Showing posts with label is-etholiad. Show all posts
Showing posts with label is-etholiad. Show all posts

30/09/2011

Dau ganlyniad da i'r Blaid yn Ngwynedd

Diffwys a Maenofferen
Mandy Williams Davies, Plaid Cymru - 210
Catrin Elin Roberts, Llais Gwynedd – 153

Penrhyndeudraeth
Gareth Thomas, Plaid Cymru - 515
Rhian Jones, Llais Gwynedd - 219
Dafydd Thomas, Annibynnol – 90

Llongyfarchiadau i'r ddau gynghorydd newydd. Ac wedi cael y profiad o golli etholiad yn diweddar cydymdeimladau a'r ymgeiswyr na fu'n llwyddiannus! Mae colli yn fymar yntydi?

Dim yn 100% sicr ond mi dybiaf bod gan y Blaid mwyafrif ar Gynor Gwynedd bellach.

17/06/2011

Siom i'r Blaid yng Nghonwy

Mae Blog Menai yn cyfeirio at lwyddiant gwych Dafydd Meurig i gipio sedd oddi wrth y Rhyddfrydwyr Democrataidd yn Arfon, llongyfarchiadau mawr iddo. Yn anffodus llwyddodd y Blaid i niweidio ei hun yng Nghonwy ar yr un ddiwrnod!

Bu farw Wil Edwards, un o gynghorwyr y Blaid, ond aeth y Blaid ddim i'r drafferth o gynnig ymgeisydd i'w olynu!

Pam?

Sut mae disgwyl ennill tir heb drafferthu amddiffyn y tir sy'n eiddo i'r Blaid yn barod?

Y canlyniad oedd:
Renne Crossley (Tori) 30
Peter Groudd (annibynnol) 477

08/10/2010

Canlyniad od yng Nghaernarfon

Dyma ganlyniad is etholiad ward Seiont Cyngor sir Gwynedd:

Llais Gwynedd 399
Plaid Cymru 279
Y Blaid Lafur 184
Annibynnol 91
Plaid Geidwadol Cymru 23

Fel mae BlogMenai yn nodi bydd o ddim yn andros o siom i Blaid Cymru, sedd annibynnol ydoedd Seiont cyn marwolaeth y deiliad, ac mae'n ward lle mae'r Blaid Lafur wedi bod yn weddol gryf a Phlaid Cymru wedi bod yn siomedig yn y gorffennol. Mae gan y Blaid a'i hymgeisydd lle i ddathlu am ddod yn ail dechau mewn talcen caled ac am gynyddu ei phleidlais o fymryn.

Ond mae'n ganlyniad diddorol parthed ffrae'r Blaid a Llais. O edrych yn 么l i 2008 roedd nifer o enillion Llais yn rhai lle nad oedd dim ond dau ymgeisydd yn sefyll un o'r Blaid a'r llall o Lais, neu dau go iawn a nytar o annibyn. Yr hyn a oedd yn ffafriol i Lais oedd bod cyn cefnogwyr y Blaid a oedd wedi pwdu yn cael eu cefnogi gan bobl byddid yn fwrw pleidlais i Satan yn hytrach na chefnogi Plaid Cymru; roedd Llafurwyr a Cheidwadwyr a Rhyddfrydwyr a chasbleidwyr eraill yn bwrw pleidlais dros Lais jest er mwyn rhoi swaden i'r Blaid.

Roedd gan etholwyr Seiont y dewis i bleidleisio dros ymgeisydd Lafur neu Geidwadol neu annibynnol, doedd dim rhaid iddynt bleidleisio Llais i gadw'r Blaid allan (os mae cadw'r Blaid allan oedd eu bwriad - sy'n anhebygol yma), nid oedd y canlyniad yma yn un anti-Plaid!

Mae ward Seiont yn ward trefol bydd ar ei hennill o bolisi Gwynedd o gau ysgolion bach cefn gwlad gan fod ysgolion bach cefn gwlad yn tynnu cyllid allan o ysgolion trefol. Dydy rheswm bod Llais ddim yn un bydda ddyn yn disgwyl i daro nodyn yma!

Os oedd Seiont yn dalcen caled i'r Blaid, byddwn yn disgwyl iddi bod yn dir diffrwyth i Lais Gwynedd!

Pam bod Llais wedi ennill?

Y rheswm symlaf, wrth gwrs, yw bod pobl yn dueddol i bleidleisio i'r unigolyn yn hytrach na'r blaid mewn etholiad lleol. Hwyrach mae James Endaf Cooke oedd yr unigolyn mwyaf hawddgar yn y ras.

Os oeddynt yn pleidleisio yn negyddol, hwyrach bob pobl Seiont yn pleidleisio yn erbyn Tecwyn Thomas yr ymgeisydd Llafur. Mae rhai yn credu bod Tecwyn wedi defnyddio Caernarfon er mwyn hybu uchelgais personol aflwyddiannus.

Y drydydd posibilrwydd yw bod pobl trwy Wynedd gyfan wedi penderfynu mae Llais yw'r wrthblaid swyddogol go iawn i Blaid Cymru yng Ngwynedd. Yn 2008 roedd pobl yn pleidleisio i Llais pan nad oedd ymgeisydd arall, mae pobl Seiont wedi cefnogi Llais er gwaetha'r ffaith bod dewis helaeth o ymgeiswyr eraill - a fydd etholwyr Gwynedd oll yn gwneud yr un fath y tro nesaf? Os ydynt bydd y Blaid yn y cac.

Ta waeth, llongyfarchiadau i'r Cyng James Endaf Cooke ar ei fuddigoliaeth.

01/10/2010

Y Blaid yn cipio sedd gan Llais

Synnu nad yw BlogMenai wedi ei nodi eisoes, ond dyma ganlyniad isetholiad Cyngor Sir Gwynedd ward Bowydd a Rhiw:

Plaid Cymru 338,
Llais Gwynedd 246.

Canlyniad etholiad 2008 Llais Gwynedd 341, Plaid Cymru 247, Y Blaid Werdd 117.

Plaid Cymru yn cipio'r sedd gan Llais yn weddol gyfforddus. Llongyfarchiadau i'r Cyng. Paul Eurwel Thomas ar ei fuddugoliaeth.

12/07/2008

Llafur i gadw Dwyrain Glasgow

Yn 么l p么l piniwn sydd i'w cyhoeddi yn y Sunday Telegraph yfory mae'n ymddangos bod y Blaid Lafur am gadw sedd Ddwyrain Glasgow gyda mwyafrif eithaf iach.

Labour is on course to win this month’s crucial by-election in Glasgow East, according to an opinion poll.
The ICM survey for the Sunday Telegraph puts the party on 47 per cent of the vote with its nearest challenger, the Scottish National Party (SNP), on 33 per cent.

Liberal Democrats are on nine per cent and the Conservatives on seven per cent.

The poll, the first conducted within the rock-solid Labour seat, is a big boost for Gordon Brown.


Diweddariad. Mae blog UK Polling Report yn awgrymu nad yw'r p么l, o bosib, cystal i Lafur ac mae'r ffigyrau noeth yn awgrymu.