Showing posts with label cyfieithu. Show all posts
Showing posts with label cyfieithu. Show all posts

28/03/2011

Seisnigrwydd Undeb Credyd y Gogledd

Rwy'n rhannu siom Plaid Wrecsam a Blog Menai am Seisnigrwydd yr Undeb Credyd newydd ar gyfer Gogledd Cymru. Ond yn wahanol i fy nghyfeillion blogawl nid ydwyf am annog pobl i gysylltu â'r Undeb i gwyno.

Mudiadau cydweithredol, cyd-gymorth yw'r Undebau Credyd, maent wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth roi cymorth i rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig i reoli eu cyllidebau trwy gynnig benthyciadau fforddiadwy ac annog cynilo.

Mae llawer o lwyddiant yr Undebau Credyd yn perthyn i'r ffaith eu bod yn cael eu cynnal, ar y cyfan, gan wirfoddolwyr sy'n cynnig amser ac arbenigedd i'r achos.

Os am weld Cymreigio'r Undeb newydd yn y gogledd, gai awgrymu bod cefnogwyr y Gymraeg a'r mudiad Undebau Credyd yn cysylltu ag Undeb Credyd Gogledd Cymru, nid er mwyn cwyno, ond er mwyn cynnig cymorth ieithyddol iddynt!

11/09/2010

Cyfieithu Egniol!

Wedi gwylio cynhadledd y Blaid ar BBC2, heb yr allu i ddiffodd y cyfieithadau o'r cyfraniadau Cymraeg, mae'n rhaid imi longyfarch Meg Ellis ar ei chyfieithiad o araith Elin Jones.

Un o'r beirniadaethau yn erbyn cyfieithwyr yw eu bod yn ddiflas ac undonog ac yn methu mynegi angerdd yr hyn sy'n cael ei gyfieithu. Pwynt pwysig parthed cyfieithu mewn achos llys, er engraifft, lle mae mynegiant lleisiol ac iaith corff yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng dedfryd o euog neu ddieuog.

Yr hyn oedd yn arbennig am gyfieithiad Meg, o araith Elin, oedd ei bod hi'n mynegi brwdfrydedd Elin yn ei chyfieithiad, yn wir, roedd cyfieithiad Meg yn llawer mwy egniol nag oedd cyfraniad Elin ar adegau!

Araith gwych ac ysbrydol, a chyfieithiad gwych ac ysbrydol! - Llongyfarchiadau i Elin a Meg!

06/12/2009

Ydy'r HRF o blaid Lladd yr wrth Gymraeg?

Gan fy mod wedi penderfynu cael hoe fach o'r pwysau uffernol sydd yn dod o ysgrifennu blog Saesneg, mi benderfynais roi peiriant Google Translate ar y safle hwn rhag ofn bod rhai o fy nghyn darllenwyr Saesneg am gael cip o'r farn yr wyf yn parhau i'w fynegi yn y Gymraeg.

Mae'r teclyn i'w gweld ar ochor chwith y sgrin rhwng bathodyn Maes-e a bathodyn Rwy'n Cefnogi Annibyniaeth.

Yr wyf yn ansicr o gallineb osod y teclyn, gan fod ambell i gyfieithiad yn awgrymu bod fy marn yn fwy hurt na'r hurtiaf y mae Cai wedi eu gwobrwyo am idiotrwydd.

Er enghraifft mae cyfieithiad o'r post yma yn awgrymu fy mod o blaid llofruddiaeth dorfol o'r gwrthbleidiau er mwyn amddiffyn y Gymraeg:

What is great is that the buoyancy, the fire in the belly, and the fall out has pasiwn raised when members of the party killed four of their opponents for compromise on the future of the language.

Ond wedi fy nghyhuddo o gefnogi llofruddio pedwar cyfaddawdwr er mwyn addiffyn yr iaith mae'r peiriant cyfieithu yn amau fy niffuantrwydd. Dyma'i gyfieithiad o benawd y post gyfredol:

Slaughter - is the HRF in favour of the Gymraeg?

Gwell imi gael gwared â'r peiriant cyfieithu cyn iddi fy arwain i ddyfroedd dyfnion iawn, mi dybiaf !!!!!!!!!!

30/08/2009

Blog y Daten o Rachub




Wedi darllen ar Faes-E bod Google Translate bellach yn cynnig cyfieithiadau o ac i'r Gymraeg yr wyf wedi bod yn edrych ar rai o'r pyst yma mewn cyfieithiad. Rhaid cydnabod bod gwasanaeth Google yn llawer gwell na'r gwasanaethau eraill. Ond mae llawer o ffordd i fynd eto cyn y gellir honni ei fod yn dda.

Gweler, er enghraifft, y cyfieithiad o Flog yr Hogyn o Rachub yn y llun!

Un o fanteision honedig Google Translate yw'r gallu i unrhyw un gynnig gwell cyfieithiad, ond rwy'n ansicr o fendithion y gwasanaeth yma. Bydd pobl amaturaidd heb afael cadarn ar yr iaith yn gallu gwneud y gwasanaeth yn waeth, yn hytrach nag yn well trwy gynnig cyfieithiadau o safon isel. Ar ben hynny mae yna ormod o fandaliaid gwrth Cymreig sydd â mynediad i'r we. Pa mor hir bydd hi cyn i frawddegau cwbl ddiniwed cael eu cyfieithu i I like shagging sheep ac ati o ganlyniad i ddifrod dan din gelynion yr iaith?

19/04/2008

Dydy byddardod ddim yn Jôc - Jac!

Hwyrach bod y cylchgrawn Golwg yn credu bod y ffaith nad oes modd i bobl drom eu clyw cael defnyddio system lŵp mewn cyfarfodydd lle mae cyfieithu ar y pryd yn digwydd yn rhywbeth digon doniol i gynnwys mewn colofn dychan.

Fel Cymro Cymraeg, eithriadol drwm fy nghlyw, dwi ddim yn gweld y jôc. Os ydwyf am fynychu cyfarfod cyhoeddus mae'n rhaid imi ddibynnu ar system lŵp i wybod be sy'n cael ei ddweud. Oherwydd anghenion cyfieithu rwy'n cael fy amddifadu o'r hawl i fynychu cyfarfodydd cyhoeddus lle mae offer cyfieithu yn cael eu defnyddio. O fynychu cyfarfod o'r fath y gwasanaeth sydd ar gael i mi yw clywed dim sy'n cael ei ddweud yn Saesneg a chlywed cyfieithiad o'r hyn sy'n cael ei ddweud yn y Gymraeg.

Ers 18 mlynedd, bellach, rwyf wedi bod yn cwyno am y broblem yma. Da oedd gweld sylw yn cael ei roi i'r broblem mewn cylchgrawn cenedlaethol am y tro cyntaf. Ond siom oedd darllen y sylw yna yng ngholofn Jac Codi Baw yn hytrach nag mewn erthygl difrifol.