31/03/2010

Arestio Gwilym Euros

Fel Cai yr wyf wedi cael ambell i gais i drafod y stori bod Gwilym Euros wedi cael ei arestio ddydd Llun ar amheuaeth o ymosod. Fel mae'n digwydd rwy'n gwybod dim mwy am yr hanes na sydd wedi ei gynnwys ar wefan y BBC, sydd yn brin iawn o fanylion.

Yn wahanol i Cai nid ydwyf yn credu bod y stori yn un nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol a gwleidyddiaeth. O feddwl yn ôl am straeon am DI yn parcio ei gar mewn lle anabl, Mick Bates yn fwrw gweithiwr iechyd neu Gordon Brown yn bwlian, maent oll yn storïau gwleidyddol gan eu bod yn adlewyrchu ar y gwleidydd. Mae ymddygiad gwleidydd, hyd yn oed pan nad yw'n gwleidydda yn dweud rhywbeth am ei gymeriad / ei chymeriad.

O ran Gwilym Euros fyddwn yn dweud bod ymosod yn gorfforol ar eraill yn gyfan gwbl tu allan i'w gymeriad, ond yn di os mi fydd y stori yn cael effaith gwleidyddol. O ran cael trafodaeth, y peth callaf i Gwilym gwneud yw trafod y manylion yn agored ar ei flog ei hun lle bydd o'n gallu rhoi ei ochor o o'r stori cyn i'w elynion ei droelli gan wneud mwy o niwed iddo na fydd y stori yn ei haeddu.

Wrth gwrs dydy ymosod ddim, pob tro, yn stori drwg - mae o wedi bod yn hufen ar yrfa gwleidyddol ambell i unigolyn:

30/03/2010

Freeview+ a S4C

Ers i deledu troi yn unigryw digidol yn y parthau hyn yr wyf wedi cael gafael ar flwch Freeview+. Mae'r blwch yn caniatáu imi recordio rhaglen unigol ar bob sianel, a chyfres o raglenni ar y rhan fwyaf o sianeli. Un o'r sianeli lle nad oes modd imi recordio cyfres yw S4C!

Pe bawn yn mynd ar fordaith rownd y byd a dod adref gan ddymuno dal i fyny efo'r hyn a methais o Eastenders byddai'r cyfan wedi ei gadw ar fy mlwch, ond pe bawn am ddal fyny efo anturiaethau Pobol y Cwm ddaw siom i'm rhan, gan nad yw'r linc cyfres yn gweithio ar gyfer S4C.

Cyn imi roi gwers y persli i S4C am y methiant 'ma yn eu darpariaeth, hoffwn gymharu nodau efo darllwnwyr fy mlog i gael gwybod os mae'r sianel sydd ar fai, neu wneuthurwyr fy mlwch sef Alba (ALDTR160).

Oes yna flychau Freeview+ eraill sydd yn recordio cyfresi ar S4C?

19/03/2010

Billy Wolfe 1924-2010

Un o'r llyfrau gwleidyddol cenedlaethol cyntaf imi ei ddarllen pan yn laslanc oedd Scotland Lives: the Quest for Independence gan Billy Wolfe. Roedd Billy yn ŵr hawddgar ac annwyl a dyn a roddodd oes i ymgyrchu dros yr SNP a CND gyda wen barhaus ar ei wyneb. Ef oedd Cynullydd yr SNP o 1969 i 1979 y cyfnod a welodd y blaid yn troi o fod yn grŵp pwyso dinod i fod yn rym o bwys yn yr Alban.

Trist oedd clywed gan Calum Cashley bod Billy wedi marw ddoe, bydd ei golled i'r achos cenedlaethol yn un fawr. Cydymdeimladau dwysaf i'w wraig a'i bedwar plentyn. Heddwch i'w lwch.

Mae gan yr SNP gwefan coffa a theyrngedau YMA

11/03/2010

Ecscliwsif - Mae'r BBC yn gwneud rhaglenni teledu!

Mae'n wirioneddol gas gen i yr arfer ar raglenni newyddion o adrodd stori sydd ddim yn stori go iawn, ond sy' ddim byd amgen na rhaghysbysiad i raglen arall mewn gwirionedd. Mae pob rhaglen newyddion yn euog o'r arfer ond Report Wales y BBC yw'r gwaethaf oll.

Dros fwrw'r Sul cafwyd nifer o dreilars ar gyfer y rhaglen Afghanistan - Five Welsh Families. Roedd unrhyw un a wyliodd BBC Wales ar y penwythnos yn gwybod bod y rhaglen ar fin ei ddarlledu, erbyn i'r stori ymddangos ar Wales Today nos Lun, nid ydoedd yn newyddion ond yn wybodaeth cyffredinol.

O barch i'r Bîb, roedd rhaglen Afghanistan yn rhaglen faterion cyfoes, o leiaf, ond roedd newyddion Report neithiwr yn bwrw'r arfer o raghysbysu dros ben llestri.

Y Newyddion oedd bod Syr Pryce Jones, wedi gwerthu'r Cwdyn Cysgu cyntaf ym 1876, dros gant a deg ar hugain o flynyddoedd yn ôl! Does gan y stori ddim hyd yn oed y cyfiawnhad o ffaith hanesyddol newydd ei ddarganfod - rwy'n cofio cwestiwn cwis tafarn ac eitem Hel Straeon amdani flynyddoedd lawer yn ôl

Roedd y rhaglenni dan sylw yn rhai difyr a dadlennol a gwerth eu gwylio, ond nid oedd eu darlledu yn haeddu slot ar y newyddion. Mae'n hen, hen bryd i Report Wales sylweddoli nad ydy BBC Wales makes a programme yn bennawd newyddion.

08/03/2010

Mwy o drafferthion i Geidwadwyr Conwy

Mae aelod Ceidwadol arall o Gyngor Sir Conwy wedi ymadael a grŵp y blaid. Cipiodd y Cyng. Dave Holland ward Abergele a Phensarn oddi wrth y Blaid Lafur yn 2008, dipyn o bluen yn het y Torïaid ar y pryd. Mae'r Cyng. Holland bellach am eistedd gyda'r grŵp annibynnol.

Yn ochor Aberconwy o'r sir mae ymgeisydd seneddol y Ceidwadwyr wedi dechrau ymgyrch o feio'r negesydd er mwyn ceisio esgus am y ffaith bod ei ymgyrch yn dechrau chwalu. Mae dau bost newydd ar flog Guto heddiw, y naill yn cwyno am safonau newyddiadurol y papur wythnosol lleol y North Wales Weekly News ar llall yn cwyno am safon newyddiadurol newyddiadurwr profiadol ac uchel ei pharch y BBC Betsan Powys.

03/03/2010

Llawen Dydd Santes Non

Ers 1987 mae Mis Mawrth wedi ei ddynodi fel Mis Merched Mewn Hanes.

Dw'n i ddim pwy sy'n gyfrifol am ddynodi dyddiau nac wythnosau na hyd yn oed dyddiau fel rhai penodedig, ond ta waeth mis Mawrth yw mis y merched!

O'r holl agweddau ar hanes yr un yr wyf fi yn hoffi mwyaf yw hanes teuluol, hanes sydd yn gwneud y ferch yn ganolog - gellir bod yn sicr o bob Mam yn yr ardd achau a'i gair hi yw y prawf gorau ceir am bob tad!

Oes angen mis o'r fath, dwn i ddim? Yn sicr mae 'na brinder merched yn y Bywgraffiadur - llai na 0.25 y cant yn ôl y son, yn di os mae merched Cymru wedi cyfrannu mwy na hynny i hanes ein gwlad.

Un o'r rhai sy'n cael mensh yn y Bywgraffiadur yw Non, Mam Dewi Sant a heddiw yw ei dygwyl hi, felly clod i Non a phob merch arall sydd wedi cyfrannu i wythïen cyfoethog hanes ein gwlad.

Y scandal treuliau mwyaf un yn y byd i gyd

Pam fod barn Elfyn Llwyd werth gymaint yn fwy na fy marn i?

Yr wyf yn fwy blin nac arfer heno. Cefais gais i gymryd rhan mewn pôl piniwn gan YouGov heddiw - fy ngwobr am ei lenwi bydd 50c, rhaid cydnabod ei fod yn 50c yn fwy na'r wobr cefais ei gynig yr wythnos dwiwethaf, sef rhoi fy enw i mewn i het ar gyfer gwobr raffl!

Wrth edrych ar dudalen Treuliau Seneddol Elfyn Llwyd AS cefais hyd i'r wybodaeth yma:

Fee of £50 received for interview lasting 30 minutes on 18 September 2009. (Registered 6 October 2009) ComRes, Four Millbank, London SW1P 3JA.
£50 for completion of a parliamentary survey. Hours: 20 mins. (Registered 21 August 2009)
11 January 2010, paid £75 by ComRes for a completing survey panel. Hours: 20 mins. (Registered 12 January 2010) BPRI, 24-28 Bloomsbury Way, London, WC1A 2PX.
£75 for completing an opinion panel questionnaire. Hours: 30mins. (Registered 3 September 2009)
£75 for completing survey. Hours: 30 mins. (Registered 25 November 2009)
£75 for completing survey. Hours: 40 mins. (Registered 9 December 2009)
Rwy'n cael ffiffti pî ac mae o'n cael 75 punt am lenwi arolwg - y bastard barus!

Os hoffech gael bod yn rhan o arolygon YouGov am 50c pitw clicier yma! Os hoffech gael crocbris am yr un gorchwyl danfonwch eich enw, cynigydd, eilydd a rhyw 10,597 o bleidleisiau i'ch swyddog canlyniadau etholiadol lleol!

Grrrr!!!!

02/03/2010

Dadl y Brif Weinidogion

Mae gan olygydd materion gwleidyddol rhaglen Newsnight y BBC, Michael Crick post diddorol ar ei flog.

Mae o'n honni bod y Bîb wedi canfod ffordd wych o gau Y Blaid, Yr SNP a phleidiau eraill allan o'r dadleuon arfaethedig ar gyfer Arweinwyr y Pleidiau cyn Etholiad Sansteffan.

Y tric yw newid enw'r dadleuon. Nid Dadleuon yr Arweinwyr byddant fwyach ond Dadl y Darpar Prif Weinidogion.
It's a cunning manoeuvre, agreed by the three main broadcasters (the BBC, ITV and Sky) and the three main parties, to exclude the SNP and Plaid Cymru leaders from the debates.

Since the SNP will only be fighting the 59 Scottish seats then Alex Salmond can't possibly become prime minister (nor Plaid's Elfyn Llwyd), so both are thereby disqualified from the TV debates.

Cunning manouver, o bosib ond nid un bydd yn dal dŵr cyfreithiol os ydy un neu ragor o'r pleidiau llai yn penderfynu herio'r drefniadaeth.

Dydy'r tric ddim yn llythrennol gywir. Mae'n eithriadol annhebygol o ddigwydd, rwy'n gwarantu, ond o dan y drefn mi fyddai'n bosib i Elfyn dyfod yn Brif Weinidog. Os ydy'r Blaid yn dweud rydym yn fodlon cefnogi llywodraeth leiafrifol Llafur/ Ceidwadwyr / Rhydd Dems ond dim ond ar yr amod mae Elfyn sydd yn cael byw yn rhif 10 Stryd Downing. Trwy ganiatáu i Nick Clegg bod yn rhan o'r ddadl y mae'r BBC eisoes wedi cydnabod bod gwahoddiad i'r ddadl yn seiliedig, nid ar y tebygolrwydd o ddyfod yn PM ond yn hytrach ar y posibilrwydd mwyaf annhebygol o gael y joban.

Wrth gwrs, ar wahân i'r ffaith bod Elfyn yn hapus yn ei dy bach twt gyfredol yn Llanuwchllyn, does dim gwarant y bydd yr un o'r tri arweinydd Pleidiau Mawr Llundain yn Brif Weinidog. Gall yr SNP curo Gordon Brown yn etholaeth Kirkcaldy and Cowdenbeath. Gall Dawn Barnes, o’r Rhydd Dems, rhoi enaid Portillo i obeithion David Cameron yn Witney, a gall y Monster Raving Loony Party rhoi cyllell finiog yng ngobeithion Nick Clegg yn Sheffeild Hallam (wel mae o'r un mor debygol a Nick Clegg Prif Weinidog!!).

Mae'r etholaethau Celtaidd yn cyfrannu 23% o etholaethau Sansteffan, hyd yn oed heb gymorth cenedlaetholwyr Seisnig, mae modd mathemategol (prin) i'r Cenedlaetholwyr Celtaidd dychwelyd y bloc fwyaf o ASau yn Senedd Llundain!

Ond posibilrwydd llawer mwy tebygol, os yw'r polau piniwn yn gywir, yw llywodraeth grog efo mwy o aelodau Llafur na Cheidwadol. Pe bai hynny'n digwydd rwy'n credu, yn sicr, mae cael gwared â Brown fel darpar Brif Weinidog bydda gofyn cyntaf pob un o'r pleidiau llai.

01/03/2010

Dim Datganoli i Islwyn

Mae yna rywbeth eithaf hilariws yn newyddion Betsan Powys bod yr arch wrthwynebydd i ddatganoli, y Cyng. Dave Rees, un o arweinwyr True Wales am sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn etholiad Sansteffan, oherwydd ei gred bod ymgeisydd Llafur Islwyn wedi ei benodi yn ganolog o Lundain yn hytrach nag yn ddatganoledig gan y blaid yn lleol.

Dathlu

Mae heddiw yn ddiwrnod dathlu annibyniaeth ym Mosnia-Hertsogofinia. Dim ond gŵyl nawddsant ydyw yng Nghymru ysywaeth.

Pa un sydd a'r achos fwyaf i ddathlu tybed?

Cyfarchion yr ŵyl i fy niferus darllenwyr yng Nghymru ac i'r un neu ddau syn pigo yma o ddwyrain Ewrop hefyd.

22/02/2010

Gohebu gwleidyddol diduedd

Ar Facebook mae yna ambell i grŵp megis Ban Jonathan Davies from Scottish rugby matches a Jonathan Davies is an irritatingly biased and squeaky prat, sydd wedi eu sefydlu gan Albanwyr a oedd yn anhapus efo'r ffordd yr oedd Jonathan yn dangos tuedd wrth sylwebu ar gêm rygbi Cymru v Yr Alban yr wythnos diwethaf.

Mae'r rhai sydd ddim yn hoffi Jonathan yn credu dyla gohebwyr y BBC bod yn gwbl ddiduedd.

I mi mae'r syniad o gael Cymro amlwg sydd wedi chware dros ei wlad yn cogio nad ydy o'n gefnogol i'w dim cenedlaethol yn hurt potas, bydda ddisgwyl iddo fod yn ddiduedd yn troi Jonathan o fod yn sylwebydd hwylus a brwdfrydig i un fflat, ffals a chelwyddog.

Mae'r un yn wir efo sylwebyddion gwleidyddol. Rwy'n gweld hi'n anodd coelio bod unigolyn sydd a digon o ddiddordeb yn y byd gwleidyddol i ddymuno gweithio fel gohebydd gwleidyddol yn un sydd heb farn wleidyddol unigol gref. O feddwl am rywun fel Karl Davies, dyn a safodd etholiad Sansteffan yn enw Plaid Cymru, cyn mynd i weithio fel gohebydd seneddol y BBC ac yna ymadael a'r Bîb i ddod yn brif weithredwr Plaid Cymru. Onid oedd y Gorfforaeth yn gofyn inni atal crediniaeth wrth ddisgwyl inni gogio bod Karl yn sylwebydd diduedd ?

Er bod gan Jonathan ei dueddiadau amlwg, wrth sylwebu ar gemau Cymru y mae o'n gallu fod yn wrthrychol ac yn feirniadol pan fo Cymru ddim yn chware cystal ag y gallasant, ac yr oedd Karl yr un mor wrthrychol wrth ohebu am weithgareddau seneddol Plaid Cymru.

Y broblem efo'r myth bod gohebwyr gwleidyddol yn ddiduedd yw ei fod yn gwahodd sylwadau fel yr un canlynol a ymddangosodd ar fy mlog Saesneg ddoe:

"Did you see their 'Politics Show' interviews today? Biased attack dog against Ieuan Wyn Jones but purring like kitty with Huw Irranca Davies. The sooner they have proper competition here the better."

Ydy'r feirniadaeth hon yn deg? Dwi ddim yn gwybod, gwelais i mo'r rhaglen, ond yn sicr mi fyddai'n llawer mwy onest pe bai'r yn BBC rhoi gwybod inni trwy ddweud be ydy tueddiadau gwleidyddol yr ohebydd dan sylw.

20/02/2010

Dogfen wonci'r Blaid

Mae yna gred gyffredinol mae Plaid Cymru yw'r blaid sydd efo'i bys ar y pỳls parthed defnyddio'r we er mwyn ymgyrch ac er mwyn cysylltu â'i haelodau a'i chefnogwyr. Ond ow! Mae angen i rywun o'r Blaid dysgu sut i osod dogfennau pdf ar y we mewn ffordd ddarllenadwy! Mae'n rhaid bod yn bencampwr gymnasteg i droi dy ben ffordd yma a ffordd arall er mwyn darllen y ddogfen ar gymorth i gyn milwyr.

Efo 10% o'r lluoedd arfog Prydeinig yn hanu o Gymru, dyma ddogfen a all apelio i nifer o bobl sydd ddim yn gefnogwyr naturiol i'r Blaid, ond bydd yr apêl ddim yno os nad yw'r ddogfen wedi ei osod ar y we mewn ffordd ddarllenadwy.


17/02/2010

Cryfder rhyngwladol y gwledydd bychain

Un o'r dadleuon a glywir yn aml gan unoliaethwyr yw bod bod yn rhan o wlad fawr gryf yn rhoi llawer mwy o nerth inni ar y llwyfan rhyngwladol na fyddai gan Gymru neu'r Alban fel gwledydd bach annibynnol. Yn y rhifyn cyfredol o'r Scotsman ceir ddadl gan Craig Murray, cyn llysgennad Prydeinig sydd yn troi hynny ar ei ben. Mae Mr Murray yn dadlau nad oes gan y DU unrhyw awdurdod moesol ar lwyfan y byd oherwydd ymateb gwledydd eraill i'w hanes parthed polisi tramor. Mae gwledydd bach sydd ddim yn cario baich hanes gormesol yn cael eu parchu llawer mwy gan wledydd eraill, a gan hynny yn llawer mwy dylanwadol mewn trafodaethau rhyngwladol nag ydy Prydain.

Mr Murray also referred to his 20-year career with the Foreign Office taking part in international negotiations and working closely with diplomats from other small European countries such as Denmark, Ireland and Sweden.

He said: "The Irish carried much more weight in multi-lateral negotiations than a country that size could expect. I still am deeply puzzled that there should be a perception that the Scots can't do that."


Mae'r unoliaethwyr yn aml yn gofyn a ydym am fod yn rhan o Brydain cryf neu yn wlad fach annibynol gwan a dinod?. Mae Mr Murray yn awgrymu mae'r cwestiwn dylid gofyn yw a ydym am fod yn wlad fach gryf a dylanwadol neu yn rhan o Brydain gwan sydd heb awdurdod moesol?

Darogan etholiad 2010 - record Aberconwy

Un o fanteision cael blog gan bob un o ymgeiswyr mewn etholaeth unigol yw bod dyn yn gallu dilyn adroddiadau am yr ymateb ar y drws gan bob plaid.

Yn ôl y son mae Phil, Guto, Mike a Ronnie yn cael ymateb anhygoel!

Mae pob un ymgeisydd yn canfod pobl yn cyfnewid teyrngarwch a phob un yn ffyddiog am bleidlais anhygoel o bob bro a phentref eu hymdrechion canfasio. Mae pob un blaid yn darogan buddugoliaeth yn seiliedig ar yr ymateb wrth y drws.

O roi'r holl ymatebion canfasio sydd wedi eu hadrodd ar y blogiau i mewn i'r pair darogan, yr wyf yn gallu dod a chanlyniad ecscliwsif i flog yr Hen Rech Flin - Aberconwy bydd y sedd efo'r turnout uchaf yng Nghymru, Prydain y byd a'r bydysawd. Bydd 250% o'r boblogaeth yn pleidleisio.

Mae gwneud yn fawr o ymateb da a chuddio ymateb gwael yn rhan o'r gêm, ond mae honni ymateb gwych lle nad oes modd cael ymateb gwych yn dwyllodrus. Dydy cyhoeddi bod mwyafrif o bobl Llanrwst am bleidleisio i bob un blaid dim yn dal dŵr, mae rhywun yn dweud porcis!

Bydda tipyn o onestrwydd gan y pedwar yn llesol i'w hymgyrchoedd.

Bydda ambell i dyma dalcen caled neu doedd yr ymateb dim cystal ag y gallai bod - rhaid gweithio yma yn rhoi tinc o onestrwydd i'r ymgyrchoedd ac yn gwneud y datganiadau am ymateb da yn Llanbethma yn llawer mwy credadwy.

16/02/2010

Salmond yn rhan o'r ddadl fawr.

Mae blog SNP Tactical Voting yn adrodd bod cwmni Sky am ganiatáu i Alex Salmond bod yn rhan o'i darllediad hustings yr arweinwyr cyn etholiad San Steffan. Os yw hyn yn gywir mae'n buddugoliaeth fawr i Blaid Genedlaethol yr Alban. Ond lle mae'n gadael Plaid Cymru? A fydd y Blaid yn caniatáu i Salmond cynrychioli'r pleidiau cenedlaethol i gyd, neu a fydd y Blaid yn mynnu ei bod hi'n cael yr un cyfle a'i chwaer blaid Albanaidd? Sefyllfa ddiddorol iawn.

15/02/2010

Llyr neu'r Daleks – Dyna'r Ddewis!

Y mae prawf pendant wedi dod i'r fei y bydd bywyd o dan Lywodraeth Cameron yn drychinebus i'r hil ddynol. Mae Dr Who wedi ymweld â Phrydain Cameron yn ei Dardis, ac wedi dychwelyd i'r amser cyfredol i'n rhybuddio i newid hanes cyn iddi ddigwydd.

Nid fi sy'n dweud ond David Jones AS, sydd yn cwyno ar ei flog bod y rhaglen Dr Who yn rhagfarnllyd yn erbyn y Ceidwadwyr. Os nad ydy David Jones ar ochr y Dr y mae'n rhaid ei fod o ar ochor ei elynion - y Daleks, y Seibr Dynion ac ati.

Y mae'r dewis yn glir i etholwyr Gorllewin Clwyd, cefnogi David Jones a'i gyfeillion y Daleks - neu fwrw pleidlais i Llyr Huws Gruffydd er mwyn achub y byd rhag ymerodraeth y Daleks.

Dr Llyr Who-s Gruffydd (Plaid)

David Jones AS (Ceidwadwyr)

14/02/2010

WoS yn gwadu eistedd ar stori Bates

Bwrw'r Sul diwethaf yr oeddwn ymysg nifer o flogwyr i gwestiynu amseriad adroddiad yn y Wales on Sunday am fistimaners Mick Bates AC wedi noson ar y pop. Yr oeddwn yn teimlo ei fod yn ymddangos fel mwy na chyd-ddigwyddiad bod yr hyn a digwyddodd yn oriau man bora’r 19-20 Ionawr yn cael ei gyhoeddi yn y papur deunaw niwrnod yn niweddarach ar achlysur cynhadledd Gwanwyn y Rhyddfrydwyr Democrataidd. Yn y rhifyn cyfredol o'r papur mae'r gohebydd Matt Withers yn ymateb i'r cyhuddiad bod y papur wedi ceisio niweidio'r gynhadledd:
The story, which I wrote, broke last weekend on the front of our paper – coincidentally, on the second day of the Lib Dems’ Spring Conference in Swansea.

And it’s that timing which has led to many rumours, letters of complaint and plenty of rumblings on the blogosphere. The charge? Wales on Sunday knew about Mr Bates’ behaviour at the time it occurred – and deliberately held back running the story in a bid to disrupt the party’s conference.

Utter rubbish.

Mr Bates’ night on the tiles was on January 19. I was first alerted to what is alleged to have happened on Thursday, February 4, when my editor asked me to investigate a tip-off in an anonymous e-mail.

The next two days were spent trying to verify the truth of the allegations through a second source. Eventually, on the Friday afternoon, we found a senior source who was able to confirm an investigation into verbal abuse by Mr Bates into staff at the University Hospital of Wales in Cardiff.

We were unable to verify separate allegations of assault on paramedics. These made their way into the public domain the day after the WoS story.

I phoned Mick Bates’ mobile four times on the Friday afternoon to speak to him, each time without success, and eventually spoke to the Welsh Lib Dems’ head of communications, who was aware Mr Bates had suffered an accident that night, but not that he had been allegedly involved in trouble following it.

A statement from the party confirming it was investigating their AM followed early on Saturday evening.

So that’s why the story appeared when it did, rather than a deliberate attempt by Wales on Sunday to sabotage the Welsh Liberal Democrat Spring Conference.

In fact, the most baffling thing about it is there’s so many Lib Dems who genuinely believe their conference to be of such vast importance that journalists spend their precious time concocting vindictive and deliberate attempts to wreck it.


Felly, cafodd prif bapur Sul Cymru ei dwyllo gan e-bost dienw (a danfonwyd pythefnos ar ôl y digwyddiad) i redeg stori a fwriadwyd i niweidio’r gynhadledd!

13/02/2010

Dyma Ronnie

Yn dilyn fy mhost am ymgeiswyr Aberconwy yn blogio mae Ronnie Hughes (Llafur) bellach wedi cychwyn blog:

http://ronniehughes.wordpress.com/

A mae Guto Bebb wedi symud ei berlau o ddoethineb i:

http://aberconwyconservatives.co.uk/category/blogs/

11/02/2010

Peter Hain a'r Genhadaeth Dramor

Digon hawdd yw gwneud hwyl am sylwadau Peter Hain bod Cymru yn wlad weddol gyfoethog a'i gymhariaeth rhwng Cymru a Rwanda. Ar un lefel mae'r sylwadau yn gofyn am dynnu’r pî ohonynt, felly does dim beirniadaeth o'r rhai sydd wedi gwatwar Peter a'i sylwadau.

Ond ar lefel arall mae Hain yn gwneud sylw difrifol sydd yn un werth ei hystyried. Er gwaethaf cwynion parhaus am dlodi Cymru o gymharu â GDP gweddill gwledydd Prydain, pe bai Cymru yn wlad annibynnol mi fyddai'n parhau i fod ymysg gwledydd cyfoethoga’r byd, yn gyffyrddus ei le yn y chwarter uchaf.

Os yw person yng Nghymru yn colli ei iechyd, yn colli ei phartner, yn colli swydd ac yn gweld ei thŷ yn cael ei hadfeddiannu gan y banc "yn colli popeth", bydd hi'n parhau i allu byw bywyd cymharol rhwydd i'w phenwynni gyda chefnogaeth y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, budd-daliadau, cartrefi cymdeithasol ac ati. I filiynau o bobl yn y byd bydda colli un o'r pethau hyn yn arwain at farwolaeth.

Pan fo dyn yn son am drai economaidd, tlodi ac annhegwch cymdeithasol yng Nghymru mae'n bwysig bod dyn yn gweld y pethau hyn yng nghyd-destyn y byd ehangach weithiau, yn arbennig felly pan fo son am dorri cymorth i wledydd mwyaf difreintiedig y byd fel rhan o'r ymateb i'r dirwasgiad.