22/05/2013

Lleoliaeth - achubiaeth datganoli?

Datganiad i'r wasg gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Diffyg Democrataidd Sesiwn 2



Lleoliaeth - achubiaeth datganoli?



Ar adeg pan fo’r cyfryngau cenedlaethol a rhanbarthol yng Nghymru yn methu’n gyson i ymgysylltu pobl Cymru â gwaith y Cynulliad Cenedlaethol, dymuna Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, eich gwahodd i gymryd rhan mewn trafodaeth ar rôl y cyfryngau rhanbarthol a hyperleol.



Bydd y sesiwn ar ffurf trafodaeth o gwmpas y bwrdd lle gallwch fynegi eich barn ar nifer o sianelau cyfathrebu â chynulleidfaoedd yng Nghymru sy’n newydd ac yn dod i’r amlwg ynghyd â mentrau lleol mwy traddodiadol.



Defnyddir canlyniadau’r sesiwn hon i lunio adroddiad ar sut gall y Cynulliad Cenedlaethol weithio gyda phob rhan o’r cyfryngau yng Nghymru er mwyn annog rhagor o bobl i fod yn ddinasyddion gweithgar. Daw’r digwyddiad hwn ar ôl cynhadledd Prifysgol Caerdydd ar newyddiaduraeth gymunedol, a gynhaliwyd yn gynharach eleni.



Dyddiad: Dydd Mercher 12 Mehefin 2013

Amser: 17.00 – 19.00

Lleoliad: Y Pierhead

Atebwch erbyn: 7 Mehefin

Bydd te a choffi ar gael.



I sicrhau lle, anfonwch e-bost at:

Archebu@cymru.gov.uk

neu ffoniwch 0845 010 5500

#diffygnewyddion

15/05/2013

Siarad ar fy rhan neu siarad ar eu cyfer?

Yn y senedd ddoe bu lobio ar ran pobl sy'n dioddef efo clyw’r digwydd (epilepsi).

Roedd Darren Millar AC yn falch o weld pobl o bob parth o Gymru yno i gefnogi'r achos

Roedd Aled Roberts AC yn falch o fod yn westai i'r digwyddiad


Dysgodd Rebecca Evans AC lawer o'r cyfarfod

Yr wyf wedi byw efo clyw’r digwydd am dros ddeugain mlynedd. Mae clyw’r digwydd yn anhawster sydd yn dueddol mewn teuluoedd, gan hynny mae gennyf nifer o gefndryd a chyfyrdryd sy'n dioddef yr un fath a fi ond, hyd y gwyddwn, doedd neb o'r teulu yn gwybod am y digwyddiad pwysig yma yn y senedd chwaith. Sy'n codi'r cwestiwn pam?

Mae'n debyg bod y lobi yma wedi ei drefnu gan grŵp o'r enw Epilepsi Action Cymru. Er gwaethaf dioddef o'r clyw am gyhyd dim ond pythefnos yn ôl (ar Twitter) clywais gyntaf am fodolaeth y fath mudiad.

Ar wahân i'r gair Cymru yn yr enw does dim gair arall o Gymraeg ar wefan y grŵp. Yn waeth byth Dyma ymateb y grŵp i ymholiad am weithgarwch yn y Gogledd:

Epilepsy Action Cymru does not have a group in North Wales. However a well established Mersey Region Epilepsy Group meets in Bangor.

Pa fandad sydd gan fudiadau o'r fath i siarad ar fy rhan ac i gael y fath ddylanwad ar ein Cynulliad?

Sut mae mudiad sydd yn amharchu'r Gymraeg ac sydd yn credu fy mod yn perthyn i barth Mersey yn cael siarad ar fy rhan i'm llywodraethwyr?

Pwy sydd yn rhoi'r hawl i'r bobl yma siarad ar fy rhan heb imi gael cyfrannu at eu trafodaethau?

Nid ydwyf yn gwybod be ddywedwyd wrth yr ACau am Glyw’r Digwydd, nid ydwyf yn gwybod os ydwyf yn cytuno neu'n anghytuno a barn y lobïwyr. Yr hyn yr wyf yn gwbl sicr ohoni yw nad oedd y lobïwyr yn siarad ar fy rhan i, fel un sy'n byw efo'r anabledd, gan na wnaed unrhyw ymdrech i gaffael fy marn i cyn iddynt fynd i bwyso ar aelodau'r Cynulliad!

Engraifft yn unig am un anabledd yw'r uchod ond un sy'n cael ei hailadrodd yn achos bron pob anabledd / afiechyd / salwch!

14/05/2013

Iaith Iechyd



Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg wedi dweud ei bod hi eisiau clywed gan y cyhoedd am eu profiadau nhw o ddefnyddio’r iaith Gymraeg ym myd gofal iechyd.

Gan fy mod yn Gymro Cymraeg ac yn Nyrs Cofrestredig mi gyfrannais bwt i'r Rhestr Termau Nyrsio a Bydwreigiaeth ac i Dermau Gwaith a Gofal Cymdeithasol.

Ar y cyfan yr oeddwn yn falch o fy nghyfraniad i Dermau Gwaith a Gofal Cymdeithasol, derbyniwyd y rhan fwyaf o fy awgrymiadau. Yr un awgrymiad yr wyf yn flin amdani, fel person hynod drwm fy nghlyw, oedd Iaith Arwyddion ar gyfer Sign Language. I mi iaith arwyddion oedd y cymhelliad dros Beintio'r Byd yn Wyrdd chwedl Dafydd Iwan, nid y ffordd y mae pobl byddar yn cyfathrebu. EG yw'r ôl-ddodiad sy'n cyfleu iaith. Arwyddeg, gan hynny, yw'r gair sydd yn cydnabod mae iaith go iawn yw arwydd-iaith.

Yr wyf yn casáu Termau Nyrsio a Bydwreigiaeth, fy nadl i (a dadl Bedwyr Lewis Jones) oedd mai'r termau Cymraeg i'w defnyddio mewn ysbyty oedd y termau llafar gwlad, termau byddai'r cleifion yn eu defnyddio yn hytrach na thermau proffesiynol. Ond roedd y golygyddion am gael Termiadur Proffesiynol oedd at iws neb ond y clic proffesiynol. Hymroid yn hytrach na Chlyw'r Marchogion neu beils, neu sgrotwm yn hytrach na chwdyn ac wrin yn hytrach na phiso.

O ran iaith meddyg, rwy'n dymuno cael meddyg sy'n gallu cyfathrebu'n deg a fi, gwell gwybod y gwahaniaeth rhwng Arse ac Elbow na Chocsics ac Wlna y Termiadur, ond gwell byth un sy'n gwybod y gwahaniaeth rhwng Tîn a Phenelin!

Wrth son am dermau iechyd, os mae lluosog Doctor yw Doctoriaid, lluosog Nyrs yw Nyrsiaid! Mae'r gair nyrsus yn sarhaus!

20/04/2013

Cyfathrebu Teg

Datganiad i'r wasg gan y Gymdeithas Esperanto:


Bydd pobl Esperanto eu hiaith yn ymgyrchu yn ystod 2013 dros gyfiawnder ieithyddol o dan y slogan " Cyfathrebu Teg", ar y cyd â'r 98fed Gyngres Ryngwladol Esperanto, a fydd yn cael ei chynnal yn y Ganolfan Harpa, Reykjavik, Gwlad yr Iâ, gyda thua 1,000 o gyfranogwyr o fwy na 50 o wledydd. Bydd y Gyngres yn trafod yr un mater. Ar ôl cyfnod byr o 125 mlynedd mae Esperanto yn awr ymhlith y 100 o ieithoedd mwyaf a ddefnyddir, allan o tua 6,800 o ieithoedd a siaredir yn y byd. Mae'n 29eg iaith mwyaf a ddefnyddir yn Wicipedia, o flaen Swedeg, Siapaneg a Lladin. Ac mae Esperanto yn cael ei ddefnyddio ymysg yr ieithoedd a ddewiswyd gan Google, Skype, Firefox, Ubuntu a Facebook. Yn ddiweddar mae Google Translate, y rhaglen gyfieithu, wedi ychwanegu’r iaith at ei rhestr fawreddog o 64 iaith. Hefyd heddiw mae ffonau sgrîn-gyffwrdd symudol yn gallu defnyddio Esperanto.

Mae mwy o bobl bellach yn siarad Esperanto na’r iaith Islandeg, yn ôl y llyfr o ffeithiau am y byd a gyhoeddwyd gan y CIA yn America.

Dysgir Esperanto yn swyddogol mewn 150 o brifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill, ac mewn 600 o ysgolion elfennol ac uwchradd mewn 28 o wledydd. Mae ganddo lenyddiaeth gyfoethog sy'n cynnwys mwy na 50,000 o deitlau, gyda chyhoeddiadau newydd yn ymddangos bob wythnos. Mae yna hefyd orsaf radio 24-awr gyda'r enw "Muzaiko" a hefyd teledu rhyngrwyd oTsieina. Mae Esperanto wedi cael ei ddal yn ôl gan ragfarn a diffyg gwybodaeth am ffeithiau. Mae Adolf Hitler a Joseph Stalin wedi erlid siaradwyr Esperanto. Mae'n ddiddorol, felly, er bod y ddau unigolyn wedi marw, fod Esperanto yn dal I fyw. Mae wedi symud ymlaen, tyfu, ac esblygu i fod yn iaith fyw mewn mwy na 100 o wledydd ledled y byd.
Mae UEA (y Gymdeithas Esperanto Fyd-eang) yn mwynhau sefyllfa o bartneriaeth ymgynghorol gydag UNESCO, ac mae hefyd yn mwynhau perthynas swyddogol gyda'r Cenhedloedd Unedig a Chyngor Ewrop. Mae Esperanto yn galluogi cyfathrebu rhyngwladol ar lefel gyfartal, ac felly yn diogelu hawliau lleiafrifol a ieithoedd brodorol a thrwy hynny parchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol eu siaradwyr. 

Y Chwith a Rhyddid Mynegiant Barn



Un o'r pethau a oedd yn arfer bod yn nodweddiadol o bobl ryddfrydig oedd eu cred bod Rhydd i Bob Un ei Farn ac i bob Barn ei Llafar, ond yn ystod y blynyddoedd diweddar yr wyf wedi sylwi bod y chwith, yn arbennig y chwith dosbarth canol addysgiadol, yn  ymosod mwy fwy pob dydd ar yr egwyddor bwysig hon. Eu hoff ffordd o ymosod ar ryddid barn a rhyddid mynegiant barn yw trwy ddefnyddio termau gosod o sarhad yn erbyn unrhyw un sydd â barn wahanol, ar bron unrhyw bwnc, sydd ddim yn cydymffurfio a'u barn uniongred hwy.

Os wyt yn anghytuno ag inteligensia y chwith ar unrhyw beth sy'n ymwneud a mewnfudo yr wyt yn cael dy labelu yn hiliol, os wyt yn anghytuno a nhw ar unrhyw beth sy'n ymwneud a chydraddoldeb merched yr wyt yn misogynist neu'n sexist, os wyt yn anghytuno a nhw am unrhyw beth sy'n ymwneud a phobl LGBT yr wyt yn Homoffôb.

Yr wyf yn hoff iawn  o fy meddyg teulu ac yn ei gyfrif yn ffrind yn ogystal â doctor, mae o'n ddyn a anwyd ar is gyfandir India. Ychydig flynyddoedd yn ôl mi ddywedais ar fwrdd trafod fy mod i'n meddwl ei fod yn wych bod y DdU yn fodlon rhoi addysg i bobl o is gyfandir India er mwyn eu dysgu i fod yn ddoctoriaid ond ei fod yn drist nad ydynt yn cael eu hannog i ddychwelyd adre i wasanaethu eu cymunedau cynhenid ar ôl graddio. Cefais fy ngalw yn hiliol, yn Natsi yn gefnogol o bolisi'r BNP o darfon y nigars adre, ac ati. Neb yn fodlon derbyn fy mhwynt bod yna rhywbeth uffernol o hunanol, ac yn wir hiliol,  o ddwyn y gorau o gymdeithasau tlawd ac anghenus i'n gwasanaethu ni!

Mis Chwefror diwethaf mi sgwennais bost blog a oedd yn awgrymu  bod y rhesymau sy'n cael eu rhoi am ddiffyg cynrychiolaeth merched mewn gwleidyddiaeth yn anghywir, gan awgrymu bod dynion yn sefyll fel unigolion tra bod menywod yn sefyll dros yr achos menywaidd a bod dynion am ennill pob tro o dan y fath amgylchiadau. Rwy'n cytuno efo cynrychiolaeth gyfartal ond yn anghytuno a rhai o'r awgrymiadau ar sut i gyrraedd cyfartaledd. Trwy anghytuno ag Efengyl y Chwith yr wyf yn sexist misogynist.

Mae homophobe yn air sy'n mynd dan fy nghroen i. Mae'n gymysgedd o Ladin a Groeg ac os oes ystyr i'r gair mae'n golygu ofn afresymol o'r bod dynol, ond mae'n cael ei ddefnyddio fel gair stoc i gondemnio unrhyw un sy'n gwyro oddi wrth lwybr cul barn y chwith am yr achos LGBT.

Yr wyf wedi cael profiadau rhywiol efo dynion eraill (su'n awgrymu y B yn LGBT), mi fûm yn rhannu tŷ ac yn bartner busnes efo dyn gwrywgydiol am bron i ddeng mlynedd, mae unrhyw awgrym bod gennyf ofn dirdynnol (sef ystyr phobia) o wrywgydwyr yn nonsens llwyr! Ond gan imi ddweud fy mod i'n credu bod elfen o ddewis yn perthyn i fywyd rhywiol  ac mae uchafbwynt y profiad rhywiol yw genedigaeth plentyn yn htrach na'r profiad o ddwad y mae pob peth yr wyf yn ddweud yn homoffobia!

Ia POB PETH yr wyf yn ddweud. Bu trafodaeth ar Twitter ddoe am yr enw Cymraeg am fath arbennig o dorth o fara a dyma'r ymateb  cefais:



Rhydd i bob un ei Farn? Dim hyd yn oed am enw torth yn ôl yr inquisition newydd!

17/04/2013

Mrs Thatcher - Angladd Y Fi Fawr



Y peth cyntaf imi gofio ei weld ar deledu erioed oedd cynhebrwng Winston Churchill ym 1965. Yn wir prynwyd y teledu cyntaf gan fy nheulu yn unswydd ar gyfer ei wylio.

Nid Churchill oedd y prif weinidog cyntaf i gael cynhebrwng Seremonïol / Gwladol, cafodd Dug Wellington un a William Gladstone hefyd.

Rhwng marw Mr Churchill a Mrs Thatcher mae 6 o Brif Weinidogion eraill y DU wedi marw Eden, MacMillan, Attlee, Wilson, Callahagn a Heath a phob un wedi ymadael heb sploets gwladol /seremonïol. Sydd yn codi y cwestiwn pam bod marwolaeth Thatcher yn cael ei thrin yn wahanol i farwolaethau ei rhagflaenwyr?

Yr ateb, mae'n debyg, yw dewis personol. Mae pob cyn Brif Weinidog yn cael nodi os ydyw am gael cynhebrwng mawr cenedlaethol. Ers 1965 yr unig un i ddweud ydwyf yw Mrs Thatcher, sydd yn adrodd cyfrolau am natur y ddynes. Nid y wlad sydd wedi penderfynu ei chofio gyda'r fath sploets ond Y Fi Fawr Hunanbwysig sy'n gwbl nodweddiadol o'i chymeriad hunanol. Mae'r ffaith bod y chwech arall wedi dweud na yn profi eu bod yn bobl llawer mwy diymhongar, nes at y bobl, ac yn fwy haeddiannol o barch na'r un sy'n cael ei choffau heddiw.

09/04/2013

Wits efo B Fawr

Gan nad oes fawr dim, werth son amdano, wedi digwydd yn y byd gwleidyddol Cymreig yn niweddar dyma gân o Sioe Gerdd i ddifyrru amser a chadw'r blog yn fyw!



Ding Dong! The Witch is dead. Which old Witch? The Wicked Witch! 
Ding Dong! The Wicked Witch is dead.
Wake up - you sleepy head, rub your eyes, get out of bed.
Wake up, the Wicked Witch is dead.

She's gone where the goblins go,
Below - below - below. 
Yo-ho, 
let's open up and sing and ring the bells out.
Ding Dong' the merry-oh, sing it high, sing it low.
Let them know 
The Wicked Witch is dead!


Does dim sylwedd i'r post yma, jest bod y gân 'ma di bod yn mwydro fy mhen yn ddidrugaredd trwy'r nos am ryw reswm gwbl annealladwy!

23/03/2013

Darpariaeth Cymraeg Annerbyniol Cynghorau Conwy a Dinbych


Bwrw'r Sul diwethaf mi fûm i wylio gêm rygbi dan ugain ym Mae Colwyn yn anffodus tra yno mi gollais fy waled. Ym mysg y cardiau yn y waled bu raid imi eu canslo a gwneud cais i'w hamnewid oedd  fy Nhocyn Teithio Rhatach Llywodraeth Cymru. Y cynghorau sir sydd yn darparu'r tocynnau ar ran Llywodraeth Cymru ac ers i mi dderbyn un am y tro cyntaf yr wyf wedi cael gwasanaeth Cymraeg didrafferth gan Gyngor Sir Conwy.

Mi ffoniais Cyngor Conwy dydd Llun i wneud cais am docyn newydd a chael gwybod mae Cyngor Sir Dinbych sy'n darparu'r gwasanaeth ar ran Conwy bellach a bod rhaid cysylltu â'u swyddfa yn nhref Dinbych. O ffonio’r swyddfa yn Ninbych a gofyn am ffurflen gais amnewid yn y Gymraeg cefais yr ymateb "We don't speak Welsh here" (Nid I don't speak Welsh) ac o holi am rywun i ddelio a fy nghais yn y Gymraeg cael yr un ymateb "I told you we don't speak Welsh here". Cyrhaeddodd y ffurflen gais heddiw - ffurflen uniaith Saesneg.

Er bod cynghorau Conwy a Dinbych yn cynnwys rhai o'r ardaloedd mwyaf Seisnig yng Nghymru maent hefyd yn cynnwys ardaloedd Cymraeg iawn; yn wir yn Sir Conwy mae'r unig gymunedau sydd â rhagor na 70% o siaradwyr y Gymraeg y tu allan i Wynedd a Môn. Byddwn yn ystyried gwasanaeth mor haerllug tuag at yr iaith yn annerbyniol mewn unrhyw ran o Gymru ond mae trin yr iaith yn y fath modd yng Nghonwy a Dinbych yn gyfan gwbl warthus.

Bydd cwyn yn cael ei wneud i brif weithredwyr y ddwy sir a Chomisiynydd yr Iaith - wrth gwrs; ond pam ddiawl dylid gorfod gwneud y fath gwynion er mwyn cael darpariaeth Gymraeg mor sylfaenol yn y dyddiau hyn?

22/03/2013

Dysgu Hanes


Gwelais i mo Question Time neithiwr, ond mi ddilynais rywfaint o'r sylwadau ar Drydar. Mae'n debyg mae un o'r cwestiynau a godwyd oedd newid Cwricwlwm Genedlaethol Lloegr parthed hanes. Gan na chlywais y ddadl does dim modd imi ymateb iddi, a gan fod Addysg wedi ei ddatganoli dibwys braidd i'n sefyllfa ni yw barn y gweinidog dros addysg yn Lloegr, gan hynny sylwadau cyffredinol am ddysgu hanes sydd gennyf yn hytrach nag ymosodiad ar weinidog addysg Lloegr.

Rwy'n sgit am hanes! Os oes raglen ar y telibocs am hanes mi wyliaf ar unrhyw sianel. Rwyf wedi dilyn Ifor ap Glyn ar ei daith trwy gachdai a mynachdai yn y ddwy iaith ac wedi cael blas ar ddwyieithrwydd. 

Rwy'n hoffi hanes!

OND yn nyddiau fy addysg statudol yr oeddwn yn casáu hanes a chas perffaith am ddau reswm.

Y rheswm gyntaf oedd bod hanes yn cael ei ddysgu o chwith! Roedd fy ngwersi hanes cyntaf yn delio ag oes y cerrig ac yn symud ymlaen i'r cyfnod Rhufeinig ac yn dilyn cwrs oes ymlaen i'r ddiweddar; yn dechrau efo cyfnod mor bell yn ôl ag i fod yn ddibwys imi. Llawer gwell yw dysgu cwys yr achydd - sy'n dechrau efo Fi ac yn gweithio yn ôl - mae'n cwys sy'n gwneud hanes yn fyw!

Yr ail reswm oedd bod "Cwricwlwm" addysg fi yn dysgu dim ond atebion gwerthfawr ar gyfer cwis tafarn. Pa werth arall sydd i wybod bod Llywelyn wedi ei lofruddio ym 1282 neu fod y Steddfod gyntaf wedi ei gynnal ym 1176 heb sôn am lol 1066? Dydy'r fath ffeithiau ddim yn pethau na ddylasem wybod, ond dysgu hanes yw gwybod SUT yr ydym yn gwybod am y fath ffeithiau a chaffael ar wybodaeth i ddarganfod ffeithiau tebyg am gant a mil o sefyllfaoedd hanesyddol tebyg!

I wneud enghraifft arall o'r byd hel achau dydy gwybod dyddiad geni fy Hen Nain yn dda i ddim i'ch ach chi (oni bai eich bod yn perthyn) - ond mae gwybod sut fy mod i'n gwybod dyddiad geni Hen Nain yn wers!

Gwybod sut i ganfod gwybodaeth yw coron aur addysg hanes (a phynciau eraill) nid dysgu ffeithiau moel.

Rhywbeth sydd yn amlwg y tu hwnt i amgyffred Gweinidog Addysg Lloegr

22/02/2013

Sarhau Betsi a Hywel


Dylid newid enwau Awdurdodau Iechyd y Gogledd ar Gorllewin.

Sarhad ar goffadwriaeth Betsi Cadwaladr a Hywel Dda, sarhad ar enwau Arwyr Cenedl, yw creu'r fath anfadwaith yn eu henwau hwy.

06/02/2013

Golwg360 a'r Diffyg Democrataidd


Mae safon adrodd y Western Mail am wleidyddiaeth Cymru wedi bod yn wael ers degawdau. Gan hynny rwy'n ansicr am gryfder y ddadl bod tranc posib y rhecsyn am gael gymaint o hynny o ddylanwad ar ddemocratiaeth Cymru gan mae prin bu ei chyfraniad hyd yn hyn.

Ond prin ar y naw y byddai hyd yn oed y Western Mail gwantan wedi gwneud sylw mor amaturaidd o anghywir a chyfeirio at Dafydd Elis Thomas fel Llywydd y Cynulliad mewn rhifyn cyfredol fel y gwnaeth Golwg360.

Mae safon olygyddol a chynnwys Golwg360 yn gymaint, os nad yn fwy, o fygythiad i drafod gwleidyddol Cymreig a'r proses democrataidd a thranc y Mule a Dail y Post. Daw'r Byd na'i debyg dim yn ôl, ond mae gwir angen gwell arnom na Golwg 360!

02/01/2013

Deiniol a'i Bandana Amryliw

Os nad yw Dad yn cael cannu clod, pwy sydd?

Dyma ran o gynhyrchiad Ysgol y Creuddyn o Joseff a'i Got Amryliw, fy machgen gwyn i yw'r un sydd ar ddeheulaw Joseff yn gwisgo bandana gwyrdd / gwyrdd a glas / glas / glas a gwyrdd.

Fel tad yr wyf yn hynod browd o fy mab am ei ran yn y cynhyrchiad ysgol hwn. Ond fel cenedl dylem fod yn falch hefyd. Diolch i ymroddiad athrawon brwdfrydig bydd un neu ddau o'r plantos yma yn sêr S4C, hyd yn oed y Sgrin Fawr, yn y dyfodol.

Llongyfarchiadau i Ysgol y Creuddyn am sioe arbennig ac i bob ysgol arall trwy Gymru benbaladr a chynhyrchodd sioeau tebyg.



29/12/2012

Sefyll ym mwlch ffiffti-êt sicsti tŵ

Ni fyddwn byth yn ystyried gwario bron i £60, mewn Siop Spar lleol!

Nid ydwyf yn gwybod pa nwyddau prynodd y Cyn Archdderwydd, ond rwy'n gwybod byddai ei bil yn llai, pe bai wedi siopa yn Asda neu Tesco. Yn wir mi fyddai'n cael taleb o £5 at ei neges nesaf a gostyngiad ar bris petrol pe na bai wedi cefnogi'r siop leol

Mae gwario £60 punt mewn un o siopau Pwllheli, ynddo'i hyn, yn safiad egwyddorol dros yr Iaith a'r Fro. Byddwn yn disgwyl i berchenogion siopau Pwllheli i longyfarch Robyn am ei safiad. Byddwn yn disgwyl i Gymry penbaladr ei longyfarch.

Ond nid dyna fu.

Wedi talu crocbris i gefnogi siop leol gofynnodd y ferch wrth y til am ffifti-êt sicsti tŵ yn ei Chymraeg gorau, a dyma le' mae'r ddadl yn corddi! Gofynnodd Robyn ar iddi ail adrodd y pris yn y Gymraeg, gan mae ei ffiffti êt sicsti tŵ ef oedd ar fin mynd i'r til, Roedd ganddo'r hawl i ofyn  -  yn ôl y ddihareb mae'r cwsmer wastad yn gywir

Gallasai'r hogan wedi ateb trwy ddweud Sori Rob, dwi'm yn gwybod rhifau mawr yn Welsh neu Hybarch Archdderwydd dysg imi'r Gymraeg am ffifti-êt sicsti tŵ, neu wedi rhoi ymgais ar ei haddysg meithrin trwy ofyn am Pump Wyth Chwech Dau, neu wedi defnyddio'r uchel seinydd i holi'r siop am gyfieithiad, ond nid dyna wnaed.

Ystyfnigodd yr hogan gan fynnu dweud y rhif tair gwaith yn y fain - ac yna galwyd yr heddlu i gyhuddo dyn oedd yn fodlon talu crog pris mewn siop leol o fod yn gont am ymofyn gwasanaeth lleol!

Ar ôl iddo wneud y fath safiad mai 90% o Gymreigwyr Trydar yn beio Robyn am y cawlach - yn hytrach na gweld siop leol yn piso ar ei jîps trwy neud or ffỳs am foi Cymraeg, sy'n gwario llawer mwy na wnaf i byth mewn siop leol, yn ymofyn gwasanaeth Cymraeg sylfaenol - Be di pwynt Brwdyr yr iaith os yw Cymry driw yn bodlon bwydo ein harwyr i gachfa'r Daily Mail

26/12/2012

Cwestiwn Dyrys am y Sêls


Yn ôl y newyddion ar BBC Brecwast y bore 'ma mae'n debyg bydd y siopau mawrion yn gwneud hyd at £3 biliwn o elw yng nghyfnod y sêls wedi'r Nadolig! Hwb gwych i economi'r ynysoedd hyn, yn ôl pob tebyg. Ond os allant wneud gymaint o elw trwy werthu eu nwyddau gymaint yn rhatach ar ôl yr ŵyl, onid ydy hynny'n brawf eu bod yn codi gormod o lawer yn eu prisiau arferol trwy gydol y flwyddyn?

Onid gwell i'r economi'n gyffredinol ac i siopwyr cyffredin byddid codi pris teg trwy gydol y flwyddyn yn hytrach na chodi crocbris am un fis ar ddeg er mwyn creu cynddeiriogrwydd cael bargen ffals am bythefnos?

14/12/2012

Llinyn Arian y Cyfrifiad

Yr wyf fi, fel pob ceraint arall i'r iaith, wedi fy siomi'n arw efo canlyniadau'r cyfrifiad. Yr wyf yn cefnogi pob galwad am weithredu i wella'r sefyllfa. Mae angen mwy o Ysgolion Cymraeg penodedig, yn enwedig mewn rhai o'r ardaloedd lle fu "esgus" addysg Gymraeg o dan drefn "categori" neu "Ysgol naturiol" yn Sir Gar, Ceredigion a Meirion. Mae angen cael gwared â'r tabŵ o gwyno am y mewnlifiad ac edrych ar ffurf o'i reoli. Mae angen creu cyfleoedd gwaith ar gyfer Cymry Cymraeg, mae angen magu hyder pobl i ddefnyddio ac i ymfalchïo yn eu Cymraeg. Mae angen gwneud yr holl bethau yma a rhagor ar frys er mwyn achub y Gymraeg.

Ond mae yna berygl o ormodedd o sachliain a lludw parthed ffigyrau'r cyfrifiad. Os ydym yn ddarogan gormod o wae yr ydym yn chware i ddwylo'r sawl sy'n casáu'r iaith, sy'n honni mae iaith ar ei wely angau efo DNR uwchben y glustog ydyw; y sawl sydd am gyfiawnhau gwario llai ar y Gymraeg gan fod llai yn ei ddefnyddio ac ati.
Mae yna ambell i linyn arian yn y ffigyrau.

Os yw'r Gymraeg yn dirywio ar y lefel y mae wedi dirywio ers cyfrifiad 1962 yr oedd Tynged yr Iaith yn cyfeirio ati – bydd yr Iaith Gymraeg yn fyw am o leiaf 300 mlynedd arall. Roedd Saunders yn ddarogan marwolaeth yr iaith erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain. Dyma ni ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain! I ni yma o hyd ac mae'r iaith Gymraeg yn fyw!
Mae hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn gallu'r Gymraeg, mae'n debyg bod nifer tebyg yn byw y tu allan i Gymru - mae miliwn o Gymreigwyr yn nifer helaeth o bobl. Dim ond ychydig yn llai o ran niferoedd (yn hytrach na chanran) na phan ofynnwyd y Cwestiwn iaith am y tro cyntaf ym 1891 a llawer mwy o ran niferoedd nag oedd o Gymry Cymraeg pan gynhaliwyd y cyfrifiad cyntaf ym 1801.

Mae un o bob pump o'r bobl yr ydych yn debyg o gwrdd ar y stryd, mewn siopau mewn unrhyw fan gymdeithasol yng Nghymru yn debygol o allu'r Gymraeg, mae'n dal yn werth chweil i ddechrau pob sgwrs yn y Gymraeg mewn pob sefyllfa. Cei ymateb cas "don't speak that language" weithiau; ceir yr ymddiheuriad "I'm sorry I don't speak Welsh" yn amlach, ond cewch eich siomi, unwaith allan o bob pump o'r ochor orau o glywed y gyrrwr bws, yr hogan wrth y til a hyd yn oed y gwerthwr tsips enwog yng Nghas-gwent yn ymateb trwy'r Gymraeg!
 

Iawn fod yn siomedig, iawn fod yn flin o ganfod ffigyrau'r cyfrifiad - ond paid digalonni!


 

13/12/2012

Cwestiwn dyrys am Unsain a'r Blaid Lafur

Yn ôl adroddiadau o Gyngor Sir Caerfyrddin fe fu protest y tu allan i gyfarfod llawn y Cyngor ddoe gan aelodau Unsain a oedd yn gofyn am gyflog byw ar gyfer y gweithwyr tlotaf yn nghyflogaeth y cyngor. Cafwyd cefnogaethi'r ymgyrch gan gynghorwyr Plaid Cymru ond gwrthodwyd y cynnig gan y grŵp reoli sy'n cael ei arwain gan y Blaid Lafur.

Pan ddaw'r etholiadau nesaf i Gyngor Sir Caerfyrddin sut bydd Unsain yn annog ei aelodau i bleidleisio tybed? I "ffrindiau'r" undeb yn y Blaid Lafur wrth gwrs!

10/12/2012

Piso ar fedd Syr Patrick Moore?

Mae gan BlogMenai post od, ar un olwg, sy'n cwyno am y ffaith bod marwolaeth y diweddar Syr Patrick Moore yn cael ei grybwyll gan raglenni newyddion y BBC!

Mi fyddai'n anfaddeuol pe na bai'r BBC, a chyfryngau lu byd-eang, heb gyhoeddi marwolaeth Sir Patrick Moore a thalu teyrnged iddo. Roedd cyfraniad Syr Patrick i seryddiaeth a darlledu yn amhrisiadwy.

Awdur dros fil o gyhoeddiadau ar seryddiaeth, newyddiadurwr a holodd bron pawb a gododd oddi ar y ddaear o'r brodyr Wright i ddyfeiswyr @MarsCuriosity, y darlledwr a chyflwynodd y gyfres teledu hiraf di-dor yn hanes darlledu'r byd.

Ar lefel bersonol mi wyliais The Sky at Night am y tro cyntaf ychydig ar ôl i fy rhieni prynu teledu am y tro cyntaf tua 1963, ac yr wyf wedi dilyn y rhaglen yn rheolaidd ers hynny. Ychydig ddyddiau yn ôl mi wyliais y diweddaraf yn y gyfres pan oedd Syr Patrick yn addo rhoi cyngor ar sut i osod a defnyddio telesgopau siop a ddaw fel anrhegion Nadolig yn y rhaglen nesaf. Gan fy mod wedi cael telesgop ac wedi methu gweithio allan sut i'w ddefnyddio i weld y sêr llynedd, yr oeddwn yn edrych ymlaen at ei gyngor.

Ond rwy’n cytuno a byrdwn sylwadau Cai. Mae pob teyrnged yr wyf fi wedi ei weld ar y BBC ac mewn llefydd eraill yn cyflwyno ochr arall bywyd y gwrthrych trwy nodi ei gyfraniad i gerddoriaeth. Efo pob parch i'r ymadawedig, 'doedd o ddim yn gerddor arbennig. Mae yna ugain cerddor gwell ym mhob pentref cefn gwlad yn Ewrop. Byddai Syr Patrick ddim yn cael llwyfan mewn eisteddfod leol am ei ddawn ar y clychau taro na'r piano.

Ochr arall go iawn Syr Patrick Moore oedd ei gwleidyddiaeth, roedd gwleidyddiaeth yn bwysig iddo ac yr oedd yn hynod weithgar yn y byd gwleidyddol - ond roedd ei wleidyddiaeth yn drewi!

Ymateb Syr Patrick i'r ymgyrch am Sianel Gymraeg oedd mai gwell pe byddid Sianel ymylol i fenywod, er mwyn rhyddhau'r sianeli go iawn ar gyfer dynion!

Yr oedd Syr Patrick yn hilgi balch, yn gwrthwynebu unrhyw mewnfudo i Brydain am unrhyw reswm.

Yr oedd o'n genedlaetholwr Saesnig a wrthododd llenwi Cyfrifiad 2001 gan nad oedd modd iddo ddatgan mae Sais yn hytrach na Phrydeiniwr ydoedd ar y ffurflen (chware teg iddo). Ond fel ambell i genedlaetholwr o Sais yr oedd o'n casáu cenedlaetholdeb Albanig, Cymreig a Gwyddelig, ac roedd ei gasineb tuag at y Gymraeg yn ddiarhebol!

Doedd Syr Patrick dim yn un am guddio ei farn wleidyddol dan lestr! Sefydlodd, a bu'n arweinydd plaid wleidyddol Neo-Natsiaidd. Hyd at bythefnos cyn ei farwolaeth yr oedd yn ganiatau i'w enw cael ei ddefnyddio i gefnogi UKIP mewn is etholiadau.

Roedd gwleidyddiaeth, annerbyniol i'r mwyafrif, Syr Patrick yn rhan annatod o'i fywyd. Mae nodi ei wleidyddiaeth anoddefgar yn tynnu'r goron o drysor cenedlaethol oddi ar ei ben, ond mae hefyd yn amharchu'r gwron -doedd gan Patrick dim cywilydd o'i wleidydda piser. Mae'r cyfryngau sy'n cuddio'r agwedd yna o'i fywyd yn fethu creu gwir coffa amdano!

Heddwch i dy lwch y Serydd Patrick Moore – gorffwys mewn hedd – ond mi bisaf ar dy fedd y Sais anoddefgar o Gymreictod!

06/12/2012

dot cymru, dot wales - Dot Fi?

Rhai blynyddoedd yn ôl mi gofrestrais "dolgellau. me. uk;" fel parth, am ddim, trwy ddilyn cwmni a chanfuwyd ar Google. Wedi gosod gwerth oes o ymchwil ar y wefan, fel modd o rannu fy mrwdfrydedd am hanes y dref ag eraill, cefais wybod ymhen y rhawg mae nid fi wedi'r cwbl oedd perchennog "dolgellau. me. uk" ond cwmni a oedd yn mynnu codi crocbris arnaf i barhau i ddefnyddio'r parth. Gan nad oeddwn yn fodlon talu'r pris collais yr hawl i ddefnyddio'r cyfeiriad a'r holl waith a aeth i mewn i greu'r wefan.

Am gyfnod "benthycwyd" y dilyniant a adeiladais i'r cyfeiriad gan pornograffwyr a gwerthwyr sothach, er mawr gywilydd i mi.

Yn ôl y sôn bydd modd, cyn bo hir, cael safwe .cymru neu .wales . Hoffwn berchen ar safwe o'r fath lle mae'r cyfeiriad yn PERTHYN I FI. Rwyf wedi cael hyd i sawl cwmni sy'n fodlon cofrestru safwe "ar fy rhan" yn yr un modd a chofrestrwyd dolgellau. me. uk ar fy rhan gan gwmnïau nad fyddant yn fodlon rhyddhau'r we gyfeiriad i gwmni gwe-weini arall, os dymunaf newid gweinydd, sefyllfa sy'n ddiwerth i mi.

Nid ydwyf am rannu fy holl wybodaeth am flodau ar wefan o'r enw blodau. cymru fel cymwynas i flodwyr Cymru, dim ond i ganfod bod rhaid imi dalu miloedd er mwyn parhad y parth ym mhen blwyddyn gan mae miliwnydd o Rwsia ac nid fi yw perchennog enw'r safwe!

Sut mae mynd ati i sicrhau mae fi, a fi yn unig, bydd yn gallu defnyddio blodau. cymru yn oes oesoedd a fy mod yn gallu newid "host" y cyfeiriad os ddymunaf wneud hynny ymhen blwyddyn neu ddwy heb colli cynwys?

29/11/2012

Sut dylid ymateb?


Pan welais yr erthygl ddiweddaraf yn un o bapurau mawr Lloegr gan un sydd â hir hanes o ddilorni'r Cymry a'r Gymraeg, roeddwn yn ffromi. Mi ysgrifennais blogbost gandryll yn ei gondemnio ond ar ôl cael paned, mi benderfynais beidio a'i phostio. Pam rhoi cyhoeddusrwydd i goc oen?

Mae awduron yr ymosodiadau mileinig ar y Gymraeg yn ymosod yn unswydd er mwyn cael ymateb. Mae ymateb yn codi gwerthiant ac yn codi cliciau ar wefan (mae cliciau yn codi gwerth hysbys). Mae'n debyg bod y Daily Mail, bellach, wedi disodli'r Daily Mirror fel y papur dyddiol sy'n gwerthu mwyaf yng Nghymru gan ddiffyg arian i brynu papur yn yr ardaloedd diwydiannol a'r mewnlifiad o deip arbennig o Sais i gefn gwlad. Mae'n gwneud sens i bapur o'r fath creu rhwyg gymdeithasol. Mae'r papur eisoes wedi denu cefnogwyr un ochr y ddadl, mae taflu olew ar fflam y ddadl yn sicr o ddenu darllenwyr amgen o'r ochr arall sydd am wrthymosod.

Crëwyd y Welsh Mirror yn unswydd er mwyn cefnogi'r Blaid Lafur wedi datganoli. Roedd y papur yn gwerthu'n lled dda  - ymysg cenedlaetholwyr a oedd yn ei brynu er mwyn ei gasáu - ond prin oedd ei gwerthiant ymysg cefnogwyr y Blaid Lafur!

Mae'r Daily Post a'r Western Mail wedi hen ddeall mae'r ffordd gorau o werthu papurau i'r Cymry yw drwy eu corddi un dydd a'u cefnogi'r dwthwn nesaf. Mae Golwg360, hyd yn oed wedi gweld mae'r ffordd gorau i gael clic yw trwy gael Cymro dinesig, megis Cris Dafis i gondemnio barn Gari Dym Cefn Gwlad ar bopeth o'r Ffermwyr Ifanc i Draw Cerdd Dant er mwyn creu anghydfod ac ymateb!

Ar ôl yr ymosodiad cyn ddiwethaf gan Roger Lewis ar Gymru, y Cymry a'r Gymraeg awgrymodd Chris Bryant AS Wales is at its best when it is triumphantly insouciant about criticism ac mae #Welshtaliban ar Drydar wedi bod yn triumphantly insouciant parthed yr ymosodiad diweddaraf; yn wir yr wyf wedi torri bol dan chwerthin am sylwadau parthed Salim Ali, y Penrhywkhyber Pass; Nain Elen = cod am 9/11 ac ati ac ati, ond fel dywedodd T Glynne Davies Y Chwerthin Sydd Mor Drist - gan fod y chwerthin yn ymateb sydd yn tynnu sylw at yr erthygl piser!

Roedd Nain yn arfer awgrymu mae'r ffordd gorau i ddelio efo bwli oedd ei anwybyddu, mae'r Parch Martin Niemöller yn awgrymu mae'r gwrthwyneb sy'n wir.

Mae'n anodd, mae ymateb yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r contiaid, mae gwrthod ymateb yn rhoi rhwydd hynt iddynt.

Mae'n cyfyng-gyngor sydd y tu hwnt i fy nirnad i!

Sut dylid ymateb?


22/11/2012

Yr Alban Annibynol a'r UE

Mae Golwg 360 yn ail bobi stori am ddyfodol yr Alban fel aelod o’r UE pe bai yn pleidleisio dros annibyniaeth yn 2014. Nonsens o stori sydd wedi ei selio ar ragfarn Unoliaethwyr yn hytrach na chyfraith ryngwladol eglur.

Dwi ddim yn ddeall pam bod y'r asgwrn yma'n cael ei grafu cymaint. Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae degau o wledydd wedi dyfod yn annibynnol a gan hynny mae rheolau ar oblygiadau rhyngwladol gwledydd annibynnol newydd wedi eu cytuno mewn confensiwn rhyngwladol sef Confensiwn Fienna ar Olyniaeth Gwladwriaethau Parthed Cyfamodau (1978).

Mae'r Confensiwn yn gwahaniaethu rhwng dwy fath o wlad annibynnol newydd; sef cyn trefedigaethau'r cyfnod ymerodrol a gwledydd sydd yn rhannu oddi wrth hen wladwriaeth.

Mae cyn trefedigaethau yn dechrau efo llechen lan, heb unrhyw hawl neu ddyletswydd parthed cytundebau a oedd yn bodoli cyn eu hannibyniaeth.

Mae cyn rhannau o hen wladwriaeth yn etifeddu holl hawliau ac oblygiadau'r wladwriaeth yr oeddynt gynt yn rhan ohoni.

Gan fod yr Alban wedi dyfod yn rhan o Brydain Fawr trwy gydsyniad yn hytrach na choncwest, does dim dadl - y mae'r Alban yn rhan o'r grŵp sydd yn cael ei rwymo i gytundebau a wnaed cyn annibyniaeth. Ar ben hynny, gan fod yr Alban wedi cadw ei ddeddfwriaeth annibynnol ar ôl yr Undeb y mae pob cyfamod y mae'r DU wedi ei harwyddo eisoes yn rhan o gyfraith "annibynnol" yr Alban. Y mae oblygiadau cyfamodau megis Cyfamod Rhufain, Cyfamod Maastricht a Chyfamod Lisbon eisoes wedi eu cymhathu i mewn i Gyfraith yr Alban fel deddfwriaeth sy'n annibynol i gyfraith Lloegr. Does dim dwywaith amdani os ddaw'r Alban yn annibynol yfory mi fydd yn parhau i fod yn rhan o'r UE. Os nad yw'r Alban am barhau yn aelod bydd rhaid iddi negodi ei ffordd allan o'i hoblygiadau parthed yr UE, os nad yw'r UE am i'r Alban parhau yn aelod bydd rhaid i'r UE trefnu ffordd o gicio'r wlad allan - dau beth sy'n hynod annhebygol o ddigwydd.

Pan ddaw Cymru yn annibynol mi fydd Cymru hefyd yn cael ei hystyried fel rhan o hen wladwriaeth sydd yn etifeddu rhwymedigaethau'r cyn gwladwriaeth. Er bod Cymru wedi ei choncro ac er, o bosib, mae hi yw trefedigaeth hynaf Lloegr mae ein hundeb a Lloegr mor hen fel na fydd modd inni geisio bod yn wlad sy'n ddechrau efo llechen lan parthed ein goblygiadau rhyngwladol.