewn pôl piniwn gan YouGov heddiw - fy ngwobr am ei lenwi bydd 50c, rhaid cydnabod ei fod yn 50c yn fwy na'r wobr cefais ei gynig yr wythnos dwiwethaf, sef rhoi fy enw i mewn i het ar gyfer gwobr raffl!

Wrth edrych ar dudalen Treuliau Seneddol Elfyn Llwyd AS cefais hyd i'r wybodaeth yma:

Fee of £50 received for interview lasting 30 minutes on 18 September 2009. (Registered 6 October 2009) ComRes, Four Millbank, London SW1P 3JA.
£50 for completion of a parliamentary survey. Hours: 20 mins. (Registered 21 August 2009)
11 January 2010, paid £75 by ComRes for a completing survey panel. Hours: 20 mins. (Registered 12 January 2010) BPRI, 24-28 Bloomsbury Way, London, WC1A 2PX.
£75 for completing an opinion panel questionnaire. Hours: 30mins. (Registered 3 September 2009)
£75 for completing survey. Hours: 30 mins. (Registered 25 November 2009)
£75 for completing survey. Hours: 40 mins. (Registered 9 December 2009)
Rwy'n cael ffiffti pî ac mae o'n cael 75 punt am lenwi arolwg - y bastard barus!

Os hoffech gael bod yn rhan o arolygon YouGov am 50c pitw clicier yma! Os hoffech gael crocbris am yr un gorchwyl danfonwch eich enw, cynigydd, eilydd a rhyw 10,597 o bleidleisiau i'ch swyddog canlyniadau etholiadol lleol!

Grrrr!!!!

26/08/2007

YouGov a Chymru

Yn ôl y son, polau piniwn YouGov sydd wed darogan y canlyniadau cywiraf yn etholiadau'r Alban dros flynyddoedd lawer. Yn anffodus dydy YouGov ddim yn cyhoeddi polau Cymreig. Un o'r rhesymau am hynny yw nad oes digon o gyfranwyr Cymreig ar gael i wneud pôl dibynadwy. Mae Cymru yn cael ei gyfrif fel rhan o Ganolbarth Lloegr ar gyfer ei bolau, mae'n debyg.

Does dim modd curo pôl YouGov trwy annog 5 mil o gefnogwyr y Blaid i ymuno a'r cynllun, gan fod y rheolwyr yn dewis a dethol pwy sydd i ateb pob cwestiwn yn ôl rheolau pendant, ond po fwyaf o Gymry sydd yn aelodau, po fwyaf yw'r gobaith o gael digon o Gymry yn y cynllun i wneud pôl Cymreig yn rhywbeth gwerth chweil.

Mae'r rhai sydd yn aelodau o YouGov yn cael eu talu am gyfrannu at bôl (dim ond chweigan y tro), ac mae'n rhaid ennill £50 cyn gellir hawlio'r tâl, sef can holiadur.

O gysylltu trwy glicio ar y ddolen yma, mi gaf i chweigien yn ychwanegol am eich cyflwyno. Ond nid ydwyf yn annog aelodaeth am y chweigian, rwy'n credu bod angen mwy o gyfranwyr o Gymru, gwir yr, er mwyn creu polau Cymreig dibynadwy. Mae modd darganfod ffurf o ymaelodi a YouGov trwy Gwgl, heb i mi cael dime o gildwrn, os nad ydych am imi gael y cildwrn ymunwch felly, da chi!