Showing posts with label teledu. Show all posts
Showing posts with label teledu. Show all posts

19/02/2012

Sianel 62 yn cychwyn heno

Sianel 62
Sianel deledu newydd yn cychwyn heno Bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio sianel deledu Cymraeg newydd – Sianel 62 – nos Sul yma (19eg Chwefror) am 8pm fel rhan o’n dathliadau hanner canmlwyddiant. Y bwriad yw dangos rhaglenni heriol, gwleidyddol, doniol, dychanol, dwys ac ysgafn bob nos Sul rhwng 8-10yh ar sianel62.com.

Mae hwn yn brosiect nid yn unig i ddathlu hanner canmlwyddiant y Gymdeithas, ond hefyd yn brotest yn erbyn diffyg rhaglenni heriol am y Gymru gyfoes ar hyn o bryd. Mi fydd y sianel yn cynnig llwyfan newydd i leisiau amgen ac unigryw sydd yn tueddu cael eu hanwybyddu gan y darlledwyr traddodiadol.

Sianel ‘ifanc ei naws’ fydd hi, a phobol gyffredin yn y gymuned fydd yn datblygu’r syniadau a chynhyrchu’r rhaglenni o dan arweinyddiaeth tîm proffesiynol. Mae llwyddiant y fenter yn ddibynnol ar bobl yn cyfrannu, felly cysylltwch gyda ni trwy ebostio Greg Bevan – greg@cymdeithas.org – os gallwch fod o gymorth o ran cynnig syniadau, cyfarwyddo, cynhyrchu, ffilmio neu gyflwyno.

Bydd y darllediad cyntaf yn cynnwys hanes teulu Caerdegog yn Ynys Môn, clipiau comedi, Tynged yr Iaith 2, cerddoriaeth gan fandiau sy’n perfformio yng ngŵyl Hanner Cant ym Mhontrhydfendigaid ym mis Gorffennaf, a llawer mwy.

Cofiwch: Heno, 8pm, sianel62.com

30/03/2010

Freeview+ a S4C

Ers i deledu troi yn unigryw digidol yn y parthau hyn yr wyf wedi cael gafael ar flwch Freeview+. Mae'r blwch yn caniatáu imi recordio rhaglen unigol ar bob sianel, a chyfres o raglenni ar y rhan fwyaf o sianeli. Un o'r sianeli lle nad oes modd imi recordio cyfres yw S4C!

Pe bawn yn mynd ar fordaith rownd y byd a dod adref gan ddymuno dal i fyny efo'r hyn a methais o Eastenders byddai'r cyfan wedi ei gadw ar fy mlwch, ond pe bawn am ddal fyny efo anturiaethau Pobol y Cwm ddaw siom i'm rhan, gan nad yw'r linc cyfres yn gweithio ar gyfer S4C.

Cyn imi roi gwers y persli i S4C am y methiant 'ma yn eu darpariaeth, hoffwn gymharu nodau efo darllwnwyr fy mlog i gael gwybod os mae'r sianel sydd ar fai, neu wneuthurwyr fy mlwch sef Alba (ALDTR160).

Oes yna flychau Freeview+ eraill sydd yn recordio cyfresi ar S4C?

17/12/2009

Be Ddigwyddodd i S4C2?

Diwedd mis Awst llynedd mi wnes ymateb i holiadur ar Wasanaethu Plant yn y Dyfodol Digidol a gomisiynwyd gan S4C er mwyn trafod y defnydd gorau o sianel S4C2.

Mi fûm yn un o'r ychydig prin a oedd yn gwylio darllediadau o'r Cynulliad ar S4C2 yn weddol reolaidd - oleiaf 2-3 gwaith yr wythnos. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, da oedd cael y sianel ar gyfer darllediadau byw o'r Babell Lên fel gefaill i ddarllediadau o'r Pafiliwn Pinc.

Mae fy ymateb i'r holiadur ar gael yma (dogfen pdf)

Yn fras fy ymateb oedd:
Er gwaetha'r ffaith fy mod yn un o wylwyr rheolaidd prin y sianel, yr wyf yn fodlon aberthu'r cynnwys yr wyf fi yn ei fwynhau er mwyn creu gwasanaeth amgen i blant a phobl ifanc.

Mae'r gwasanaeth i blant arfaethedig wedi ei greu (ond nid y gwasanaeth i bobl ifanc); ond mae'n cael ei ddarlledu fel rhaglenni Cyw ar S4C1 yn ystod yr oriau hynny cyn y pnawn pan nad oedd S4C yn arfer darlledu yn ddigidol o gwbl.

Ers yr wythfed o fis Awst, bron i bum mis yn ôl, yr unig beth sydd wedi ei ddarlledu ar S4C2 yw Tudalennau Gwybodaeth gyda llun o fwi môr a rhif ffôn y Gwifryn Gwylwyr. Yr oeddwn yn fodlon colli fy ngallu i wylio'r Cynulliad a'r Babell Lên ar gyfer creu lle i wasanaeth amgen a mwy poblogaidd, ond nid er mwyn ei golli am rif ffôn a llun gwirion!

Er mwyn darlledu'r Tudalennau Gwybodaeth, mae'n rhaid bod S4C yn parhau i dalu'n ddrud am y slot darlledu. Rwy'n gallu meddwl am gant a mil o ddefnyddiau ar ei gyfer yn ogystal a'r sianel i bobl ifanc a addawyd:

  • S4C + 1 - ar gyfer y rhai sy'n codi'n hwyr ar ol siesta'r pnawn

  • Sianel Amaethyddol, fel nad oes raid inni gael gymaint o faw gwartheg ar y brif sianel ar raglenni megis Cefn Gwlad, Ffermio a Fferm ffactor.

  • Sianel Chwaraeon er mwyn osgoi newidiadau i'r arlwy arferol gan fod gemau rygbi / pêl-droed / tidliwincs pwysig yn cael eu cynnal.

  • Sianel ailddarllediadau - i wneud lle i gynnwys rhaglenni newydd ar y brif sianel yn hytrach na dangos Fferm Ffactor pum gwaith yr wythnos

  • Pa bynnag defnydd a wneir o sianel S4C2, oni bydda rywbeth yn well na thalu am sianel wag?

    22/05/2009

    Pwy ond Lembit.....?

    Stori ryfeddol ar flog Glyn Davies. Tra bod bron pawb yn yr ynysoedd hyn a thu hwnt yn gwylltio am y pethau mae aelodau seneddol wedi hel i'w tai ar bwrs y wlad, mae AS Maldwyn wrthi yn ffilmio ar gyfer y rhaglen "Cash in the Attic". Rhaglen lle mae pobl yn ceisio dod o hyd i gelfi di angen yn eu tai i'w gwerthu er mwyn codi arian.

    Anhygoel!

    This post in English

    19/09/2008

    Lansiad BBC Alba

    Yr wyf wedi gwylio'r noson agoriadol o BBC Alba bellach, ac ar y cyfan mae o wedi bod yn lansiad llwyddiannus i'r sianel.

    Fe ddechreuodd pethau efo A Chuirm, be fydda'r Gwyddelod yn galw'n ceilidh a ni'n galw'n noson lawen. Yn bersonol 'dwi ddim yn hoff iawn o raglenni megis Noson Lawen. Rwyf wrth fy modd yn mynychu noson o'r fath ond dwi ddim yn teimlo bod modd trosglwyddo'r profiad o fod yno i raglen teledu. Ond o raglen o'r fath mi oedd o'n enghraifft ddigon dechau, a hyd yn oed ar y teledu mae canu di gyfeiliant yr ynysoedd yn gallu danfon gwefr i lawr yr asgwrn cefn.

    Yr ail raglen oedd yr un wnaeth plesio fwyaf, Eilbheas. Drama am hogyn yn cael ei blagio gan ysbryd Elvis. Roedd o'n ddrama ddwys a doniol gyda stori dda - drama gwerth ei wylio mewn unrhyw iaith.

    Y drydedd raglen oedd rhaglen ddogfen am lofrudd o'r enw Peter Manuel. Mae'n debyg mae'r gwron hwn oedd llofrudd enwocaf yr Alban. Clywes i erioed amdano o'r blaen ac roedd ei hanes yn un ddigon erchyll. Rwy'n ansicr os dylid cofio "enwogion" o'r fath. Mae pob rhaglen amdanynt yn eu clodfori mewn ffordd annymunol. Wedi dweud hynny roedd y rhaglen yn un hynod ddiddorol.

    Daeth y noson i ben efo ail hanner yr A Chuirm.

    Yn sicr byddwyf yn gwylio'r sianel eto, yn arbennig os glywaf am hanes drama newydd yn cael ei ddarlledu. Llongyfarchiadau mawr i bawb ar BBC Alba a phob lwc i'r dyfodol.