Showing posts with label hysbysebion. Show all posts
Showing posts with label hysbysebion. Show all posts

14/09/2010

Hysbys i droi gwirfoddolwyr i ffwrdd o gefnogi chwaraeon lleol?

Mae yna hysbyseb / rhaglen gwybodaeth gyhoeddus sy'n cael ei ddarlledu yn rheolaidd ar y teledu yn gyfredol, sydd yn cynnwys dau blentyn yn dewis tîm pêl droed, yn y modd sbeitlyd mae timau chwaraeon ysgol wedi eu dewis ers hydoedd. Mae'n hysbyseb digon doniol ei naws, am wn i, ond braidd yn anffodus.

Y profiad yna o gael fy ngwrthod gwnaeth fy ngelyniaethu i tuag at chwaraeon ac ymarfer corff - yn rhy aml fi oedd yr un oedd yn cael ei ddewis yn olaf. Mae'r meibion yn teimlo'r un fath. Gwell peidio cynnig eu hunain i fod yn rhan o'r tîm nag i fod yr un dros ben nad oes yr un tîm yn dymuno ei gael! Haws cadw draw o fyd chwaraeon na chael siom mor sarhaus!

Os yw'r Cyngor Chwaraeon am annog pobl i ymgymryd â chwaraeon a chefnogi chwaraeon pam ar y diawl ei fod yn amlygu agwedd mor negyddol o brofiad blaenorol pobl o fyd chwaraeon?

Os oes modd imi gynnig unrhyw wasanaeth i'r tîm pêl droed, rygbi, gymnasteg, bowls ac ati yn y Llan rwy'n fwy na bodlon cyfrannu - o gael fy ngofyn. Ond prin fod hysbyseb sydd yn fy atgoffa i o sut y cefais fy mwlio, fy ngwrthod a fy nilorni tra'r oeddwn i'n blentyn, yn mynd i wneud imi gynnig gwirfoddoli. I'r gwrthwyneb - mae'n fy atgoffa i o hen gas resymau dros beidio a chynnig dim i'r byd chwaraeon!

Hysbyseb hurt ar y diawl!

Gyda llaw pwy yw'r dyn sy'n cael ei wrthod yn yr hysbys? Mae'n amlwg ei fod yn sbortsmon, ond un dieithr i mi.

23/07/2010

Ble yn y byd mae Pooeley?

Newydd glywed hysbyseb mwyaf uffernol gan Rheilffordd y Cambrian yn cynnig teithiau golygfaol o Makinlic i Pooeley. Dydy rheolwyr y cwmni ddim yn gwirio'r fath hysbysebion cyn gadael iddynt gael eu darlledu, onid ydynt hwy yn deall bod caniatáu'r fath gam ynganu ar eu hysbysebion yn gwneud eu cwmni yn gyff gwawd? Cwbl hurt a gwarthus.